Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Roedd cylch gwaith eang y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio Gweinidog y Cynulliad dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio. Roedd y portffolio yn ymwneud â rhaglen y llywodraeth i adfywio cymunedau Cymru, yn enwedig y rheini sy'n dioddef yr anfanteision mwyaf. Roedd yn cynnwys:

  • Cymunedau yn Gyntaf;
  • mentrau gwrth-dlodi;
  • yr economi gymdeithasol;
  • y sector gwirfoddol;
  • diogelwch cymunedol a chysylltiadau â'r heddlu;
  • y gwasanaeth tân;
  • camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; a
  • cyfiawnder ieuenctid a thai.

Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.