Yr Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Ailstrwythuro'r Heddlu
Cwblhaodd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ei adolygiad ar Ailstrwythuro’r Heddlu ym mis Tachwedd 2005. Ers hynny, mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi datgan ei fod yn ffafrio uno’r pedwar Heddlu presennol yng Nghymru i greu un Heddlu Strategol i Gymru. Mae’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’r perwyl hwnnw. I helpu’r Pwyllgor i ystyried materion sy’n codi o’r cynnig hwn, hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i ddarparu cyflwyniad ysgrifenedig yn amlinellu safbwyntiau eich sefydliad chi o ran y materion a’r opsiynau sy’n ymwneud ag atebolrwydd rhanbarthol ac atebolrwydd lleol a fyddai’n sylfaen i Heddlu Strategol yng Nghymru. Dylech hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth ffeithiol fanwl a allai fod yn berthnasol.