Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Dyddiad: 28 Medi 2005Annwyl Gyfaill Ailstrwythuro’r Gwnstabliaeth HeddluCefndir Mae’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn cynnal adolygiad polisi i Ailstrwythuro’r Gwnstabliaeth Heddlu yn dilyn cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cartref i’r casgliadau a’r argymhellion sydd yn yr adroddiad - Cau’r BwlchClosing the Gap - ar strwythurau heddluoedd yng Nghymru a Lloegr a Chymru. Gwahodd cyflwyniadau Mae’r Pwyllgor am eich gwahodd chi i gyfrannu at ei ystyriaethau trwy ddarparu adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu barn eich sefydliad arm y polisïau a’r rhaglenni a anelwyd atyng nghyd-destun unrhyw dtrefniadau strwythurol y gwasanaethau heddlu yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ffeithiol fanwl a allai fod yn berthnasol. Does dim rhaid i’ch fformat a ragnodwyd ar gyfer eich cyflwyniadau ddilyn unrhyw ffurf benodol, ond fe allech ei chael yn ddefnyddiol i gadw mewn cof y meysydd cylch gorchwyl canlynol ar gyfer yr adolygiad.Yn ychwanegol at y dystiolaeth ysgrifenedig hon, bydd y Pwyllgor yn mynd atgofyn i nifer o sefydliadau allweddol i ymddangos ger eu bron mewn sesiynau llafar.Meysydd Cylch gorchwyl Y Meysydd Cylch Gorchwyl i’w hystyried ar gyfer yr adolygiad yw:
  1. Y berthynas rhwng yr heddlu a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu yng Nghymru, a materion hunaniaeth leol,
  2. Effaith unrhyw newid ar aelodaeth Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a threfniadau partneriaeth eraill,
  3. y berthynas rhwng yr heddlu a’r gwasanaethau hynny sy’n dod yn uniongyrchol o fewn maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cyhoeddi Ymatebion Oni bai fod cyfrannwyr yn gofyn i’w cyflwyniadau aros yn gyfrinachol, bwriad y Pwyllgor yw fod pob ymateb ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd. Amserlen Buaswn yn ddiolchgar pe gallech anfon unrhyw gyflwyniad yr hoffech ei wneud ataf fi erbyn Dydd Gwener 4 Tachwedd 2005.Er gwybodaeth i chwi, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rhai sydd ar y rhestr ynghlwm. Hefyd, mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn. Yn gywir iawn Roger Chaffey
Clerc - Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help