Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio adolygiad polisi i Gamddefnyddio Sylweddau - Gwasanaethau Triniaeth a chyhoeddi ei Adroddiad ym mis Mawrth 2006. Yn dilyn yr Adolygiad hwnnw, cytunodd y Pwylgor i wneud adolygiad pellach i Gamddefnyddio Sylweddau - Atal. Mae rhywfaint o dystiolaeth wedi’i dderbyn ond cytunodd y Pwyllgor ar 19 Hydref 2006 i adael yr Adolygiad hwn oherwydd cyfyngiadau amser, i fod yn rhan o’r papur i’w drosglwyddo i’r Trydydd Cynulliad y bydd y Pwyllgor yn ei gynhyrchu ym mis Mawrth 2007.
Dyma'r dogfennau allweddol.