Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Adroddiad i'r Cynulliad
1. Rhagarweiniad
1.1
Yn ôl Rheol Sefydlog 9.9, mae'n ofynnol i'r holl bwyllgorau pwnc gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar hynt y gwaith a wnaethant o ran cyflawni eu blaenraglenni gwaith. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng 3 Mehefin 2003 a 31 Mawrth 2004.
2.
Yr Aelodau
2.1 Yn ystod y flwyddyn, yr aelodau oedd:
Janice Gregory (Cadeirydd)
Sandy
Mewies
Peter Black
Janet Ryder (i fis Tachwedd 2003)
William Graham
Catherine
Thomas
Edwina Hart (y Gweinidog)
Rhodri Glyn Thomas(o fis Tachwedd 2003)
Mark
Isherwood
Leanne Wood
Huw Lewis
3. Cyfarfodydd
3.1
Yn ystod y cyfnod, cyfarfu'r Pwyllgor yn ffurfiol yn gyhoeddus ar 12 achlysur a chynhaliodd un cyfarfod anffurfiol hefyd. Cynhaliwyd dau o'r cyfarfodydd hyn y tu allan i Gaerdydd, sef yn Llanelli a Merthyr Tudful.
4.
Ymweliadau
4.1 Ymwelodd y Pwyllgor â'r Gogledd lle cyfarfu ag amrywiaeth o gyrff a oedd yn ymwneud ag agweddau gwahanol ar ei bortffolio. Bu aelodau o'r Pwyllgor
hefyd ar nifer o ymweliadau mewn cysylltiad â'i adolygiad o Dai ar gyfer Pobl Hy^n. Yn eu plith roedd ymweliadau â safleoedd cyfeirio yn Derry, Abertawe, Porth Tywyn, Caerffili, Bournemouth, Wakefield a Chaerdydd.
5.
Cylch Gwaith a Chyfrifoldebau
5.1 Mae cylch gwaith y Pwyllgor wedi'i seilio ar bortffolio'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, sy'n
canolbwyntio ar raglen y llywodraeth ar gyfer adfywio'r cymunedau yng Nghymru, yn benodol y rheini sy'n wynebu'r anfanteision mwyaf. Mae'n cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, mentrau yn erbyn tlodi, yr economi gymdeithasol, y sector gwirfoddol, diogelwch cymunedol
a chysylltiadau â'r heddlu, y gwasanaeth tân, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cyfiawnder ieuenctid a thai. Amgaeir portffolio'r Pwyllgor yn Atodiad 1.
5.2
Rhestrir cyfrifoldebau’r pwyllgorau pwnc yn y Rheolau Sefydlog, ac maent wedi'u cynnwys yn Atodiad 2.
6.
Nodau ac Amcanion
6.1 Amlinellodd y Pwyllgor ei nodau yn y Blaenraglen Waith Strategol ar gyfer y cyfnod o fis Mehefin 2003 i fis Rhagfyr 2004, ac fe'i cymeradwywyd
yn dilyn y cyfarfod ar 2 Gorffennaf 2003. Y nod oedd mynd i'r afael â'r agenda yn erbyn tlodi a sicrhau llywodraeth well a symlach.
6.2
Cytunodd y Pwyllgor y byddai, wrth adolygu a datblygu polisi, yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle y bydd yn ategu yn hytrach na dyblygu polisïau a ddatblygir gan y Gweinidog.
7.
Hynt y Gwaith
7.1 Mae'r Pwyllgor wedi canolbwyntio ar ei adolygiad polisi ac ar gyflwyniadau rheolaidd gan gyrff â diddordeb o'r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus
a chymunedol er mwyn gwella'i ddealltwriaeth o'r holl faterion sy'n rhan o'i gylch gwaith. Gan fod ganddo gylch gwaith mor eang, mae’r pwyllgor wedi datblygu dulliau strategol o weithio, sef canolbwyntio ar un thema ar gyfer pob cyfarfod sy'n ategu'r
adroddiadau rheolaidd gan y Gweinidog ar flaenoriaethau a amlinellir yn y Blaenraglen Waith Strategol.
8.
Datblygu ac Adolygu Polisi (Rheol Sefydlog 9.7)
Tai ar gyfer Pobl Hyn
Roedd
bwriad Llywodraeth y Cynulliad i gynnal trafodaeth eang ynghylch y dewisiadau ar gyfer diwallu anghenion pobl hy^n am dai yn y dyfodol yn un o'r ffactorau a ddylanwadodd ar y Pwyllgor wrth iddo benderfynu ar bwnc ei adolygiad polisi. Amlinellir Cylch Gorchwyl
yr Adolygiad yn Atodiad 3.
Aethpwyd
ati i ymgynghori'n eang â'r cyhoedd ym mis Gorffennaf 2003. Daeth 38 ymateb i law. Cyflwynodd 9 unigolyn/sefydliad dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor trwy gydol tymor yr hydref a thymor y gwanwyn. Bu aelodau ar nifer o ymweliadau â chyrff er mwyn
llywio'r ymchwiliad ymhellach.
Penododd
y Pwyllgor Nigel Appleton, Contact Consulting, i fod yn gynghorydd arbenigol er mwyn ei gynorthwyo yn ei waith.
Caiff
yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2004 a bydd yn cynnwys nifer o argymhellion i'w hystyried gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Camddefnyddio
Sylweddau
Ym mis Ionawr 2004, dechreuodd y Pwyllgor ymchwiliad i gamddefnyddio sylweddau. Disgrifir Cylch Gorchwyl yr Adolygiad hwn yn Atodiad 4. Gwahoddodd
y Pwyllgor amrywiaeth eang o unigolion a chyrff â diddordeb i wneud cyflwyniadau ysgrifenedig a disgwylir i'r Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar ac i ymweld â nifer o leoliadau yn ystod tymhorau'r haf a'r hydref yn 2004. Disgwylir iddo adrodd
yn ôl yn ystod tymor y gwanwyn 2005.
Materion
eraill yn ymwneud â datblygu ac adolygu polisi
Yn ogystal â'i adolygiadau polisi ei hun, mae'r
Pwyllgor wedi cyfrannu at y prif ddatblygiadau polisi sy'n cael eu rhoi ar waith gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio. O'r dechrau'n deg, mae'r pwyllgor wedi nodi mai'r elfen allweddol yn agenda gyfan Cyfiawnder Cymdeithasol yw "tai".
Mae wedi blaenoriaethu'r materion hynny sy'n ymwneud â thai yn Strategaeth Tai Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â Digatrefedd, y Stoc Tai sy'n heneiddio a phroblemau arbennig ardaloedd gwledig.
Mae'r
Pwyllgor hefyd yn cydnabod y rhan y mae menter Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae wrth geisio adfer y sefyllfa drwy helpu i adfywio'r cymunedau tlotaf yng Nghymru. Mae'n cael adroddiadau rheolaidd ar hynt y gwaith.
Mae'r
Pwyllgor wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau Llywodraeth y Cynulliad ar Drais yn y Cartref, Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol, materion yn ymwneud â Throsedd ac Anhrefn ac Undebau Credyd.
Adroddiad
y Gweinidog
Mae'r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog ym mhob cyfarfod drwy ei hadroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor. Yn ogystal, bu'r Pwyllgor hefyd yn craffu
ar waith y Swyddfa'r Post a geir ynddo, ynghyd â'i chynigion ar gyfer gwasanaethau'r Post Brenhinol yng Nghymru.
9.
Adolygu'r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (Rheol Sefydlog 9.7 (iii))
Dim ond un Corff Cyhoeddus
a Noddir gan y Cynulliad sy'n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor, sef y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, panel cynghori yw hwn yn unig; nid oes ganddo gyfrifoldeb ariannol ac nid yw'r Pwyllgor ychwaith wedi craffu ar ei
waith.
10.
Craffu ar Ddeddfwriaeth (Rheol Sefydlog 9.8 (i).
Is-ddeddfwriaeth
Ym
mis Mehefin 2003, cytunodd y Pwyllgor ar brotocol ar gyfer ymdrin ag is-ddeddfwriaeth. Cafodd y Pwyllgor amserlen fanwl o'r is-ddeddfwriaeth arfaethedig sydd ym mhortffolio'r Gweinidog ym mhob cyfarfod. Yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni, ystyriwyd
yr eitemau canlynol gan y Pwyllgor.
- Penderfyniad
yr Adroddiadau Blynyddol Drafft i Denantiaid 2003
- Y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad
Deddfwriaeth
Ewropeaidd
Ar ôl i Banel y Cadeiryddion gymeradwyo cynigion y Pwyllgor Materion Allanol ac Ewropeaidd ar gyfer system o
gael pwyllgorau pwnc i graffu ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn ffordd fwy rhagweithiol, mae papurau wedi'u paratoi sy'n rhoi manylion yr holl ddogfennau perthnasol yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac adfywio a osodwyd ger bron Senedd Ewrop. Rhoddir
y cyfle i'r aelodau nodi eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol. Hyd yma, nid oes unrhyw eitemau wedi'u nodi.
Deddfwriaeth
Sylfaenol
Yn sgil Araith y Frenhines, nododd y Cyfarfod Llawn dair eitem o Ddeddfwriaeth Sylfaenol y dylid eu cyfeirio at y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol
ac Adfywio, sef y Mesur Gwasanaethau Tân ac Achub, y Mesur Tai a'r Mesur Trais yn y Cartref. Roedd fersiynau drafft y ddau Fesur cyntaf wedi'u hystyried cyn hynny, a chyflwynodd y Gweinidog sylwadau'r Pwyllgor i'r adran a oedd wedi cychwyn y gwaith.
Nid oedd gan y Pwyllgor, felly, unrhyw beth i'w ychwanegu at y fersiynau i'w cyhoeddi. Ystyriodd y Pwyllgor y Mesur Trais yn y Cartref, a gosodwyd adroddiad o'i ystyriaethau a'i argymehllion ger bron y Cyfarfod Llawn. Hefyd, anfonwyd yr adroddiad a'r argymhellion
at Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
11.
Penodiadau (Rheol Sefydlog 9.8)
Janice Gregory a William Graham yw'r enwebeion ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Ni fu'n rhaid iddynt weithredu
yn rhinwedd y swyddogaeth hon yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.
12.
Cyllideb (Rheol Sefydlog 9.8)
Ystyriodd y Pwyllgor gyllideb arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2004-2005 a gwnaeth sylwadau arni. Ceir
llythyr y Cadeirydd yn nodi argymhellion y Pwyllgor yn Atodiad 6.
13.
Materion Trawsbynciol/Gweithio ar Y Cyd
Yn dilyn penderfyniad gan y Cyfarfod Llawn ym mis Rhagfyr 2003, cafodd y Mesur Paratoadau Sifil
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Diben y Mesur yw rhoi dyletswydd statudol ar gyrff lleol i baratoi cynlluniau wrth gefn er mwyn delio ag argyfwng sifil ac er mwyn rhoi pwerau i'r Llywodraeth wneud rheoliadau a fydd yn ymdrin
ag argyfyngau a gyhoeddwyd. Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wahoddiad i Aelodau'r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio fod yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mesur ym mis Chwefror, gan fod y mesur yn un
o'r materion trawsbynciol ym mhortffolio'r Pwyllgor.
14.
Y Cynlluniau Statudol
Mae'r Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i gynlluniau statudol y Cynulliad Cenedlaethol o ran cysylltiadau ag awdurdodau lleol a'r sector
gwirfoddol, ac o ran y cynllun datblygu cynaliadwy yn ystod ei waith. Yn yr un modd, mae wedi ystyried gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol.
15.
Y Rhaglen ar gyfer y Dyfodol
Bydd y Pwyllgor yn amlinellu'i flaenoriaethau ar gyfer 2004-05 yn y Blaenraglen Waith Strategol. Ymhlith y pynciau
allweddol y mae:
- Tai
- Camddefnyddio Sylweddau
ac Alcohol
- Trais yn y cartref
- Trosedd ac Anhrefn
- Agenda'r Mentrau yn Erbyn Tlodi - gan gynnwys
adfywio cymunedau
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Y Gwasanaethau Tân a'r Heddlu
- Craffu
ar is-ddeddfwriaeth - gan gynnwys is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r Mesur Tai pan ddaw i rym.
Janice Gregory
Cadeirydd