Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd:
  • ystyried tystiolaeth gyfredol ar faterion perthnasol, gan gynnwys y peryglon i iechyd o fwg tybaco yn yr amgylchedd a’r effaith ar yr economi o gyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus;
  • adolygu’r datblygiadau yn y DU ac Iwerddon sy’n ymwneud â chyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus (gan gynnwys y trafodaethau ar Fesurau Aelod Preifat y Farwnes Finlay a’r Arglwydd Faulkner; yr ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddu,; canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a’r profiad o roi’r gwaharddiad ar ysmygu yn y gweithle ar waith yn Iwerddon).
  • ystyried y profiadau mewn gwledydd eraill lle mae gwaharddiad wedi’i gyflwyno; a
  • rhoi adroddiad ar ei gasgliadau i’r Cynulliad erbyn 25 Mai 2005.

Partneriaid a Help