Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Llythyr Ymgynghori

Eich cyf . Your ref
Ein cyf . Our ref SPP Pol Rev 1 04

23 Gorffennaf 2004

Annwyl Gyfaill,

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Pwyllgor ychwanegol, y Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus, gan ddefnyddio ei bwerau o dan Reol Sefydlog 8.1. Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor:

  1. ystyried tystiolaeth gyfredol ar faterion perthnasol, gan gynnwys y peryglon i iechyd o fwg tybaco yn yr amgylchedd a'r effaith ar yr economi o gyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus;
  2. adolygu'r datblygiadau yn y DU ac Iwerddon sy'n ymwneud â chyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus (gan gynnwys y trafodaethau ar Fesurau Aelod Preifat y Farwnes Finlay a'r Arglwydd Faulkner); ymateb i ymgynghoriad llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddus; canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus; a'r profiad o roi'r gwaharddiad ar ysmygu yn y gweithle ar waith yn Iwerddon);
  3. ystyried y profiadau mewn gwledydd eraill lle mae gwaharddiad wedi'i gyflwyno; a
  4. rhoi adroddiad ar ei gasgliadau i'r Cynulliad erbyn 25 Mai 2005.

Rwy'n ysgrifennu i'ch gwahodd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar y materion canlynol:

  1. Y peryglon i iechyd o fwg tybaco yn yr amgylchedd.
  2. Yr effaith ar yr economi o gyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
  3. Effaith gwaharddiad o ran lleihau nifer y bobl sy'n ysmygu, hy a fyddai'n annog pobl i roi'r gorau i ysmygu neu i beidio â dechrau.
  4. Effeithiolrwydd ffaniau echdynnu ac offer awyru arall i gael gwared â mwg tybaco o'r amgylchedd.
  5. Dadleuon hawliau dynol mewn perthynas ag ysmygwyr a phobl nad ydynt yn ysmygu.
  6. Gorfodi.

Os ydych yn dymuno cyflwyno tystiolaeth, gallwch ei hanfon drwy e-bost neu ar ddisg os oes modd. Fel arall, anfonwch gopi caled at Claire Morris, Dirprwy Glerc y Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus, Gwasanaeth Seneddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA. Y cyfeiriad e-bost yw Committee.Smoking@wales.gsi.gov.uk. Rhowch y teitl "Ymgynghoriad Cyhoeddus" i'r e-bost.

Dylai eich sylwadau ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 29 Hydref 2004. Bydd pob cyflwyniad yn cael ei gydnabod.

Wrth lunio eich sylw, cadwch y canlynol mewn cof:

  • dylai'r dystiolaeth fod yn ffeithiol, nid yn anecdotaidd;
  • dylai eich ymateb fod mor gryno â phosibl;
  • byddai o gymorth pe baech yn
  • defnyddio'r rhifau uchod i nodi'r materion yr ydych yn ymateb iddynt;
  • nodi p'un a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn;
  • nodi p'un a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ac mae'n bosibl hefyd y cânt eu trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus. Os nad ydych am i'ch ymateb neu eich enw gael ei gyhoeddi, mae'n bwysig eich bod yn nodi hyn ar ddiwedd eich sylw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â mi ar 029 2089 8149 neu Claire Morris (ffôn 029 2089 8148).

Jane Westklake
Clerc y Pwyllgor

Local Authorities - Chief Executive
Local Authorities - Director of Social Services
Local Authorities - Director of Education
Local Authorities - Director of Leisure Services
Local Authorities - Director of Environmental Health
NHS Trusts - Chief Executive
NHS Trusts - Medical Director
Community Health Councils - Chief Officer
Local Health Boards - Chief Executive
Air Cleaner Manufacturers Association
Allied Brewery Traders Association
ALMR
AMICUS
Association of Non Smokers Rights
Association of Town Centre Managers
Association of Welsh Community Health Councils
ASH in Wales
Asthma UK Cymru
Atmosphere Improves Results
Audit Commission Wales
Automatic Vending Association
AWEMA
Barnado's Cymru
Black Association of Women Step Out Ltd
Black Voluntary Sector Network Wales
Brewers and Licensed Retailers Association
British American Tobacco
British Heart Foundation
British Hospitality Association
British Lung Foundation
British Medical Association
British Thoracic Society
Cancer Research UK Cymru
Cardiff International Airport
Care Council for Wales
CBI Cymru Wales
Centre for Health Informatics
Centre for Tobacco Control Reasearch
Chamber Wales
Chartered Institute for Environmental Health
Childline Cymru
Children in Wales
Cleanair - Campaign for a Smoke-free Environment
Children's Commissioner for Wales
Commission for Racial Equality
Communities that Care
Community Practitioners and Health Visitors' Association
Community Service Volunteers
Contact a Family
Diabetes UK
Disability Rights Commission
ELWA
Equal Opportunities Commission
Federation of Environmental Trade Associations
Federation of Licensed Victuallers Associations
Federation of Small Businesses
Felinfoel Brewery Company
Food & Drink Federation
FOREST
Gallagher Group plc
General Teaching Council for Wales
Greene King Pub Company
Health & Safety Executive
Health & Safety Executive - Wales & South West Divisional Office
Health Communications Research Centre
Health Professions Wales
Heating, Ventilation & Air Conditioning Manufacturers Association (HEVAC)
Imperial Tobacco
Imported Tobacco Products Advisory Council (ITPAC)
Institute of Welsh Affairs
J.D. Wetherspoon
Joint Committee for Ethnic Minorities in Wales
Macmillan Cancer Relief
Mid & West Wales Fire Authority
Mid Wales Economic Forum
Mitchells & Butlers
National Association of Cigarette Machine Operators
National Association of Licensed House Managers
National Asthma Campaign Wales
National Family and Parenting Institute
National Public Health Service
NCH Cymru
New Opportunities Fund
North Wales Economic Forum
North Wales Fire Authority
NSPCC Cymru
Philip Morris Ltd
Public and Commercial Services Union
Public Services Ombudsman for Wales
Restaurant Association
Restaurateurs Association of Great Britain
Roy Castle Lung Cancer Foundation
Royal College of Midwives
Royal College of Nursing
S.A. Brain
Sinclair Collis
Small Independent Brewers Association
Smoke Control Association
SNAP Cymru
South East Wales Economic Forum
South Wales Fire & Rescue Service
South West Wales Economic Forum
South West Wales Tourism Partnership
Swansea Institute of Higher Education
Tenovus
The Foundation for the Study of Infant Deaths
The Open University in Wales
The Sports Council for Wales
The Stroke Association
Tobacco Manufacturer's Association
Tobacco Alliance
Tourism Partnership Mid Wales
Tourism Partnership North Wales
Trinity College Carmarthen
UNISON
University of Glamorgan
University of Wales
University of Wales Aberystwyth
University of Wales Bangor
University of Wales College Newport
University of Wales College of Medicine
University of Wales Institute Cardiff
University of Wales Lampeter
University of Wales Swansea
USDAW
Wales Centre for Health
Wales Council for Voluntary Action
Wales Management Council
Wales Social Partners Unit
Wales Tourism Alliance
Wales Tourist Board
Wales Trade International
Wales TUC
Welsh Ambulance Services NHS Trust
Welsh Asian Council
Welsh Consumer Council
Welsh Development Agency
Welsh Local Government Association
Welsh Medical Committee
Welsh NHS Confederation
Welsh Pharmaceutical Committee
Welsh College of Music and Drama
Whitbread Group plc
Yates Group plc