Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Mae Rheol Sefydlog 16 yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a’r gofynion o ran manylion aelodaeth y pwyllgor, rôl y Comisiynydd Safonau, cyfarfodydd ac adroddiadau.
Swyddogaethau allweddol y Pwyllgor oedd:
- ymchwilio i unrhyw gwyn sydd wedi ei gyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau bod Aelod heb gydymffurfio â phenderfyniad gan y Cynulliad sy’n ymwneud a safonau ymddygiad yr Aelodau, adrodd ar y gwyn honno ac, os yw’n briodol, argymell y camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â’r gwyn. (link)
- ystyried unrhyw fater o egwyddor cyffredinol sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad;
- goruchwylio’r trefniadau ar gyfer llunio’r Gofrestr o Fuddiannau Aelodau a’r Cofnod o Aelodaeth Cymdeithasau, cadw’r Gofrestr a’r Cofnod a sicrhau eu bod yn hygyrch.