Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Yn ôl Rheol Sefydlog 12, prif swyddogaeth y pwyllgorau craffu yw craffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau'r llywodraeth a chryff cyhoeddus o fewn eu cylchoedd gwaith.
Mae cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Dysgu'n cwmpasu: Datblygu economaidd ac adfywio; Menter gymdeithasol; Trafnidiaeth ac Dysgu gydol oes
Newyddion Diweddaraf
Gwaith y Pwyllgor yn nhymor yr gwanwyn:
- Creu swyddi yn yr economi werdd
- Darpariaeth arbenigol i bobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach
- Cronfeydd Strwythurol: gweithredu rhaglenni 2007-2013
Mae bwletin olaf y Pwyllgor i’w weld yma.
Y Cynulliad yn torri tir newydd deirgwaith wrth i Weinidog gefnogi cynigion a allai sicrhau rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio diogel ledled Cymru
Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i fynd ymlaen â'i Orchymyn Arfaethedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 a'i Femorandwm Esboniadol. Mae'r Gorchymyn arfaethedig i'w weld yma.
Y Strategaeth Gweithgynhyrchu – Dadl Cyfarfod Llawn – 28 Ebrill 2010
Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y Strategaeth Gweithgynhyrchu. Gellir dod o hyd i gopi o’r adroddiad ar dudalen adroddiadau’r Pwyllgor ar y We. Darganiad i’r wasg.
Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r Cronfeydd Stwythurol: gweithredu rhaglenni 2007 - 2013
Cliciwch yma i weld y cylch gorchwyl.
Dysgu Cymraeg – Beth yw’ch barn chi?
Etholodd y Pwyllgor grwp rapporteur i ymchwilio i agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd y grwp yn canolbwyntio ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith; hyfforddiant a sgiliau ddwyieithog yn y gweithle; ryngwyneb busnesau â’r cyhoedd. yr Aeloldau fydd: Gareth Jones AC; Jeff Cuthbert AC; David Melding AC; Jenny Randerson AC. Byddant yn cyfarfod yn anffurfiol ac yn ymgymryd â chyfres o ymweliadau ac ymgyngoriadau ledled Cymru.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am addysgu neu ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Cliciwch yma...
Gwyliwch fideo i weld barn ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd am wersi Cymraeg yn ein hysgolion uwchradd. Cliciwch yma...
Aelodaeth
Pwy yw pwy ar y Pwyllgor. Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor
yma
Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau
Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd
yn yr adran hon
Adroddiadau ac Ymchwiliadau'r Pwyllgor
Ymchwiliadau cyfredol: Mwy>>
Gellir gweld manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yma
Gellir gweld manylion yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma