Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Ymchwiliad i faterion sy'n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru

Cylch Gorchwyl

Craffu ar Lywodraeth y Cynulliad a’r gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi gweithwyr mudol a’u teuluoedd, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol sydd â chyfran uchel o bobl fudol yn rhan o’u poblogaeth; a

Gwneud argymhellion ar y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau cyfle cyfartal i weithwyr mudol, eu teuluoedd a’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.                                                                   

I wneud hynny, bydd y Pwyllgor yn :

  • Edrych ar brofiadau gweithwyr mudol a’u teuluoedd yng Nghymru gan edrych yn benodol ar: amodau byw a gweithio; mynediad at wasanaethau cyhoeddus; rhwydweithio cymdeithasol
  • Adnabod effaith mudo economaidd ar rai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ac ar gymunedau lleol   
  • Ymchwilio i effaith y fframwaith rheoli presennol sy’n llywodraethu amodau byw a gweithio gweithwyr mudol yng Nghymru.
  • Tynnu sylw at enghreifftiau o arferion da gyda golwg ar gysylltiadau gyda chymunedau; polisïau cyflogaeth a darparu gwasanaethau.

Rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyfrannu.

Adroddiad - EOC(3)-MW: Ymchwiliad i faterion sy'n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru

Trawsgrifiadau a phapurau cyfarfodydd

Tystiolaeth ysgrifenedig