Y Pwyllgor Cyllid
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am graffu'n briodol ar gyllideb a gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn a’r gwahanol Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyrff y Gwasanaeth Iechyd.
Yn gyffredinol mae gan y Pwyllgor dair prif swyddogaeth:
- Ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb y Cynulliad, a chyflwyno adroddiad arnynt;
- Ystyried y wybodaeth ariannol a gyflwynir gyda Mesurau Cynulliad, a lle bo’n briodol, cyflwyno adroddiad arni;
- Ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant y Llywodraeth neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw.
Mae Rheol Sefydlog 14 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn am weithdrefnau'r pwyllgor ac mae Rheol Sefydlog 27 yn nodi’r amserlen ar gyfer trefnu cyfarfodydd gyda golwg ar y broses gyllid.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Ganllawiau ar wybodaeth i gyd-fynd â Mesur Cynulliad arfaethedig ym mis Ionawr 2009.
Aelodau'r Pwyllgor a'r staff
Pwy yw pwy ar y Pwyllgor. Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor
yma
Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau
Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd
yn yr adran hon
Adroddiadau ac Ymchwiliadau'r Pwyllgor
Ymchwiliadau cyfredol:
Gellir gweld manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yma
Gellir gweld manylion yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma