Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Fel y nodir yn Rheol Sefydlog 12, prif swyddogaeth y pwyllgorau craffu yw craffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus perthnasol o fewn eu cylchoedd gwaith.
Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn cynnwys:
- Iechyd
- Llywodraeth Leol
- Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Newyddion Diweddaraf
Ymchwiliad Pwyllgor: Y Defnydd o Welyau Haul yng Nghymru a’u Rheoleiddio
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r defnydd o welyau haul yng Nghymru a'u rheoleiddio ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor erbyn Dydd Gwener 21 Awst 2009 fan bellaf.
Ymchwiliad Pwyllgor: Gwasanaethau Strôc yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Wasanaethau Strôc yng Nghymru ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor erbyn 28 Awst 2009 fan bellaf.
Aelodaeth
Gellir gweld aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>
Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau
Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>
Dyddiadau cyfarfodydd
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor am 13:00 ar y dyddiadau a ganlyn:
- Dydd Iau, 11 Mehefin 2009
- Dydd Iau, 18 Mehefrin 2009
- Dydd Iau, 25 Mehefrin 2009
- Dydd Iau, 2 Gorffennat 2009
- Dydd Iau, 9 Gorffennat 2009
Gweler yr agendâu i gael gwybod amseroedd a lleoliadau'r cyfarfodydd
Ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y pwyllgor
Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor ar gael yma.
Mwy>>