Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad Pwyllgor: Caniatâd Tybiedig i Roi Organau

Galw am Dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i ganiatâd tybiedig i roi organau, ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Cylch Gorchwyl

Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

Tystiolaeth Ysgrifenedig

Adroddiad terfynol

Ymateby Gweinidog


Cefndir

Mae’r syniad o gyflwyno system caniatâd tybiedig fel ffordd o gael organau i’w trawsblannu’n cael ei drafod fwyfwy’n gyhoeddus .  Ar hyn o bryd does dim digon o bobl yn rhoi organau ac mae hynny’n golygu bod unigolion sy’n aros am drawsblaniad, a’u teuluoedd, yn dioddef yn sylweddol. Mae pryder hefyd y bydd tueddiadau cymdeithasol ac iechyd yn y dyfodol yn arwain at fwy o alw am drawsblaniadau.      

Ar y llaw arall, mae safbwynt y rheini sydd â phryderon moesol, moesegol neu grefyddol ynglyn â’r mater neu’r rheini sy’n teimlo mai mater i unigolion a’u teuluoedd yw’r penderfyniad i roi organau ac na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd yn y maes sensitif hwn.

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ei ymchwiliad ei hun gan edrych ar agweddau fel fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o ganiatâd tybiedig, barn y cyhoedd a’r rhai sydd a wnelont â’r mater, a sut y byddai unrhyw system yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â’r system yng ngweddill y DU.

Er nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn ar hyn o bryd, ymddengys nad oes unrhyw reswm sylfaenol pam na ddylai geisio’r pwerau y byddai eu hangen arno drwy gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Yn ôl i'r brig


Cylch Gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

Archwilio’r trefniadau ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a gwneud argymhellion ynglyn â chyflwyno system o ganiatâd tybiedig yng Nghymru gan gyfeirio at:

  • Safbwyntiau moesol, moesegol, crefyddol a chymdeithasol ar ganiatâd tybiedig
  • Fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o’r fath
  • Enghreifftiau gwael ac enghreiffitau da o systemau caniatâd tybiedig
  • Y seilwaith, yr adnoddau a’r sefydliadau presennol
  • Yr adnoddau ychwanegol a’r seilwaith y byddai eu hangen
  • Y ffordd y byddai trefniadau trawsblannu Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r trefniadau yng ngweddill y DU
  • Barn y cyhoedd, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol.
  • Ffyrdd eraill o sicrhau bod mwy o organau ar gael heb gyflwyno system caniatâd tybiedig

Yn ôl i'r brig


Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

1. Mae caniatâd tybiedig yn cael ei drafod ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU ac o fewn yr Undeb Ewropeaidd. A ddylai Cymru symud ymlaen ar ei phen ei hun neu a ddylid cyflwyno newidiadau ar seiliau ehangach yn unigŷ Sut broblemau a achosid pe ceid systemau gwahanol o roi caniatâd mewn gwahanol rannau o’r DU neu’r Undeb Ewropeaidd?

2. Mae systemau caniatâd tybiedig yn cael eu disgrifio fel arfer naill ai fel rhai '’gwan’’ (lle mae perthnasau yn gallu gwrthwynebu a rhwystro tynnu organau) neu fel rhai '’cryf’’ (lle na fydd barn perthnasau’n cael cymaint o ddylanwad).  Beth yw eich barn am y ddwy system?

3. Pa ddadleuon a geir yn erbyn cyflwyno system o ganiatâd tybiedig?

4. Pa dystiolaeth a geir ynghylch faint o gefnogaeth sydd yng Nghymru gan bobl yn gyffredinol ar gyfer cyflwyno caniatâd tybiedig?  A oes barn arbennig gan leiafrifoedd y dylid eu hystyried yn benodol?

5. Pa newidiadau i rwydweithiau mewnol, sefydliadau ac adnoddau fyddai’n angenrheidiol i sicrhau bod system caniatâd tybiedig yn ymarferol ac yn llwyddiannus?

6. Pa beirianwaith sy’n angenrheidiol i gynyddu nifer yr organau a roddir?  

7. A oes gan Gymru’r modd i ddiwallu’r gofyn cynyddol a ddaw am drawsblaniadau os bydd mwy o organau ar gael?

8. Pa drefniadau y byddai’n rhaid eu gwneud i sicrhau bod cleifion yng Nghymru’n gallu parhau i elwa ar organau a roddir mewn lleoedd eraill yn y DU?  Sut y byddai Cymru’n cyfrannu at yr angen am organau sydd y tu allan i Gymru?

9. A ddylai caniatâd tybiedig gynnwys pob organ neu a ddylid ei gyfyngu i rai penodol - e.e. yr arennau, y galon neu’r ysgyfaint ?

10. A oes dewisiadau eraill heblaw am ganiatâd tybiedig?

Yn ôl i'r brig