Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
Sefydlwyd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth ym mis Mehefin 2007 yn unol â Rheol Sefydlog 15.2. Mae cylch gwaith y pwyllgor wedi’i nodi yn Rheolau Sefydlog 15.2 i 15.7. Mae’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn ystyried agweddau technegol ar yr holl offerynnau statudol neu’r offerynnau statudol drafft a wneir gan Weinidogion Cymru gan gyflwyno adroddiadau’n nodi a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i’r offeryn neu’r offeryn drafft ar unrhyw un o’r seiliau a restrir yn Rheol Sefydlog 15.2. Gall y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth hefyd ymgymryd â rhywfaint o waith craffu ar bolisi Mesurau’r Cynulliad ond ni chaiff gwestiynu’r polisi ei hun. Yn ogystal â hyn, gall y Pwyllgor gyflwyno adroddiadau’n ymwneud â’r materion a nodir yn Rheol Sefydlog 15.3 neu15.6.
Bydd y Pwyllgor Deddfau’n cyfarfod bob wythnos fel arfer a bydd y cyfarfodydd hefyd, fel arfer, yn cael eu cynnal yn gyhoeddus.
Gallwch gael gwybodaeth am y Pwyllgor, gan gynnwys agendâu, papurau ac adroddiadau drwy ddefnyddio’r lincs ar y dudalen hon.
Gallwch weld yr Is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei osod gerbron y Cynulliad yn yr hafan Is-ddeddfwriaeth
Aelodaeth
Gellir gweld Aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>
Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau
Gallwch weld agendau, papurau a thrawsgrifiadau cyfarfodydd yma.
Mwy>>
Adroddiadau
Gellir gweld adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor yma.
Mwy>>
Dyddiadau cyfarfodydd
Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor, am 8.15am ar fore Mawrth. Cynhelir yr holl gyfarfodydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cyfarfodydd y dyfodol - Dyddiadau
20 Mai 2008