Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw gofalu bod Aelodau’r Cynulliad yn cadw at safonau ymddygiad priodol.
Mae gan y Pwyllgor, yn gyffredinol, bum prif swyddogaeth:
- Ymchwilio i unrhyw gwyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, cyflwyno adroddiad arno ac, os yw’n briodol, argymell camau i’w cymryd.
- Ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau’n gyffredinol.
- Goruchwylio’r trefniadau ar gyfer creu a chadw Cofrestr o Fuddiannau Aelodau a’r Cofnod o Aelodaeth Cymdeithasau a sicrhau eu bod ar gael i bawb eu gweld, a goruchwylio ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnod .
- Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ynglyn â chwynion a wnaed o dan Reol Sefydlog 16 a chasgliadau’r adroddiad yng nghyswllt safonau moesegol wrth ymgymryd â busnes y Cynulliad.
- Sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 16.1(i) a’u gosod gerbron y Cynulliad.
Mae Rheol Sefydlog 16 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffordd mae’r Pwyllgor yn gweithio.
Aelodau'r Pwyllgor a'r staff
Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor
yma.
Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau
Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd
yr adran hon.
Cyfarfod Nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar Ddydd Mawrth 9 Mawrth 2010.
Prosiectau a gynhaliwyd gan y pwyllgor
Gellir gweld gwybodaeth am brosiectau a gynhaliwyd gan y pwyllgor yma. Mae hyn yn cynnwys gwaith tuag at Fesur arfaethedig i sefydlu swyddfa Comisiynydd Safonau statudol.
Mwy>>