Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Galwad am dystiolaeth

Ymchwiliad pwyllgor i gam-drin domestig

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi dewis cynnal ymchwiliad i gam-drin domestig; ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Amcangyfrifir y bydd trais domestig yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu bywyd a bod tua 77% o'r dioddefwyr yn fenywod. (Ffynhonnell: cyhoeddiad y Swyddfa Gartref Crime in England and Wales 2006-07). Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru strategaeth ar gam-drin domestig yn 2005. Mae cam-drin domestig yn cynnwys nid yn unig trais corfforol ond mae hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cam-drin emosiynol ac ynysu pobl oddi wrth ffrindiau, teulu neu ffynonellau cymorth eraill posibl. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn ariannu ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig; Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Swyddfa Gartref a’r sector gwirfoddol.

Cylch gorchwyl

Cynigir y dylai'r pwyllgor adolygu:

  • Y modd y caiff strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig ei chyflawni
  • Y cymorth a ddarperir i'r sawl sy'n dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys y cymorth a ddarperir i dystion yn y system cyfiawnder troseddol
  • Yr adnoddau a ddyrennir gan gyrff perthnasol megis, Llywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Gartref, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i weithredu polisïau cam-drin domestig
  • Yr ymyriadau gorfodol a gwirfoddol a ddarperir sydd wedi'u hanelu at y sawl sy’n cyflawni'r cam-drin domestig; gan gynnwys darparu adnoddau angenrheidiol i gefnogi ymyriadau o’r fath
  • Cynlluniau sydd wedi'u hanelu at atal cam-drin domestig; er enghraifft, rhaglenni ysgolion a chynlluniau codi ymwybyddiaeth.

Bydd y pwyllgor hefyd yn:  

  • Gwneud argymhellion o ran y camau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem o gam-drin domestig yng Nghymru.

Rhai o'r materion i'w trafod yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth:

  • Y cymorth sydd ar gael ar gyfer grwpiau gwahanol a pha mor hawdd ydyw i gael gafael arno; gan gynnwys gwasanaethau cwnsela ar gyfer  - dynion, menywod, plant, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a phobl anabl
  • Y gwasanaethau a ddarperir i oedolion a phlant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol mewn sefyllfa ddomestig
  • Ymateb gwahanol sectorau i gam-drin domestig, gan gynnwys y sector cyfiawnder troseddol, ac asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Sut y caiff y strategaeth genedlaethol ei chyflawni ar lefel leol, y ffyrdd y mae cyrff ac asiantaethau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r ymateb gorau
  • Dyrannu adnoddau i fynd i’r afael â cham-drin domestig ac unrhyw wrthdaro posibl rhwng nodau ac amcanion gwahanol ffynonellau ariannu
  • Tystiolaeth ystadegol am gyfraddau a natur cam-drin domestig, yn cynnwys achosion o lofruddio, cyfraddau collfarnu, tueddiadau daearyddol
  • Effaith ynysu sy’n cael ei ddwysáu gan ffactorau daearyddol, diwylliannol ac unigol
  • Prosesau ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau.

Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 9 Mai 2008 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch fersiwn electronig drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: Community.Culture.Comm@Cymru.gsi.gov.uk

Nodwch a fyddai diddordeb gennych mewn cyflwyno barn i’r pwyllgor ar lafar.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ychwanegol i adroddiad. Cewch eich enwi fel awdur y dystiolaeth, oni ofynnwch yn wahanol, er na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n ddata personol yn ei farn ef.

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu er na chafodd ei chyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych yn dymuno i’ch enw, fel awdur y dystiolaeth, gael ei ddatgelu; rhaid nodi hyn yn glir, ynghyd â’ch rhesymau dros atal y deunydd dan sylw. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.