Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Deisebau

Rôl y Pwyllgor Deisebau yw ystyried deisebau derbyniadwy a gyfeiriwyd gan y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 28.8.

Newyddion Diweddaraf

Ymchwiliad i fynediad ar hyd dŵr mewndirol

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf, 'Mynediad ar hyd Dŵr Mewndirol'. Mae'r adroddiad yn dilyn ymchwiliad byr i ddeiseb a dderbyniwyd gan Gymdeithas Canwio Cymru. Gellir gweld yr adroddiad llawn a'r atodiadau yma:

Y Pwyllgor Deisebau yn creu dipyn o sblash wrth i'r 150fed deiseb ddod i law ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru.

Cafodd y Pwyllgor Deisebau ei 150fed deiseb gan Grŵp y Gateway Rhydaman yn y Pwll Nofio Cenedlaethol yn Abertawe. Mae’r ddeiseb yn galw am sesiynau nofio am ddim i blant a phobl ifanc Cymru drwy gydol y flwyddyn. Ymunodd David Roberts ac Ellie Simmonds, a enillodd fedalau aur yn y Gemau Paralympaidd, â’r deisebwyr i gyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor.

Y Pwyllgor Deisebau’n cael ei 150fed deiseb gan aelodau Porth Iau Rhydaman (Rhys Jones, Elish Donovan, Michael Beynon) gyda chefnogaeth Ellie Simmonds, a enillodd fedal aur yn y Gemau Paralympaidd.

Y Pwyllgor Deisebau’n cael ei 150fed deiseb gan aelodau Grŵp y Gateway Rhydaman (Rhys Jones, Elish Donovan, Michael Beynon) gyda chefnogaeth Ellie Simmonds, a enillodd fedal aur yn y Gemau Paralympaidd.

David Roberts, a enillodd fedal aur yn y Gemau Parlympaidd, yn trosglwyddo’r ddeiseb gan Borth Iau Rhydaman (Sophie Rees, Ffion Phillips) i Ellie Simmonds sy’n aelod o’r un tîm ag ef.

David Roberts, a enillodd fedal aur yn y Gemau Parlympaidd, yn trosglwyddo’r ddeiseb gan Grŵp y Gateway Rhydaman (Sophie Rees, Ffion Phillips) i Ellie Simmonds sy’n aelod o’r un tîm ag ef.

Y Pwyllgor Deisebau’n cyfarfod â phobl ifanc o Borth Iau Rhydaman (Elish Donovan, Michael Beynon, Rhys Jones) ac Ellie Simmonds, a fu’n fuddugol yn y Gemau Paralympaidd.

Y Pwyllgor Deisebau’n cyfarfod â phobl ifanc o Grŵp y Gaetway Rhydaman (Elish Donovan, Michael Beynon, Rhys Jones) ac Ellie Simmonds, a fu’n fuddugol yn y Gemau Paralympaidd.

Aelodaeth

Gellir gweld aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>

e-Ddeisebau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ei system e-ddeisebu ar 15 Ebrill 2008. Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn golygu y bydd modd cyhoeddi deisebau ar wefan y Cynulliad ac y bydd yn bosibl i bobl eu llofnodi’n electronig.
Cliciwch yma i greu neu lofnodi e-Ddeiseb

Dyddiadau cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfodydd y pwyllgor ar y dyddiadau a ganlyn:

  • 7 Gorffennaf 2009

Ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor ar gael yma
Mwy>>