Ymgynghoriad Cyhoeddus - Ymchwiliad i Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig
Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad craffu i dlodi ac amddifadedd yn y Gymru Wledig. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:
- Archwilio materion yn ymwneud â thlodi ac amddifaded yn y Gymru wledig;
- Craffu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i weld pa mor berthnasol ac effeithiol ydynt yn y maes hwn.
Bydd gwaith yr Is-bwyllgor yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â thlodi ac amddifadedd ar gyfer y grwpiau a ganlyn:
- Plant a phobl ifanc;
- Pobl sy’n economaidd weithgar;
- Pobl sy’n economaidd anweithgar;
- Pobl hyn.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gymryd rhan, cliciwch yma.