Cofrestrwch i fod yn gynghorydd arbenigol allanol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig cyfle i arbenigwyr ac ymchwilwyr gyflwyno’u henwau i gael eu hystyried ar gyfer contractau ymchwil tymor byr posibl yn y dyfodol.
Pwyllgorau’r Cynulliad sy’n ysgwyddo’r baich mwyaf am y cyfrifoldeb o graffu ar bolisïau, gwariant, gweinyddu a deddfwriaeth y llywodraeth. O ganlyniad, maent yn dibynnu ar gymorth arbenigol am wybodaeth ac ymchwil ar faterion penodol. Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn gyfrifol am ddarparu cymorth a chyngor mewnol uniongyrchol i holl Aelodau a phwyllgorau’r Cynulliad ar amrywiaeth eang o bynciau. Pan fo’n briodol, gall y pwyllgorau benodi cynghorwyr yn unol â chanllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn ynghylch darparu cyngor arbenigol ychwanegol.
Efallai y bydd angen arbenigedd ym maes iechyd, addysg, busnes, yr amgylchedd, diwylliant ac amrywiaeth o arbenigeddau eraill. Os yw unrhyw bwnc yn dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y Cynulliad, efallai y bydd cyfle i sicrhau contract yn y maes hwnnw yn y dyfodol.
Unwaith y bydd pwyllgor wedi nodi’r cymorth sydd ei angen arno, cyfrifoldeb staff y Cynulliad yw comisiynu a rheoli’r holl waith hwnnw.
Defnyddir y wybodaeth a gyflwynir ar y ffurflen hon i lywio penderfyniadau o ran pa gontractwyr posibl a allai fod yn bodloni’r fanyleb ar gyfer yr arbenigedd angenrheidiol. Sylwer nad yw cofrestru ar y gronfa ddata yn gwarantu gwahoddiad i gyflwyno gwybodaeth i broses o lunio rhestr fer.
Os byddwch am dynnu eich enw oddi ar y gofrestr ar unrhyw adeg, anfonwch e-bost at Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau: MembersLibrary@wales.gsi.gov.uk
Os byddai’n well gennych gael copi papur o’r ffurflen, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau: MembersLibrary@wales.gsi.gov.uk
Ffurflen gofrestru ar-lein ar gyfer cynghorwyr
Register as an external expert advisor using our
online registration form