Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru’n cael ei archwilio’n briodol ac yn drylwyr, a bod yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn glynu wrth y safonau uchaf posibl wrth reoli eu materion ariannol. Mae’n gwneud hyn fel bod pobl Cymru’n gallu teimlo’n hyderus bod eu harian yn cael ei wario’n synhwyrol ac yn dda.

Rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw craffu ar sut y mae Llywodraeth Cymru’n gweithredu ei pholisïau, a gweithgareddau cyrff cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor yn craffu ar adroddiadau sy’n cael eu paratoi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y dull o ddefnyddio’r adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor yn ymchwilio’n benodol i faterion o ddiddordeb neu faterion sy’n peri pryder sy’n deillio o’r adroddiadau hyn. Wrth wneud hyn, mae’n bosibl y bydd yn clywed tystiolaeth gan y swyddogion cyfrifo perthnasol a chan weision sifil eraill ac yn galw am y papurau perthnasol. Mae wedyn yn cyflwyno adroddiad ac yn gwneud argymhellion ar ei ganfyddiadau. Wrth gynnal ei ymchwiliadau, ni all y Pwyllgor gwestiynu gwerth amcanion polisi Llywodraeth Cymru neu gorff arall sy’n cael ei adolygu.  

Mae Rheol Sefydlog 13 y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys manylion llawn gweithdrefnau’r Pwyllgor a sut y mae’n gweithredu.

Newyddion Diweddaraf

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddaid sy'n dwyn y teitl "Prosiect y Ddraig Goch" (PDF, 6.55MB)

Aelodau'r Pwyllgor a'r staff

Pwy yw pwy ar y Pwyllgor. Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor yma.

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yr adran hon.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor am 09:30 ddydd Mercher 10 Chwefror 2010

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bob pythefnos ar fore Mercher

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol (gallent newid).

Adroddiadau ac Ymchwiliadau'r Pwyllgor

Ymchwiliadau cyfredol

Gellir gweld manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yma.

Gellir gweld manylion yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma