Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mae’r Pwyllgor Busnes yn rhoi cyngor ar sut y caiff busnes y Cynulliad ei reoli a gweithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad. Mae Rheol Sefydlog 11 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn cylch gwaith y Pwyllgor.

Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, a bydd Arweinydd y Ty a Rheolwr Busnes pob un o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn bresennol hefyd.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob wythnos ar ddydd Mawrth pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu trefn busnes heblaw busnes y Llywodraeth a busnes y Llywodraeth yn y Cyfarfodydd Llawn. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn breifat yn unol â Rheol Sefydlog 11.9. Cytunodd y Pwyllgor ar 12 Mehefin 2007 y caiff cofnodion cyfarfodydd preifat eu cyhoeddi chwe wythnos ar ôl pob cyfarfod er mwyn cyfleu natur agored a chynhwysol y Cynulliad.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog. Mae’r cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu i fynd i weld cyfarfod pwyllgor yn yr adran Mynd i Gyfarfod Pwyllgor.

Cysylltu â’r Pwyllgor

Gallwch gysylltu â’r Pwyllgor drwy:

  • e-bost:
  • ffurflen electronig;
  • ffôn:029 2089 8403 (Clerc);
  • neu gallwch ysgrifennu at Marc Wyn Jones, y Dirprwy Clerc yn: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.