BCC(3) 27
Mae BOOMERANG, RONDO & CUBE interactive, cwmniau cynhyrchu cynnwys ar gyfer teledu radio a chyfryngau newydd yn cyflwyno’r papur byr amgauedig i ystyriaeth y pwyllgor yn ei arolwg o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Byddem yn falch o drafod ein sylwadau gyda’r Pwyllgor os dyna’i ddymuniad.
Mae Boomerang+ yn creu rhaglenni adloniant, ffeithiol, chwaraeon, cerddoriaeth, drama a rhaglenni plant ar gyfer teledu, radio a’r we. Mae’r cyfuniad o dalentau ac adnoddau mewnol yn ein galluogi i weithredu ar draws holl sbectrwm gweithgaredd y diwydiannau creadigol. Am fanylion am y cwmnïau o fewn y grŵp a’r rhaglenni a gynhyrchwn, ewch i’n gwefan, www.boomerang.co.uk
Rondo Media yw dau o gwmnïau teledu annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru a sefydlwyd yn yr 1980au yn camu i’r dyfodol law yn llaw wrth iddynt gyfuno i ffurfio Rondo Media. Bydd uno Nant, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon, Gwynedd a Phorthaethwy, Ynys Môn, a Opus, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd yn creu cwmni newydd a fydd yn cyflogi dros 120 o weithwyr. Gweler ein gwefan: www.rondomedia.co.uk
Cube Cwmni rhyngweithiol yw Cube sy'n cynnig gwasanaeth aml-gyfryngol i gwmnïau yn y sector ddarlledu i gyrraedd eu cynulleidfa mewn ffurf effeithiol ac arloesol. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth ymgynghori, dylunio a datblygu atebion dyfeisgar i wefannau rhyngweithiol cyfathrebol, symudol, fideo byw, teledu estynedig, a sianeli aml-ddimensiwn. Gweler ein gwefan www.cubeinteractive.co.uk
1. Fel cwmnïau sy’n cynhyrchu cynnwys ar gyfer darlledwyr yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae dyfodol darlledu cyhoeddus yng Nghymru o bwys mawr i’n datblygiad strategol. Y buddsoddiad mewn darlledu cyhoeddus yng Nghymru yw conglfaen ein hegni creadigol a hynny sy’n ei gwneud yn bosibl i ni gyfrannu i economi Cymru.
2. Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol, o’r dystiolaeth a gyflwynwyd eisoes, beth yw’r pynciau llosg sy’n wynebu darlledu cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf ac o’r pedwar dewis a gyflwynwyd gan Ofcom yn ei ddogfen ymgynghorol , Y Cyfle Digidol. Credwn fod y trosglwyddo i Ddigidol yn gyfle gwirioneddol i Gymru a byddai methiant i gymryd y cyfle yn fygythiad i’n hunaniaeth diwylliannol a lles dinasyddion a defnyddwyr yn y dyfodol.
3. Cymru fydd y genedl ddigidol gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Am gyfnod o ddwy flynedd bydd ei sefyllfa’n unigryw. Gallai fod anawsterau technegol cyflenwi gwasanaethau ar y system trosglwyddyddion ac y mae problemau o hyd gydag ambell ardal na chysylltwyd gyda band llydan. Ond problemau dros dro ydy rhain ac erbyn dyddiad gorffen trosglwyddo i ddigidol drwy’r Deyrnas Unedig, gallai Cymru fod wedi cymryd ei chyfle digidol.
4. Ond yn ystod y ddwy flynedd rhwng 2010 a 2012, bydd gostyngiad amlwg yn y cynnwys darlledu cyhoeddus ar y gwahanol lwyfannau cyflenwi. Fe ddisgrifiwyd y senarios tebygol yn barod mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor, yn arbennig yn meysydd newyddion a materion cyfoes. Bydd y diffyg plwraliaeth yn y meysydd hyn yn fater difrifol mewn cyfnod o newid gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol a gallai hyn wneud drwg parhaol i ddinasyddiaeth ac arwain at golli diddordeb mewn unrhyw beth Cymreig.
5. Mae Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn llawer mwy na newyddion a materion cyfoes; nid newyddiadurwyr yn unig sy’n diffinio a choethi ein hunaniaeth wrth i ni symud ymlaen. Mae darlledu cyhoeddus yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf wedi creu’r gofod i wahanol leisiau i gymryd rhan yn y broses. Ni fyddai’r farchnad agored yn caniatáu hyn.
6. Daeth yn eglur dros y blynyddoedd diwethaf nad yw rheidrwydd masnachol ITV yn caniatáu creu gofod ar gyfer y math o blwraliaeth diwylliannol y mae’r dinesydd yn ei ddisgwyl o’r cyfryngau. Bydd ffrwydrad arall o gynnwys ar bob llwyfan ac y mae perygl, yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2012 y bydd y lleisiau sy’n ein gwneud yr hyn ydym yn dawel ac yn fud.
7. Bydd y bobl yno o hyd. Felly hefyd yr unedau sy’n cynhyrchu cynnwys i lefel broffesiynol uchel, yn arbennig y sector ifanc o gynhyrchwyr cyfryngau newydd a’r we. Bydd gan y sector hon ran allweddol yn strategaethau cyfathrebu Cymru i’r dyfodol. Bydd gan y BBC gyfrifoldeb parhaol am ariannu a dosbarthu cynnwys darlledu cyhoeddus yn Saesneg yng Nghymru, ond bydd wastad yn rhan o’r strategaeth Brydeinig. Y sialens yw sicrhau plwraliaeth ar draws darlledu cyhoeddus yng Nghymru.
8. Yn ychwanegol at y cynnwys a gynhyrchir ar gyfer darlledwyr, cynhyrchir swmp o gynnwys yng Nghymru ar gyfer y sector gorfforaethol. Mae’r mwyafrif i’w weld ar wahanol wefannau sefydliadol ac wedi ei ariannu o gyllid cyhoeddus. Un pwnc yn y dyfodol fydd sut i ganfod ac adnabod y creadigrwydd hwn a sicrhau bod dinasyddion a defnyddwyr yng Nghymru yn cael gafael ar gynnwys Cymreig yr un mor effeithiol ag oedd hi ar deledu prif ffrwd. Ond fyddai hynny ddim yn llenwi’r gagendor fydd yn dod yn amlwg ar ôl diffodd analog.
9. Yr ydym, fel cwmnïau, yn cystadlu mewn marchnadoedd dros y byd gyda chynnwys gafodd ei wneud a’i berchnogi yng Nghymru. Mae hyn yn anodd o ganolfan yng Nghymru, ond rydym wedi sylweddoli fod pwyslais S4C ar ragoriaeth gweledol, yn rho i ni ac i gynhyrchwyr eraill yn ei strategaeth raglenni, yn rhoi sail i gystadlu yn y marchnadoedd yma. Mae’r ymrwymiad i gynyrchiadau o safon uchel a chyflenwad di-dor yn golygu fod gennym y systemau rheoli a hyfforddi yn eu lle fyddai’n ein galluogi i gynyddu’r gallu creadigol i gyflenwi yn y Saesneg a’i ddosbarthu ar bod llwyfan yn y dyfodol digidol i gyfarfod â dyheadau a disgwyliadau pobl Cymru.
10. Yr ydym wedi astudio ac ystyried yn ofalus y pedwar opsiwn a ddarluniwyd gan Ofcom yn y ddogfen ymgynghorol ac wedi dod i’r casgliad nad oes yr un o’r pedwar opsiwn yn rhoi i ddinasyddion a defnyddwyr Cymru y lefelau o wasanaeth darlledu cyhoeddus fyddai’n galluogi’r genedl i fodoli yn y byd digidol. Nid ydym yn credu y byddai cymorth ariannol i ITV yng Nghymru yn ei sefyllfa bresennol yn ddoeth; ar waethaf poblogrwydd a chyrhaeddiad y sianel mesur byr dymor fyddai hyn. Mae’r hyn a gynhyrchir gan ITV Wales yn rhan o’r ateb ond nid yn strategaeth hir dymor. Credwn hefyd y byddai opsiwn 4 yn ansefydlogi’r sefyllfa yn llwyr yn y tymor byr heb unrhyw warant o fudd yn y tymor hir. Rhywle rhwng Opsiynau 3 a 4 mae’r ateb.
11. Credwn fod ein sefyllfa unigryw yn arwain at ateb arbennig i Gymru. Does dim angen creu sefydliad newydd yng Nghymru i fod yn gyfrifol am gyllido cynnwys darlledu cyhoeddus gan fod S4C yn arddangos holl nodweddion unrhyw sefydliad newydd; mae’n gorff ariannu statudol gyda pherthynas hyd braich gyda llywodraeth San Steffan; mae’n gweithredu fel comisiynydd ac mae’n gweithredu cydymffurfiaeth. Mae ganddo berthynas gytundebol gyda’r BBC ar gyfer rhaglenni Cymraeg ac mae’n gweithredu’n fasnachol. Mae wedi cyhoeddi a gweithredu strategaeth glir ar gyfer y dyfodol digidol ac wedi cael arolwg annibynnol o’r gadwyn gyflenwi ac wedi datblygu perthynas gadarn gyda’r sector gynhyrchu annibynnol. Mae ganddo berthynas aeddfed gyda Ofcom ac adran DCMS llywodraeth San Steffan. Mae ei sefyllfa statudol yn amddiffyn gwerth yr arian a werir ar gynhyrchu a darlledu ac fe allai helaethu ei fedr i roi cefnogaeth sefydliadol tymor byr a thymor hir i gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn Saesneg yng Nghymru a gweithio gyda chryfder y sector gynhyrchu annibynnol i roi cynnwys ar bob llwyfan.
12. Yn y sefyllfa hon gallai Ofcom greu trwydded ar wahân i sianel 3 yng Nghymru gyda’r cyfrifoldeb o ddarlledu cynnwys darlledu cyhoeddus yn ystod oriau brig. Yn gyfnewid am hyn byddai deiliaid y drwydded yn cael mynediad i’r sbectrwm ac yn cadw lle amlwg ar yr EPG. Gallai ITV plc gynnig am y drwydded fel y gallai eraill. Byddai deiliad y drwydded yn cadw’r arian hysbysebu ac yn gyfrifol am drefnu gweddill cynnwys i gynnal y gwasanaeth
13. Credwn y byddai’n fuddiol i Ofcom gychwyn trafodaeth gynnar gydag S4C i drafod y posibiliadau yn yr opsiwn hwn gyda golwg ar roi strwythur a chyllid yn ei le erbyn diwedd DSO yng Nghymru. Credwn hefyd y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol fod yn cymryd rhan llawn yn y broses a dechrau adeiladu ei arbenigedd ei hun, yn arbennig yn maes anodd y berthynas rhwng llywodraeth, gwleidyddion a gwasanaethau darlledu cyhoeddus, sy’n gonglfaen democratiaeth iach.