BCC(3) 8
Mae gan bapurau newydd a darlledwyr gyfle unigryw i gyfathrebu gyda chynulleidfaoedd gan ddefnyddio technoleg newydd. Fe fydd y sectorau argraffu a darlledu yng Nghymru mewn cystadleuaeth uniongyrchol â'u gilydd wrth i'r naill a'r llall geisio manteisio ar botensial rhyngrwyd band llydan a ffonau symudol i drosglwyddo gwybodaeth ac adloniant ac i gysylltu ag unigolion.
Yn y cyfnod yma o gystadleuaeth dwys, mae'r diwydiant wedi rhybuddio'n rymus bod gan sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus y potensial i rannu'r gynulleidfa a thanseilio seiliau masnachol y cyfryngau rhanbarthol.
Y Diwydiant Bapurau Newydd Rhanbarthol
Mae gan y Deyrnas Unedig wasg rhanbarthol ddeinamig, sy'n cynnwys 1,300 o bapurau newydd dyddiol ac wythnosol, a delir amdanynt neu rhad ac am ddim, yn ogystal â 1,100 o wefannau, 750 o gylchgronau, 36 gorsaf radio a dwy orsaf deledu. Cyflogir bron i 50,000 o bobl yn y sector.
Mae'r wasg rhanbarthol wedi manteisio ar yr her o ddefnyddio ffyrdd newydd i drosglwyddo gwybodaeth ac yn ceisio cryfhau'r berthynas gyda darllenwyr drwy roi opsiynau newydd iddyn nhw ynglyn â sut maen nhw'n derbyn eu newyddion.
Mae papurau newydd wedi buddsoddi mewn gwefannau ac yn arloesi gyda ffrydio fideo, gwasanaethau ffôn symudol, blogiau, podlediadau, rhifynnau-e a safleoedd hysbysebu. Mae hyn wedi golygu buddsoddiad sylweddol gan y sector breifat yn ystod cyfnod pan mae teledu digidol wedi rhoi opsiynau newyddion ac adloniant amgenach i gwsmeriaid.
Fe fydd y gystadleuaeth am gynulleidfaoedd a hysbysebu yn dwyshau yn dilyn y newid i ddigidol.
Er gwaetha'r toreth o sianeli newydd a gwasanaethau cyfryngol eraill, does yr un wedi gwneud buddsoddiad tebyg mewn newyddion lleol a gwasanaethau gwybodaeth lleol. Mae cyhoeddwyr rhanbarthol mewn cyfnod hanfodol yn eu datblygiad o fod yn gwmnïau papurau newydd lleol i fod yn gwmnïau cyfryngol lleol. Eleni, mae Media Wales wedi buddsoddi yn natblygiad gwasanaeth newyddion amlgyfryngol integredig. Yn dilyn astudiaethau o gwmniau cyfryngol yn Ewrop a’r Unol Daleithiau mae Media Wales wedi creu model o un ystafell newyddion yn unig er mwyn cyfeirio newyddion i'w holl sianelau argraffu ac electroneg gan ganolbwyntio ar ddatblygu cynnwys fideo a sain arlein.
Roedd y wasg rhanbarthol yn bryderus y byddai cynydd sylweddol yn y ffi am drwydded yn annog y BBC i ailadrodd gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cyfryngau lleol.
Mae'r diwydiant wedi dadlau na ddylid gwario arian cyhoeddus i ddatblygu gwefannau lleol a fyddai, nid yn unig yn ailadrodd cynnwys argraffedig ac arlein y wasg rhanbarthol ond hefyd yn bygwth rôl hanfodol, hir-dymor y papurau newydd rhanbarthol sy'n gwasanaethu cymunedau lleol.
Mae hi er budd y BBC i gael gwasg rhanbarthol gref.
Mae nifer o straeon y BBC yn cael eu gweld yn gyntaf mewn papurau newydd lleol. Mae unigolion a chymunedau yn teimlo eu bod yn gallu cyfathrebu'n uniogyrchol gyda gohebwyr papurau newydd lleol. Does yr un sefydliad newyddion cenedlaethol â'r amrywiaeth o gysylltiadau, gohebwyr arbenigol, ymddiriedaeth ac ewyllys da sydd wedi tyfu yn ystod degawdau o wasanaethu cymunedau. Fe fyddai tranc cyhoeddiadau lleol yn golygu y byddai llai o straeon pwysig yn cael sylw haeddiannol yn rhanbarthol a chenedlaethol ac yn ei gwneud yn anoddach i'r BBC weithredu'n effeithlon fel gwasanaeth darlledu cyhoeddus.
Mae hi er budd y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwasg rhanbarthol gref.
Mae papurau lleol yn rhoi llwyfan i drafodaethau democrataidd ar lefel gymunedol ac yn caniatáu i bobl dynnu sylw at faterion na fyddai fel arall yn denu sylw eang. Yn hynny o beth, maen nhw'n ffordd hanfodol i bobl ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif ac i gynnal dadleuon gyda chynrychiolwyr etholedig.
Mae'r wasg rhanbarthol hefyd yn galluogi pobl o ystod eang o grwpiau economaidd-gymdeithasol i weithio yn y diwydiant cyfryngol. Mae 50,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn gweithio yn y wasg rhanbarthol. Mae'r sector yn parhau i fod yn brif hyfforddwr ar gyfer newyddiadurwyr ac wedi buddsoddi er mwyn rhoi'r sgiliau a'r offer i'w staff i ffynnu yn oes y rhygnrwyd.