Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Is-bwyllgor Darlledu

Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Darlledu ar 5 Tachwedd 2008 a’i gylch gwaith yw cyflwyno adroddiad

  • ar y cynigion yng nghyfnod 2 adolygiad Ofcom ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus erbyn 4 Rhagfyr 2008; ac
  • ar adroddiad terfynol Ofcom am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus (o fewn deufis i gyhoeddi hwn).

Bydd yr is-bwyllgor yn peidio â bodoli unwaith y bo wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol.

Mae Rheol Sefydlog 10.17 yn nodi bod is-bwyllgor yn cael ei reoleiddio gan y Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â’r pwyllgor y mae’n is-bwyllgor iddo. Bydd yr is-bwyllgor felly, yn cyfarfod yn ffurfiol yn gyhoeddus (ac eithrio lle mae’r pwyllgor yn penderfynu mewn sesiwn ffurfiol i gyfarfod mewn sesiwn breifat). Bydd unrhyw adroddiad a gaiff ei lunio gan yr is-bwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i’w gymeradwyo, ac os yn briodol, yn cael ei osod gerbron y Cynulliad.

Newyddion Diweddaraf

Cyflwynodd y pwyllgor ei ymateb i ail gyfnod adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus Ofcom ar 4 Rhagfyr 2008.

Aelodaeth

Gellir gweld Aelodau'r pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r pwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gallwch weld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>

Dyddiadau cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfodydd y pwyllgor ar y dyddiadau a ganlyn

Gweler yr agendâu i gael gwybod amseroedd a lleoliadau'r cyfarfodydd.