Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Adroddiad Atodol ar y Gyllideb Ddrafft
Cefndir
Mae’r Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad o’r blaen i’r Pwyllgor Cyllid, yn unol â Rheol Sefydlog 27.3, ar y craffu ar waith y Gweinidog Treftadaeth ynglŷn â’r gyllideb ddrafft. Diben yr adroddiad atodol hwn yw crynhoi’r materion a godwyd yn ystod y broses craffu’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog dros Dai; mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd ar 28 Tachwedd 2007.
Prif Bwyntiau
Mae’r Pwyllgor yn:
- Nodi bod y gyllideb at ddibenion cymunedol wedi gostwng 2.2% ond mae’n cydnabod bod y llinell wariant yn y gyllideb wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf - i oddeutu £48 miliwn; ac mae’n croesawu sicrhad y Gweinidog bod y gyllideb hon yn ddigonol i ateb yr holl ymrwymiadau perthnasol, yn cynnwys ymestyn 'Cymunedau yn Gyntaf’ i ardaloedd eraill. Bydd y fenter hon yn cael ei galw’n 'Cymunedau Nesaf ’ a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn yn y Flwyddyn Newydd; yn cynnwys y posibilrwydd o gydweddu’r gwariant hwn gydag arian cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd.
- Nodi’r £1miliwn a ddyrannwyd i’r gronfa ddatblygu’r swyddfa bost, oedd yn gynwysedig o fewn y llinell wariant yn y gyllideb gymunedol.
- Nodi’r dyraniad o £3.6 miliwn i fynd i’r afael â thrais yn y cartref; ac mae’n falch bod yr arian hwn wedi’i anelu yn bennaf tuag at gefnogi dioddefwyr yn hytrach na’r rhai sy’n cyflawni troseddau.
- Nodi bod £1 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr; yn bennaf i uwchraddio ac adnewyddu safleoedd sy’n bodoli - ond nad oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu safleoedd newydd ar hyn o bryd.
- Nodi trosglwyddiad arian rhwng cronfeydd cyfalaf a refeniw, yn rhoi cyfanswm arian o oddeutu £23.7 miliwn i’r gwasanaeth tân ac achub; ac mae’r pwyllgor yn croesawu’r ffaith y bydd y gwariant hwn yn canolbwyntio ar hyrwyddo diogelwch mewn cymunedau.
- Croesawu cyflwyno’r Llinell Gwariant yn y Gyllideb tlodi plant yn y gyllideb; ac yn nodi y bydd rhan o’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i sefydlu’r grŵp gwaith arbenigol i roi cyngor ar bolisi yn y maes pwysig hwn.
- Nodi bod Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu strategaeth cynhwysiad cymdeithasol newydd.
- Croesawu’r cyfanswm o £22.8 miliwn a gynhwyswyd ar gyfer y Gronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau ac mae’n nodi y bydd y strategaeth sy’n datblygu yn mynd i’r afael â mater difrifol camddefnyddio alcohl.
- Croesawu’r £1.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu rhai sy’n prynu tai am y tro cyntaf. Addawodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor ar yr adolygiad o’r cynllun Cymorth Prynu.
- Croesawu’r £82.3 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y grant tai cymdeithasol a’r £21 miliwn ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer cynlluniau tai arbenigol.
- Nodi, yn dilyn cynnydd bychan y flwyddyn nesaf, bod yr arian ar gyfer y cynllun defnyddio ynni’n effeithlon yn y cartref yn parhau’n gyson sef £19.8 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried tlodi o ran costau cynyddol tanwydd wrth ddyrannu’r arian hwn. Addawodd y Dirprwy Weinidog ddarparu nodyn ar y mater hwn gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
Casgliad
Mae’r Pwyllgor yn fodlon ar y cyfan gyda’r arian a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gweithgareddau o fewn portffolios y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog dros Dai.