CC(3) VS1
CC(3) 03-07 (p1): 10 October 2007
Cynnig gorolwg o bolisi a strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ariannu cyrff a mudiadau gwirfoddol, fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i ariannu cyrff a mudiadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
2. Cefndir
Nodir y sail statudol ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad yn y sector Gwirfoddol a Chymunedol (neu'r 'trydydd’ sector) yng Nghynllun y Sector Gwirfoddol, a sefydlwyd o dan Ddeddfau Llywodraeth Cymru 1998 (A.114) a 2006 (A.74). Mae'r Cynllun yn disgrifio polisi a mecanweithiau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer
(a) cydweithio mewn partneriaeth â'r sector
(b) ymgynghori â'r sector
(c) hyrwyddo gwirfoddoli, a
(d) hyrwyddo datblygu cymunedol.
Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys y 'Cod Ymarfer ar Gyllido'r Sector Gwirfoddol’, a gyhoeddir fel dogfen ar wahân. Noda'r Cod yr egwyddorion allweddol sy'n sail i gyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y sector, er mwyn gwneud yn siŵr y dilynir yr arferion gorau wrth weinyddu ei chynlluniau grant a chynlluniau'r asiantaethau sy'n rheoli cronfeydd ar ei rhan. Ei nod yw sicrhau fframwaith ariannu effeithiol yn seiliedig ar ddeg o egwyddorion allweddol - gweler Atodiad 1 am fanylion pellach.
Mae'r Cynllun hefyd yn pennu amryfal fecanweithiau i hwyluso gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol, y mae'n rhaid iddo gwrdd ddwywaith y flwyddyn, a chyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn rhwng y sector a phob Gweinidog â phortffolio. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle ffurfiol i'r sector grybwyll anghenion, materion a phryderon yn ymwneud ag ariannu. Yn ôl y Cynllun mae angen i un o'r cyfarfodydd chwe-misol fod yn gysylltiedig â Chylch Cynllunio Cyllideb Llywodraeth y Cynulliad, er mwyn caniatáu trafod materion ariannu.
Adolygwyd Cynllun y Sector Gwirfoddol a'r Cod Ymarfer ar Ariannu’r sector gan Gomisiwn Annibynnol yn 2004, a glywodd dystiolaeth gan y sector ac amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill.
O ran ariannu, roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyflwyno'r Cynllun a'r Cod, a'r grantiau a ddyfarnwyd i'r sector o dan ei delerau, wedi cael effaith lesol. Y farn oedd bod lefelau ariannu, y mathau o ariannu, ynghyd ag arferion ariannu, lawer yn well nag oeddent yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig. Yn gyffredinol roedd pobl yn derbyn bod y cyllid a roddir i’r sector wedi cynyddu cryn dipyn er pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf yr oedd 'Cymunedau yn Gyntaf’, cymorth tuag at wirfoddoli, a'r cynllun Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol.
Cynigiodd yr adolygiad sawl argymhelliad mewn perthynas ag ariannu ynghylch sut y gellid gweithredu'r Cynllun yn well, a cheir manylion yn Atodiad 2. Mae'r argymhellion hyn naill ai wedi eu rhoi ar waith, neu byddant yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Strategol newydd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y Cynllun.
Roedd datblygu'r Cynllun Gweithredu Strategol yn un arall o argymhellion y Comisiwn. Mae gwaith wedi ei wneud ar ddatblygu hyn dros y 18 mis diwethaf, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni. Disgwyliwn i'r fersiwn terfynol fod ar gael erbyn mis Rhagfyr. Bydd y Cynllun yn cynnwys esboniad clir o'r ffordd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu'r sector yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Bydd y Cynllun hefyd yn defnyddio'r term 'trydydd sector’, fel un sy'n dderbyniol i'r amrediad llawn o gyrff annibynnol di-elw, hy cymdeithasau cymunedol, grwpiau hunangymorth, mudiadau gwirfoddol, elusennau, mudiadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, mentrau cydweithredol a chyrff cydfuddiannol.
Ar hyn o bryd, gellir rhannu cymorth ariannol uniongyrchol Llywodraeth y Cynulliad i'r sector yn bum prif ddosbarth. Rhoddir isod amlinelliad o bob elfen, ynghyd â'r cyllid a ddarperir ar hyn o bryd, ac yn dilyn hynny ceir nodyn am y gwaith a wneir i helpu'r sector i ymestyn yr hyn y mae'n ei gyflawni o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus
(i) Cymorth tuag at Seilwaith Cyffredinol y Sector Gwirfoddol : Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llofnodi Cytundeb Partneriaeth Pum Mlynedd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) i roi cymorth tuag at Seilwaith y Sector Gwirfoddol. Mae'r cytundeb yn darparu cyllid craidd i CGGC, i'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) yn ardal pob awdurdod lleol, ac i'r rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau gwirfoddolwyr yng Nghymru (sef y biwros gwirfoddolwyr gynt).
Yn ychwanegol at y Cytundeb Partneriaeth, cynorthwyir elfennau eraill yn y seilwaith gan gyllid a ddaw trwy'r Gronfa Meithrin Gallu Partneriaeth (CMGP) a chyllid craidd i'r Sefydliad Codi Arian. Mae cyfanswm gwerth y cymorth tuag at seilwaith a ddyrannwyd yn 2007-8 yn £5.2 miliwn.
(ii) Cymorth tuag at Wirfoddoli: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cynorthwyo amrediad o gynlluniau grant sy'n darparu cyllid i brosiectau, yn bennaf i ymestyn nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i wirfoddoli. Mae'r cynlluniau grant hefyd yn ceisio goresgyn pethau sy'n rhwystro gwirfoddoli. Mae'r cynlluniau grant penodol, cystadleuol hyn yn ychwanegol at y cyllid craidd a fydd ar gael o dan y Cytundeb Partneriaeth.
Mae'r cynlluniau sydd ar gael yn cynnwys: Gwirfoddoli yng Nghymru, Cymru: Y Gymdeithas Fyw, Gwirfoddolwyr y Mileniwm, a menter Gwirfoddolwyr Ifanc Comisiwn Russell. Mae cyfanswm blynyddol cyfun y cyllid hwn ar hyn o bryd yn £3 miliwn. At hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn talu cost gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae cost y gwasanaeth hwn yn 2007/2008 yn £373,000.
(iii) Cymorth i adfywio / datblygu cymunedau: prif ffocws ein cymorth i ddatblygu cymunedau yw'r fenter 'Cymunedau yn Gyntaf’, a fydd cyn hir yn cael ei symud i'r cam nesaf o dan faner 'Cymunedau Nesaf’. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys y trydydd sector yn bendant yn natblygiad a gweithrediad 'Cymunedau yn Gyntaf’ (CG), a bydd hyn yn parhau wrth i'r rhaglen esblygu'n 'Cymunedau Nesaf’.
Mae'r sector yn ymwneud yn agos â gweithredu'r rhaglen yn lleol - fel aelodau o Bartneriaethau CG yn eu hawl eu hunain ac, mewn llawer ardal, fel Derbynwyr Grantiau yn achos y cyllid a ddyfernir i Bartneriaethau, ac fel cyflogwyr sy'n rhoi cartref i staff CG. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi darparu cyllid tair blynedd i amrediad o gyrff trydydd sector cenedlaethol i roi cymorth i Bartneriaethau CG unigol.
O ran cynorthwyo datblygu cymunedau ac adfywio cymunedau y tu allan i ardaloedd CG, mae Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn darparu cyllid craidd i Datblygu Cymunedol Cymru, i roi cyngor arbenigol ar ddatblygu cymunedol i grwpiau ar draws Cymru ac i fwrw ymlaen â'u 'fframwaith strategol ar gyfer datblygu cymunedol’. Mae hefyd yn gweithredu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol, ac yn darparu cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo a'r mudiad Groundwork.
(iv) Cymorth i fentrau cymdeithasol: Disgrifir ein hymagwedd tuag at gynorthwyo ac ariannu datblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yn Strategaeth Mentrau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad, a gyhoeddwyd yn 2005. Bydd y prif egwyddorion yn cael eu hailddatgan yn y Cynllun Gweithredu Strategol arfaethedig ar gyfer y Sector Gwirfoddol (y Trydydd Sector), gan gydnabod bod mentrau cymdeithasol yn elfen bwysig o'r 'trydydd sector’ ehangach.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i hyrwyddo mentrau cymdeithasol fel model cyflawni effeithiol ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru oherwydd eu 'gwaelodlin driphlyg’, sef budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae mentrau cymdeithasol eisoes yn darparu amrywiaeth o wasanaethau mewn ffordd effeithiol, gan gynnwys ailgylchu, gofal plant, trafnidiaeth gymunedol, mesurau atal troseddau etc.
(v) Cynlluniau grant ar gyfer y sector gwirfoddol yn benodol: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth eang o gynlluniau grantiau a anelir yn benodol at y sector gwirfoddol (y trydydd sector). Mae'r cynlluniau hyn yn galluogi'r sector i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflwyno polisïau Llywodraeth y Cynulliad. Rhoddir manylion llawn yn Atodiad 3, ynghyd â gorolwg o gyllid Llywodraeth y Cynulliad i'r sector yn 2005/06, sy'n tanlinellu'r amrywiaeth eang o fuddsoddiad a ddarperir.
Gwelwyd bod rheolau ac arferion caffael gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro cyrff yn y trydydd sector rhag cystadlu'n llwyddiannus am gontractau. Ac felly, yn ychwanegol at ei rhaglenni ariannu, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio i godi proffil y sector gyda'r sawl sy'n caffael, trwy gyfrwng Gwerth Cymru. Y nod yw helpu'r sector i fanteisio'n well ar gyfleoedd i dendro, a gweld sut y gall sefydliadau gydweithio i gynyddu effeithlonrwydd. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu trwy 'Grŵp Caffael y Trydydd Sector'. Bydd y canlyniadau'n cynnwys cyhoeddi 'siarter’ yn amlinellu arferion da o ran caffael gwasanaethau oddi wrth y trydydd sector.
At hynny rydym yn ystyried ymarferoldeb cyflwyno cronfa fuddsoddi i feithrin gallu'r sector i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn adolygu'r Cod Ymarfer ar Ariannu i gynnwys egwyddor 'adennill costau llawn', ac i gynnwys adran newydd ar gaffael.
Yn achos cynlluniau grant traddodiadol, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn monitro perfformiad derbynwyr grantiau o ran gwireddu'r amcanion prosiect y cytunwyd arnynt. Mae gofynion monitro'n amrywio yn ôl maint y grant, ond yn nodweddiadol byddant yn golygu:
Er 2006, mae Uned y Sector Gwirfoddol wedi cynnal ymarfer cydymffurfio blynyddol i wneud yn siŵr bod swyddogion sy'n ymwneud â gweinyddu cynlluniau grant Llywodraeth y Cynulliad yn ateb gofynion y Cod Ymarfer ar Gyllido'r Sector Gwirfoddol. Caiff effeithiolrwydd y trefniadau monitro ei fonitro hefyd gan wasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth y Cynulliad, a gall Swyddfa Archwilio Cymru graffu arno hefyd.
Caiff y Cytundeb Partneriaeth ei fonitro trwy gyfrwng cyfarfodydd monitro ddwywaith y flwyddyn rhwng swyddogion Llywodraeth y Cynulliad a chynrychiolwyr CGGC, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a'r Canolfannau Gwirfoddolwyr. Cyn cynnal y cyfarfodydd hyn, rhaid i'r cyrff sy'n derbyn cyllid gyflwyno gwybodaeth fanwl ar berfformiad, yn nodi sut y maent yn cydymffurfio â manylebau'r gwasanaeth.
Mae gwerthuso effaith cyffredinol cynlluniau grant y sector gwirfoddol, a'r penderfyniadau ynghylch a ddylid eu parhau, eu haddasu neu eu diddymu ar ddiwedd pob cylch grantiau, yn fater i weinidogion unigol â phortffolio, mewn ymgynghoriad â'r sector a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd gwirioneddol a nodedig ym maint y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i'r trydydd sector yng Nghymru, fel y dangosir isod
2002/3 - £79 miliwn
2003/4 - £107 miliwn
2004/5 - £125 miliwn
2005/6 - £162 miliwn (ffigurau o'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun y Sector Gwirfoddol)
Mae ein buddsoddiad yn helpu'r sector i ffynnu, ac yn ei alluogi i ymateb i heriau newydd, gan gynnwys her allweddol diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod cymorth ariannol Llywodraeth y Cynulliad i'r trydydd sector yn llwyddiant arwyddocaol. Cyn hir byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategol newydd, yn gosod allan weledigaeth fanwl, bedair blynedd o'r hyn yr ydym am i'r sector ei gyflawni yn y dyfodol, yn dâl am ein buddsoddiad. Yn arbennig, byddwn yn egluro sut y gall y sector gefnogi ein hagenda 'Cymru’n Un’, gan gynnwys ei swyddogaeth o ran gwireddu strategaethau allweddol fel 'Cyflawni Ar Draws Ffiniau’.
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cod Ymarfer ar Gyllido'r Sector Gwirfoddol: detholiad yn rhoi manylion prif egwyddorion y Cod:
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i weithredu fframwaith ariannu effeithiol ar gyfer y sector gwirfoddol. Seilir ei phenderfyniadau ar yr egwyddorion canlynol:
Bydd swyddogion a Gweinidogion y Cynulliad yn disgwyl i fudiadau gwirfoddol sy'n cyflwyno cynigion ariannu fod wedi rhoi ystyriaeth i'r blaenoriaethau fel y'u nodir yn nogfennau polisi strategol y Cabinet ac yn egwyddorion y Cynulliad o ran datblygu cynaliadwy; cydraddoldeb; a chynhwysiant cymdeithasol.
Ceir testun llawn y Cod yn: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/voluntarysector/publications/fundingcode?lang=en
Comisiwn Annibynnol i Adolygu'r Cynllun Sector Gwirfoddol (2004): Argymhellion yn ymwneud ag ariannu
Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad:
GRANTIAU SYDD AR GAEL GAN LYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU I GYRFF GWIRFODDOL / TRYDYDD SECTOR
Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau i Gymru: Mae peth o'r arian wedi ei ddefnyddio i sefydlu Cronfa Gynaliadwyedd i fynd i'r afael â'r costau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag echdynnu agregau.
Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd: Grant yw hwn i ddatblygu gwasanaethau ataliol a chynorthwyol i blant a theuluoedd ac i osgoi chwalu teuluoedd.
Grantiau Mentrau Dinesig (Treftadaeth): Mae'r grant hwn yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd hanesyddol ac mae'n hyrwyddo gwerthfawrogiad ohono.
Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo: Mae'r grant yn cynorthwyo i adfywio ac ailnerthu'r cyn gymunedau glofaol ar draws Cymru a'r rhai presennol.
Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedau: Gall y rhaglen ariannu unrhyw gynigion sy'n cefnogi cynnwys pobl leol mewn gweithgarwch cymunedol a fydd yn cyfrannu at adfywio ardal.
Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf : Mae hon yn strategaeth hirdymor i wella amodau byw a'r rhagolygon i bobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf : Diben y cynllun yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy'n cynnwys pobl leol, trwy fudiadau cymunedol bychain, sydd o les i'w cymuned.
Cronfa Ymddiriedolaeth (Cerddoriaeth) Cymunedau yn Gyntaf: Diben y cynllun yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd cerddorol a cherddoriaeth gymunedol sy'n cynnwys pobl leol, trwy fudiadau cymunedol bychain, ac sy'n hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
'Amgylchedd Cymru’: Nod y cynllun yw cefnogi gweithredu gwirfoddol sy'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy trwy helpu i amddiffyn a gwella'r amgylchedd yng Nghymru.
Y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Grantiau ar gyfer Cyrff a Mudiadau Gwirfoddol Cenedlaethol yng Nghymru. Diben y grant yw helpu â bylchau o ran ariannu yng ngweithgareddau craidd mudiadau gwirfoddol sy'n gweithredu yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynllun Grantiau Her Iechyd Cymru i’r Sector Gwirfoddol: Cynigir grantiau i fudiadau gwirfoddol cenedlaethol, a all gyfrannu at hybu iechyd ac ategu datblygiadau cenedlaethol mewn hybu iechyd yng Nghymru.
Asiantaethau Gwella Cartrefi/Gofal a Thrwsio/Rhaglen Addasiadau Brys: Mae'r cynllun hwn yn darparu cymorth a chyngor ymarferol, technegol ac ariannol ar wella cartrefi, cynnal a chadw ac atgyweiriadau i feddianwyr cartrefi fel eu bod yn gallu aros yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned cyhyd ag y maent yn dymuno neu'n gallu gwneud hynny.
Y Sector Iechyd Meddwl - grantiau ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol Lleol: Mae'r cynllun yn ariannu'r gwasanaeth datblygu iechyd meddwl ac amrediad o brosiectau mudiadau gwirfoddol lleol. Ymhlith y gweithgareddau a gefnogir y mae canolfannau galw i mewn, llety lle ceir cefnogaeth, rhaglenni o weithgareddau a gwasanaethau gwybodaeth a chymorth.
Cynllun Grantiau Gwirfoddolwyr y Mileniwm: Ffrwd ariannu yw hon ar gyfer sefydliadau sy'n gallu cynnig neu ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn unol â gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
Cynllun Grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol: I helpu cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol, sy'n hwyluso gwasanaethau ieuenctid i bobl ifanc yng Nghymru, i gynyddu cwmpas ac ansawdd cyfleoedd ar gyfer dysgu anffurfiol i bob unigolyn 11 i 25 oed yng Nghymru.
Atal a Lliniaru Digartrefedd a Bod Heb Do Uwch eich Pen: Cymorth refeniw i helpu cyrff gwirfoddol i liniaru digartrefedd a bod heb do uwch eich pen
Darparu Cyngor a Gwasanaethau mewn perthynas â Throseddau gan Bobl Ifanc a Thrais yn y Cartref: Mae'r cynllun grant yn dyrannu cyllid i gyrff gwirfoddol arbenigol sy'n darparu amryfal wasanaethau a chyngor i asiantaethau lleol mewn perthynas â throseddau gan bobl ifanc a cham-drin yn y cartref.
Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol: Mae'r Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol wedi ei llunio i helpu landlordiaid cymdeithasol i sicrhau safonau rheoli tai uchel.
Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Cyffuriau/ Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Cyffuriau (Cyfalaf)/ Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDCau): Maent yn comisiynu gwasanaethau gan y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus i ymdrin â bylchau mewn gwasanaethau, ateb anghenion a aseswyd yn lleol a sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau.
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy: Nod y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) yw datblygu a rhoi prawf, drwy bartneriaeth, ar ffyrdd newydd o sicrhau dull mwy cynaliadwy o fyw mewn cefn gwlad sy'n neilltuol o hardd ac amrywiol ei gymeriad, lle gall nodweddion lleol y diwylliant, y bywyd gwyllt, y dirwedd, defnydd tir a'r gymuned gael eu cadw a'u hybu.
Cronfa Gwirfoddoli yng Nghymru: Bydd cyllid ar gael i hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru, yn arbennig ymysg pobl ddi-waith ym maes iechyd a lles cymdeithasol.
Menter 'Cymru: Y Gymdeithas Fyw’: Nod y fenter Cymunedau Gweithredol yw ailgodi synnwyr o gymuned ledled Cymru; rydym yn cefnogi prosiectau cenedlaethol yng Nghymru sy'n codi proffil gwirfoddoli a chyfraniad y gymuned ac yn ysgogi rhagor o hynny.
Cynllun Grantiau Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru: Rhoddir grantiau i'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i ymgymryd ag archaeoleg gysylltiedig â bygythiad ledled Cymru.
Cyllid gan Is-adrannau'r Cynulliad i'r Sector Gwirfoddol 2005/06
Adran/Is-adran £ Cyfanswm
Yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau
Polisi Busnes 104752
Gweithrediaeth Rhaglen Blaenau'r Cymoedd 168000
Buddsoddi Cymru 13094
Cynllunio Trafnidiaeth ac Amoneiddio 165113
WEFO 18369042
Cyfanswm 19611622
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant 455598
CAFCASS Cymru 8000
Plant a Theuluoedd 3495529
Strategaeth Plant 2753557
Addysg Uwch 1480
Perfformiad a Gwelliant 75000
Cynllunio ac Ariannu 223501
Ymarferwyr 103228
Rheoli Ysgolion 513647
Cyfleoedd Dysgu Ieuenctid ac Oedolion 1469565
Cyfanswm 8643507
Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Ynni Cymru 3317000
Yr Amgylchedd - Diogelu ac Ansawdd 3003158
Datblygu Marchnata Bwyd a Ffermio 35484
Cyfanswm 6355642
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol
a Gwasanaethau Iechyd 5308863
Hybu Iechyd 341887
Polisi a Datblygu Gwasanaethau Iechyd 338028
Diogelu Iechyd y Cyhoedd 42156
Strategaeth Iechyd y Cyhoedd 51776
Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 19687
Polisi Pobl Hŷn a Gofal Hirdymor 595279
Cyfanswm 6697676
Llywodraeth Leol a Diwylliant
CyMAL 96967
Y Gyfarwyddiaeth dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon 2534594
Cyfanswm 2631561
Strategaeth, Cydraddoldeb a Chyfathrebu
Uned Polisi Cydraddoldeb 266655
Uned Polisi Strategol 83186
Cyfanswm 349841
Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Polisi Busnes 104752
Y Gyfarwyddiaeth Gymunedau 10582707
Uned Diogelwch Cymunedol 604561
Y Gyfarwyddiaeth Dai 99493332
Y Sector Gwirfoddol a Chynhwysiant 7607000
Cyfanswm 118392352
CADW 62324
2005/06 Cyfanswm 162,545,352