Cynulliad Cenedlaethol Cymru

CC(3) VS3

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

CC(3) 04-07 (p1): 24 October 2007

Ymchwiliad i ariannu mudiadau yn y sector gwirfoddol yng nghymru

Diben

Gofynnwyd i Merched y Wawr baratoi'r papur yma i amlinellu sut yr ydym yn cael nawdd i gynnal y mudiad a pha anawsterau yr ydym yn eu cael.

Fel mudiad sydd â rhif fechan o staff cyflogedig mae yn frwydr barhaol i gael amser i ymchwilio am gyllid a nawdd.  Mae amserlen ceisiadau nawdd hefyd yn anodd oherwydd pwysau'r gwyliau cenedlaethol dros yr haf a cheisiadau i fod i mewn erbyn dechrau Medi.  O ran ein ceisiadau rheolaidd rydym yn cael nawdd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn cael nawdd achlysurol o grantiau loteri.  

Mae yn anodd iawn, os nad oes gennych bobl arbenigol i ddarllen y  niferus lyfrynnau, e-byst a dogfennau i ddod yn ymwybodol o ffynonellau nawdd a’i pherthnasedd i fudiadau gwirfoddol.  

Mae yn anodd cael gwybod am arian perthnasol i’n prosiectau/gweithgareddau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff ariannu cenedlaethol perthnasol.  Wedi dweud hynny mae system Bwrdd yr Iaith o ariannu wedi gwella yn sylweddol ers i’r sicrwydd cyllid tair blynedd gael ei weithredu.

Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr y gwaith a wneir gan Fwrdd yr Iaith i gael y partneriaid i gydweithio, ac maent yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd ar ein cyfer sy’n hwyluso llawer ar ein partneriaeth a’n cydweithio.

Byddwn yn dweud ei bod yn system deg o ran cydymffurfio â’r cyfyngiadau a’r amodau ariannu.  Yr unig broblem yn aml ydyw gorfod dyblygu yr hyn sy’n cael ei gyflwyno yn flynyddol.  Dylid gofyn am ddogfennau megis cyfansoddiad dim ond os oes newid wedi digwydd yn y flwyddyn gynt.

Rydym yn derbyn ei bod yn anodd dweud beth yn union fydd y cyllid sydd ar gael o un flwyddyn i’r nesaf ond yn ddelfrydol dylid gwneud trefn tair  blynedd er mwyn hwylustod cynllunio ymlaen llaw.

Fel mudiad sy’n gweithredu trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg rydym yn aml yn cael anhawster i drafod ein hanghenion gyda rhywun sy’n medru’r iaith.

Yn gyntaf byddwn yn gofyn i’r pwyllgor sicrhau bod tegwch i’r  Gymraeg a’r Saesneg a’r ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal yn y broses o geisio am nawdd.  Yn ail byddwn yn gofyn am ffyrdd pendant o hysbysu'r sector wirfoddol am unrhyw nawdd perthnasol gan roi digon o amser i baratoi cais.  Yn drydydd byddwn yn gofyn i amseriad cyflwyno cais gael ei ystyried yn ofalus

Cefndir

Sefydlwyd MERCHED Y WAWR yn elusen 40 mlynedd yn ôl. Mae yna dros 250 o ganghennau a chlybiau gwawr yng Nghymru ac mae merched o bob oedran a dysgwyr Cymraeg yn ymuno.

Cynhelir dros 3,000 o ddigwyddiadau’n flynyddol gennym.

Mae’r aelodau yn gwneud pob math o bethau gan gynnwys teithiau addysgiadol, coginio a bwyta’n iach, iechyd a ffitrwydd, chwaraeon, cynorthwyo elusennau eraill a derbyn pedwar rhifyn o’r cylchgrawn 'Y Wawr’ yn flynyddol.

Rydym yn fudiad elusennol gwladgarol ac yr ydym yn ymgyrchu yn daer i ddiogelu yr iaith Gymraeg, gwasanaethau a llawer iawn mwy.

Cyllido’r mudiad

Fe ddaw ein prif gynhaliaeth o grant Bwrdd yr Iaith ac yna o dâl aelodaeth gyda nifer o’n digwyddiadau yn dwyn elw i ddatblygu’r mudiad ymhellach.  Cawn nawdd tuag at ddigwyddiadau llai yn achlysurol o ffynonellau megis grant Llywodraeth Cynulliad Cymru -  "Diwrnod rhyngwladol y Menywod 2007” yn ymwneud ag annog menywod i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol i gael hwyl ac i wella’u hiechyd.

Cawn nawdd rheolaidd o Gyngor Llyfrau Cymru tuag at gyhoeddi a gwella ein cylchgrawn "Y Wawr”.

Nid ydym ar hyn o bryd ychwaith yn manteisio llawer ar y nawdd y gellir cael o’r Cynghorau Sir - mae hyn eto oherwydd ei bod mor anodd i geisio am nawdd, gyda chais yn gorfod cael ei gyflwyno i bob cyngor yn unigol.  Ar hyn o bryd rydym yn derbyn nawdd o Gyngor Sir Caerfyrddin,  Cynllun Cronfa 1(£5000 at hyrwyddo'r Clybiau Gwawr.)

Er ein bod ni fel mudiad yn Genedlaethol wedi cael cyswllt band eang a gennym wefan a chyswllt rheolaidd â’r we, nid ydyw mwyafrif ein haelodau na’n swyddogion gwirfoddol a mynediad i’r we, a theimlwn na ddylid diystyru'r niferus bobl sydd yn y sefyllfa yma nac ychwaith mudiadau gwirfoddol sy’n methu cael mynediad i’r we. Enghraifft negyddol o hyn ydoedd gorfod cyflwyno cais eleni am nawdd y Bwrdd Iaith ar ffurflen briodol ar e-bost yn unig.

Byddwn fel mudiad yn gwerthfawrogi cyfarfodydd lleol i hyrwyddo'r nawdd sydd ar gael gan Llywodraeth y Cynulliad.  Mae’n well cael cyswllt uniongyrchol gyda’r cyllidwyr yn hytrach na gofyn i rywun fel cyngor gweithredu gwirfoddol Cymru fod yn asiant yn y canol i ddelio a’r nawdd.  Rhaid peidio diystyru Canolbarth a Gogledd Cymru, mae yn hawdd i wneud hyn gan fod cymaint yn fwy o adnoddau yn y De.