Cynulliad Cenedlaethol Cymru

CC(3) VS4

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

CC(3) 04-07 (p2): 24 October 2007

Ymchwiliad i ariannu mudiadau yn y sector gwirfoddol yng nghymru

Cyflwyniad  - Mae gwreiddiau Clybiau i Bobl Ifanc Cymru’n dyddio’n ôl i 1928, o 'gyfraniadau o geiniog i glybiau bechgyn y glofeydd gan lowyr trwy eu cyflogau’ trwy nifer o enwau newydd, h.y. Clybiau Bechgyn Ffederasiwn Glowyr De Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, a’r diweddaraf - Clybiau i Bobl Ifanc Cymru (CYP Cymru).

Nod - Cefnogi a chynorthwyo datblygiad corfforol, addysgol a moesegol pobl ifanc, trwy eu gweithgarwch amser hamdden, fel y gallant aeddfedu fel unigolion cyfrifol ac fel aelodau gwerthfawr a gweithgar yn eu cymunedau.

Maint y ddarpariaeth gwaith ieuenctid - Mudiad ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol yw CYP Cymru gyda 250 o glybiau cyswllt, yn gwasanaethu 30,000 o bobl ifanc, gyda chymorth 3,500 o wirfoddolwyr.  Amcangyfrifir fod y cyfraniad i economi Cymru tua £11½M, fan leiaf.  Hwn yw’r sefydliad ieuenctid ail fwyaf yng Nghymru.  Mae’n darparu ei waith ieuenctid gan ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch fel y cyfrwng pennaf.  Trosiant blynyddol ei bencadlys - £250,000 ac mae CYP Cymru’n haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith y mae’n ei wneud dros y mudiad gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Cyllid cyfredol gan llcc - Daw’r incwm o’r ffynonellau a ganlyn:

  • Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol 2005-2008 - £67,785.  Mae hwn yn cynorthwyo ein staff craidd (un Swyddog Gweinyddol, un Swyddog Arian/Gwasanaethau Maes a Phrif Weithredwr), swyddfeydd a gwasanaethau ategol.
  • Rhaglen Buddsoddwyr mewn Pobl - £1,656 (yn daladwy i fentor).
  • Hyfforddiant Datblygu Staff Proffesiynol - £480.

Cyllid ar gyfer staff, gwasanaethau, prosiectau ayb - cynigir am hwn trwy Gronfa Fawr y Loteri, Cyngor Chwaraeon Cymru, ffynonellau CGGC, Cronfeydd Ymddiriedolaethau,  Sefydliadau, rhoddion a chodi arian.

Dyfodol cyp cymru - Yn unol â Strategaeth Gwaith Ieuenctid y Dyfodol yng Nghymru LlCC rydym wedi penderfynu ailstrwythuro ein proses o ddarparu trwy symud ein 4 Swyddog Datblygu i’r rhanbarthau.  Er mwyn osgoi ansicrwydd arian y Loteri a gwella dilyniant a diogelwch staff byddwn yn gwneud cais i LlCC i gynyddu ein grant MIGC i dalu am y 4 Swyddog Datblygu.  Rhagwelir y bydd effeithiolrwydd/effeithlonrwydd/ansawdd darpariaeth i’n clybiau cyswllt yn well oherwydd gwaith swyddogion penodedig.

Mae CYP Cymru wedi sefydlu partneriaeth gyda chwmni gwasanaethau adeiladu mawr, Connaught.  Trwy’r bartneriaeth hon byddwn yn datblygu rhaglen hyfforddi i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn prentisiaethau yn y diwydiannau adeiladu.  Byddwn yn gwneud cais i’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i wneud hyn.  Mae Connaught yn cyfrannu £100,000 i flwyddyn i raglen adnewyddu clybiau fel rhan o’i Bolisi Atebolrwydd Corfforaethol.

Er mwyn gwella ein sefyllfa ariannol, mae CYP Cymru’n ymchwilio i strategaeth o gynnwys gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn ffurfio siopau elusen ac ymgyrch bosteri o bwys.

Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda Chynllun Gwobr Dug Caeredin i’n galluogi i ddarparu ein Cynllun Gwobrau Maen Clo i bobl rhwng  10 + 14 oed.  Mae ein partneriaid eraill yn cynnwys Arweinwyr Chwaraeon y DU, cyrff llywodraethol cenedlaethol chwaraeon yng Nghymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Chwaraeon Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd ayb.

Awgrymiadau i’w hystyried

  • Rhan sylfaenol o’n datblygiad yn y dyfodol yw cynnydd ym maint yr arian a ddyfernir trwy’r grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol.  Bydd hwn yn ein helpu i chwarae mwy o ran ym mholisïau LlCC ar gyfer pobl ifanc - Llwybrau Dysgu 14-19, Ymestyn Hawliau, Dringo’n Uwch ayb - yn ogystal â chefnogi ei agenda ei hun.  Rhaid adolygu a gwella’r isadeiledd trwy gefnogaeth ariannol gan LlCC.
  • Mae gan CYP Cymru strwythur/strategaeth yn barod i gynnig ymgyrch bosteri i LlCC sy’n targedu pobl ifanc e.e. bwyta’n iach, rhagolygon gyrfa, cyfranogi, cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, cyfleoedd dysgu gydol oes.
  • Mae’r rhan fwyaf o arian LlCC, a fwriedir i wella gwasanaethau ieuenctid i bawb, ac a ddosberthir trwy’r awdurdodau lleol, yn aros o fewn yr awdurdod hwnnw, e.e. Cyllided Hyfforddi Gweithwyr Ieuenctid, Cymorth.
  • Cefnogaeth Iaith Gymraeg.  O ystyried bod gan CYP Cymru'r nifer ail fwyaf o ran cyfranogi gan bobl ifanc, mae’r rhan fwyaf o’i aelodau’n ddi-Gymraeg ond eto nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid penodol i gysylltu’n ddwyieithog â’n haelodau, e.e. gwnes gais am £750 gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gyfieithu a chynhyrchu fersiwn Cymraeg o’n prif daflen, a derbyniais £250.  Dyma’r unig swm i CYP Cymru ei dderbyn gan Fwrdd yr Iaith erioed.  Mae CYP Cymru wedi ymrwymo i bolisi dwyieithog llawn o fewn pedair blynedd.  Mae cefnogaeth yn hanfodol.

Mae peth cyllid a ddyrennir gan CGGC yn annigonol.  Canlyniad hyn, er enghraifft, yw fod Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn colli cyfleoedd newydd i gysylltu â phobl ifanc.  Mae angen i’r panel chwilio am resymau dros wrthod ceisiadau da.  Rydym yn cael bod cost digwyddiadau/seminarau hyfforddi CGGC yn rhy ddrud i glybiau gwirfoddol eu mynychu.

Cefnogaeth uniongyrchol i glybiau gwirfoddol - Hyd yn ddiweddar, roedd gan CYP Cymru ei ffynonellau cyllid ei hun ar gyfer clybiau o ran cymorth gydag atgyweirio/adnewyddu, hyfforddi ayb.  Mae hwn bellach wedi 'mynd yn hysb’. A fyddai LlCC yn ystyried cefnogaeth i’n clybiau cyswllt  a CYP Cymru’n brif ddosbarthwr er mwyn sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i’r rhai mwyaf haeddiannol.

Dave Evans

Prif Weithredwr - Clybiau i Bobl Ifanc Cymru