Cynulliad Cenedlaethol Cymru

CC(3) VS54

CC(3)-09-07 (p2): 12 Rhagfyr 2007

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Ymchwiliad i gyllido sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru  

1.   Cronfa Dreftadaeth y Loteri

1.1  Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yw prif ariannwr treftadaeth y DU, ac mae’n dosbarthu incwm achosion da cyfran treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

1.2  CDL yw’r unig sefydliad treftadaeth sy’n cyllido pob math o dreftadaeth - treftadaeth ddiwydiannol, forwrol a thrafnidiaeth; treftadaeth adeiledig; treftadaeth naturiol gan gynnwys  parciau; amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau; a threftadaeth iaith, hanes llafar a thraddodiadau diwylliannol. Mae’n hanfodol nad yw CDL yn diffinio treftadaeth, ond mae’n gofyn i bobl ddynodi i’w hunain beth sy’n bwysig iddynt a pham eu bod yn meddwl y dylai gael ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

1.3  Mae CDL yn helpu grwpiau a sefydliadau o bob maint gyda phrosiectau sy’n bwriadu:

  • annog mwy o bobl i ymwneud â, a gwneud penderfyniadau ynghylch eu treftadaeth;
  • gwarchod a gwella treftadaeth amrywiol y DU; a
  • sicrhau y gall pawb ddysgu am, cael mynediad i, a mwynhau eu treftadaeth.  

1.4  Ers 1994 mae CDL wedi dyfarnu dros £180 miliwn i fwy na 1,500 o brosiectau treftadaeth yng Nghymru:-

  • Ers 1994 mae CDL wedi dyfarnu dros £42.5 miliwn i sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru.
  • Mae sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol yn derbyn 68% o ddyfarniadau CDL o dan £50,000 yng Nghymru.  
  • O’r ceisiadau hynny a gyflwynir i GDL gan sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru ac sy’n ymgeisio am grantiau sy’n llai na £50,000, mae 71% ohonynt wedi derbyn cyllid oddi wrth GDL.

2. Rôl a chefndir CDL

2.1 Sefydlwyd CDL gan y Senedd ym 1994 i roi grantiau i ystod eang o brosiectau ynghlwm â threftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig.  Mae’n dosbarthu 16.66% o’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da.

2.2 Mae CDL yn 'gorff cyhoeddus anadrannol’. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi polisi a chyfarwyddiadau ariannol i’r Gronfa, sy’n adrodd i’r Senedd drwy’r adran.  Mae penderfyniadau ynghylch ceisiadau unigol a pholisïau yn annibynnol (gweler 2.5).

2. 3 Gweinyddir CDL gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG).  Mae gan GGDG gyllideb o £10 miliwn o grantiau cymorth y Llywodraeth ar gyfer grantiau i’n Treftadaeth genedlaethol.  Mae’n gweithredu fel cronfa grantiau 'gobaith olaf’, i ennill eitemau o arwyddocâd cenedlaethol sydd mewn peryg o’u colli.

2.4 Cyfarwyddyd Polisi Cymru

Er bod y Loteri Genedlaethol yn fater neilltuedig, mae treftadaeth wedi’i ddatganoli yng Nghymru, gyda’r Gweinidog dros Dreftadaeth yn arwain. Mae’r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Lywodraeth y Cynulliad wedi’i fwriadu i ychwanegu at gyfarwyddyd y DU gyfan wrth adlewyrchu diddordebau sy’n arbennig i Gymru ac a ddylid eu hystyried pan bod CDL yn penderfynu ar achosion yng Nghymru.  Yn diweddar mae CDL, ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, wedi cytuno ar ei Chyfarwyddyd Polisi ar gyfer 2008 ymlaen.  Mae nifer o’r elfennau o gyfarwyddyd polisi Cymru wedi’u hunioni i fwriadau adroddiad 'Cymru’n Un’ y Cynulliad.  (Gweler Atodiad 1)

2.5 Gwneud penderfyniadau o fewn Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dirprwyo pwerau i bwyllgorau rhanbarthol a gwlad sy’n gwneud penderfyniadau ar ddyfarniadau unigol o £50,000 - £2 miliwn. Cefnogir hwy gan dimau lleol sy’n asesu ceisiadau yn lleol.  Mae swyddfeydd mewn naw rhanbarth yn Lloegr ac yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.  Mae’r timau’n gweithio gyda chymunedau a sefydliadau lleol i helpu datblygu a chefnogi ceisiadau, ac i’w hasesu unwaith fe’u cyflwynir. Maent hefyd yn gyfrifol am 'ymestyn allan’ (outreach) a gweithgareddau eraill yn eu gwlad neu ranbarth.

Mae gan Reolwyr Rhanbarth a Gwlad hawl dirprwyedig i benderfynu ar grantiau bychan hyd at £50,000.  Penderfynir ar geisiadau grant dros £50,000 gan bwyllgorau rhanbarthol a gwlad o bobl leol sy’n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored.  Penderfynir ar grantiau dros £2 miliwn gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr - sy’n galluogi CDL gyllido prosiectau ar raddfa na ellir eu cyllido o gyllidebau dirprwyedig.  Mae Pwyllgor Cymru CDL ag wyth o aelodau, a benodir drwy recriwtio cyhoeddus. Penodwyd yr aelodau cyfredol am eu gwybodaeth o’r sectorau treftadaeth, a materion perthnasol i gyllido CDL fel twristiaeth ddiwylliannol, cymunedau cynaliadwy, a materion amgylcheddol.  Yr aelodau yw Dan Clayton Jones (Dirprwy Gadeirydd CGDG a CDL, Ymddiriedolwr CGDG, Cadeirydd Pwyllgor Cymru), Jo Coles, Carol Greenstock, Eifion Pritchard, Ruth Waycott, Lindsey Cuddy, Merfyn Williams, Natasha Hirst.  Mae bywgraffiadau aelodau Pwyllgor Cymru a Rheolwraig CDL Cymru ar gael ar wefan CDL: www.hlf.org.uk

2.6  Cyllideb Dyfarniadau

Y gyllideb ddyfarniadau a ddyrannwyd i Gymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2006-07) oedd £7.4 miliwn, dyraniad a oedd yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth drwy wledydd y DU i gyd a rhanbarthau Lloegr.  Yn 2006-2007 dosbarthwyd bron i £20 miliwn yng Nghymru gan GDL, oherwydd roedd gan geisiadau da o Gymru'r hawl i gyllideb ar wahân Bwrdd yr Ymddiriedolwyr (wedi’i osod o’r neilltu yn arbennig ar gyfer ceisiadau dros £2 miliwn), gan gynnwys prosiectau fel Parc Bute, Caerdydd, Afon yr Orsedd, Tywi , Tŷ a Pharc Bedwellte (Tredegar) a Neuadd y Sir, Mynwy.

3.  Ymrwymiad CDL i’r sector gwirfoddol neu’r Trydydd Sector

3.1  Ar gyfer pwrpas ei busnes mae CDL yn diffinio’r sector cymunedol a gwirfoddol fel "sefydliadau dilywodraeth sy’n gweithio ar gyfer cymuned neu achos ar sail wirfoddol neu nid-er-mwyn-elw. Mae’n rhaid i’r grŵp fod o gyfansoddiad ffurfiol, h.y. mae’n rhaid iddynt gael cyfansoddiad neu set o reolau ysgrifenedig, ac yn cynnwys Cymdeithasau Cyfeillgar, Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus; Sefydliadau Dyngarol neu Fuddiannol; Ymddiriedolaethau; a Chwmnïau Cofrestredig (di elw). Gall y gymuned/achos fod yn seiliedig ar leoliad, diddordeb neu gefndir a rennir, e.e. cymdeithas gymunedol, cymdeithasau trigolion, clybiau, a grwpiau diddordeb arbenigol.”

3.2   Yn ogystal ag amrediad o raglenni ar gyfer ceisiadau grant a anelir yn benodol at ymgeiswyr y sector gwirfoddol (gweler siart 3.4), mae CDL wedi datblygu amrediad o brosesau sy’n cefnogi ac yn adeiladu ar gynhwysedd o fewn y sector:-

  • Mae’n cynnig cyngor cyn gwneud cais ar gyfer pob prosiect
  • Mae’n cynhyrchu nodiadau cyfarwyddyd clir ar bynciau a themâu penodol, gyda llawer ohonynt wedi’u dyfeisio i helpu grwpiau gwirfoddol a chymunedol gweithredu prosiectau fel hanesion llafar
  • Cydnabyddir yn gyffredinol bod CDL yn gyllidwr teg ac yn barod i helpu, gyda staff gwybodus a chefnogol sy’n darparu cymorth o lefel uchel i ymgeiswyr a grantîwyr amhrofiadol.
  • Ers 2002 mae wedi cynnig Grantiau Cynllunio Prosiect i alluogi ymgeiswyr y sector gwirfoddol a chymunedol wneud gwaith arbenigol paratoadol cyn eu prif gais ar gyfer grant i’r Gronfa. Mae hefyd wedi caniatáu peth costau paratoadol fel cyfraniad i ariannu cyfatebol.
  • Mae CDL yn derbyn amser gwirfoddolwyr fel cyfraniad mewn da i’w gofyniad ariannu cyfatebol.
  • Mae CDL yn annog defnyddio ystod eang iawn o gyllidwyr partneriaeth.
  • Mae CDL yn caniatáu costau wrth gefn a chwyddiant yn y costau, fel y bydd y cais am y grant yn fwy tebygol o ymdrin â’r gwir gostau.   

3.3   Mae CDL, wrth adnabod anghenion grwpiau cymunedol llai ac eraill yn y Trydydd Sector, wedi sefydlu nifer o newidiadau i’r ffordd y mae’n dyfarnu taliadau grant i sefydliadau llai:

  • Mae gan GDL system o daliad tri cham, gyda’r taliad cyntaf yn cael ei ddyfarnu’n syth (h.y. cyn dechrau’r prosiect, i ddelio â chostau o’r dechrau) unwaith y mae’r penderfyniad i ddyfarnu wedi’i roi;  
  • Mae CDL wedi’i ymrwymo i ddyfarnu’r taliadau grant o fewn 10 niwrnod - gall y cyfleuster hwn fod yn hanfodol ar gyfer sefydliadau cymunedol llai oherwydd gall yr arian fod yn eu cyfrif banc cyn bod anfonebau yn ddyledus.
  • Mae CDL yn derbyn anfonebau wedi’u llungopïo, sydd eto yn caniatáu amser i sefydliadau llai mantoli eu llif arian, mewn ffordd hyblyg sy’n gweddu i’w hanghenion.  Mae hefyd yn caniatáu i gais yr arianwyr cyfatebol - sydd yn aml angen yr anfoneb wreiddiol - gael ei gyflwyno ar yr un pryd, sydd eto’n lleddfu materion llif arian.

3.4  Canran o brosiectau dan £50,000 a ddyfernir yng Nghymru, yn ôl math o sefydliad  (yn cynnwys rhaglenni Arian i Bawb, Eich Treftadaeth a Gwreiddiau Ifanc)

4.   Tîm datblygu CDL Cymru

4.1  Mae CDL yn darparu cefnogaeth i ymgeiswyr drwy dîm datblygu pwrpasol sy’n gyfrifol am:-

  • wasanaeth ymholiad cyn gwneud cais; ymateb i ymholiadau oddi wrth ymgeiswyr posibl ynghylch eu syniadau ar gyfer prosiectau, cryfhau cynigion a, lle nad ydynt yn debygol o gael eu blaenoriaethu gan GDL, cyfeirio at ffynonellau mwy addas  
  • cryfhau ceisiadau a chynyddu cyfraddau llwyddiant; wrth westeio sesiynau ledled Cymru, gan roi cefnogaeth un-i-un ac ysgrifennu nodiadau cymorth yn benodol ar gyfer Cymru (gweler y tabl isod)
  • codi proffil CDL a threftadaeth ar lefel cenedlaethol a lleol; wrth fynychu ffeiriau cyllido ledled Cymru a chynhyrchu newyddlen ac erthyglau i’r wasg / cyfryngau ar ddyfarniadau lleol / cenedlaethol, ill dau, a rhaglenni grant
  • cyd-weithio gyda chyrff ymbarél y sector gwirfoddol; wrth gefnogi eu digwyddiadau a darparu sesiynau briffio a deunyddiau i’w staff i’w rhaeadru’n uniongyrchol i’w haelodaeth
  • blaenoriaethu cefnogaeth benodol a rhagweithiol i 'ardaloedd blaenoriaeth’ a nodwyd fel ardaloedd sydd heb lwyddo i ennill cyfran deg o gyllid CDL (gweler 4.2)

4.2   Sicrhau lledaeniad mwy teg o grantiau

Fel rhan o ymrwymiad CDL i sicrhau lledaeniad mwy teg o grantiau yng Nghymru, dynodwyd ardaloedd daearyddol posibl i ganolbwyntio ar ymdrechion datblygu. Mae’n fwriad yn yr ardaloedd yma i gynyddu nifer y ceisiadau a ellir eu cyllido ac i gynyddu ystod yr ymgeiswyr. Nid yw CDL yn neilltuo cyllidebau i’r ardaloedd yma, ond mae’n dyrannu ac yn blaenoriaethu'r ffynhonnell datblygu er mwyn eu helpu.

Ers 2002, pan sefydlwyd tîm datblygu Cymru, yr ardaloedd daearyddol blaenoriaeth yw Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam, ac ers hynny mae nifer y dyfarniadau wedi codi’n sylweddol (gweler isod). [CS1: yn ymwneud â Chynllun Strategol Un: 1997-2002; CS2: yn ymwneud â Chynllun Strategol Dau: 2002-07]

Mae CDL mewn cyfnod cynllunio ar hyn o bryd i ddynodi ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer 2008-2013 (ei trydydd cyfnod Cynllun Strategol) a bydd yn barod i gyhoeddi rhaglen gweithgaredd i ddechrau’r gwaith hwn, ar y cyd gydag asiantaethau lleol allweddol (gan gynnwys Aelodau etholedig), yn 2008 / 2009.  

5 Monitro canlyniadau:

5.1  Mae prosiectau a gyllidir gan GDL yn cael eu monitro yn unol ag amodau cyfreithiol. Mae’r amodau yma’n ymwneud yn bennaf â set diffiniedig o bwrpasau a gymeradwywyd ar gyfer y prosiectau a gyllidwyd gan GDL, gan gynnwys gofyniad am gynnal a chadw priodol (lle bo’n gymwys). Yn ystod gweithredu’r prosiect, mae cydymffurfio â’r amodau yma’n cael eu gwirio drwy adroddiadau cyson i swyddogion grantiau ac, mewn rhai achosion, defnyddio arolygwyr prosiect allanol.

5.2  Mae gan GDL fframwaith i werthuso effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y prosiectau a gyllidir ganddi.  Mae’n casglu data ar allbwn prosiectau megis gweithgareddau, gwirfoddolwyr, hyfforddedigion a niferoedd ymwelwyr. Prif ffynhonnell y data mesurol hwn yw arolwg a anfonir at bob prosiect, blwyddyn ar ôl cwblhau. Ar gyfer prif brosiectau ail adroddir yr arolwg ar ôl pum a deng mlynedd. Mae CDL hefyd yn ymgymryd ag ymchwil mwy trylwyr i ganlyniadau sampl o brosiectau a gyllidir, gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau mesurol ac ansoddol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys arolygon ymwelwyr a thrigolion lleol, ymchwil effaith gymdeithasol ac achosion enghreifftiol ar effaith economaidd. Cyhoeddir adroddiadau gwerthuso ar holl raglenni CDL ar ei gwefan.

5.3  Yn ei thrydydd Cynllun Strategol (CS3) mae CDL yn annog mwy o grantîon i werthuso eu prosiectau eu hunain ac i rannu'r hyn y maent wedi dysgu, drwy ddarparu offer, cyfarwyddyd, a chyllid pellach fel cyfran o’r grant a ddyfernir.

6.   Ein Treftadaeth, Ein Dyfodol:  Trydydd Cynllun Strategol CDL 2008-2013

6.1 Yn ei chyhoeddiad diweddar, 'Ein Treftadaeth, Ein Dyfodol' mae CDL yn cyflwyno elfennau allweddol ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol ac yn amlinellu ei fframwaith strategol o Ebrill 2008 i 2013.

Wrth ddatblygu ei chyfeiriad yn y dyfodol ymgynghorodd CDL yn helaeth ar anghenion treftadaeth y DU, adolygu perfformiad ei rhaglenni cyllid presennol a dechrau gwerthuso cyflawniadau ei hail Gynllun Strategol 2002-2007, Ehangu Gorwelion Treftadaeth.Ystyriodd y Gronfa hefyd sut i ddelio â’r lleihad ym maint y cyllid y bydd yn gallu dosbarthu bob blwyddyn o 2008 ymlaen (gweler rhan 7 isod) a chymryd cyfrif o’r adborth manwl a dderbyniwyd o’i ymgynghoriad â’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill yn 2005-2006.

Pwyntiau allweddol:

  • Bydd gan GDL gyllideb dyfarniadau o £180 miliwn y flwyddyn ar gyfer y DU gyfan o 2009-2013 (£220 miliwn yn 2008-2009).
  • Bydd yn parhau i gynnig cyllid i brosiectau treftadaeth o bob maint, gan gynnwys rhai dyfarniadau mawr o dros £5 miliwn y flwyddyn.
  • Bydd yn cadw'r hyn y mae pobl yn rhoi gwerth arno wrth wraidd ein penderfyniadau cyllido ac yn cadw ein hamcanion presennol sef cadwraeth treftadaeth, helpu mwy o bobl, ac ystod fwy eang o bobl, i ymgyfranogi mewn treftadaeth, a helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain ac eraill.
  • Bydd yn cynnal ei hymdriniaeth nodedig o ychwanegu gwerth i’r broses o ddosbarthu cyllid - drwy gefnogaeth datblygiad, cyngor cyn gwneud cais, cyllid ar gyfer prosiectau gweithgaredd hyd at bum mlynedd, grantiau datblygu, cyfarwyddyd cyhoeddedig a chyngor arbenigol ar brosiectau.
  • Bydd yn parhau â’i hymrwymiad i weithio tuag at gyflawni lledaeniad mwy teg o gyllid. Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwaith ymestyn allan i ieuenctid a grwpiau sydd wedi elwa llai o gyllid CDL yn y gorffennol, ac ar ardaloedd daearyddol sydd wedi derbyn y lleiaf o gyllid oddi wrth GDL ac sy’n ddifreintiedig.
  • Bydd yn cyflwyno prosesau ymgeisio symlach, o ganlyniad i adborth cwsmeriaid.  Bydd ei holl brif raglenni’n parhau â gwelliannau i wneud y broses ymgeisio yn fwy cyflym a llai drud.
  • Bydd yn darparu mwy o gefnogaeth i ymgeiswyr a grantîon. Bydd ei hymdriniaeth newydd o Grantiau Treftadaeth (grantiau dros £50,000) yn cynnwys proses ymgeisio rownd-gyntaf symlach a byrrach a chefnogaeth arolygwyr i’r ymgeiswyr llwyddiannus hynny sydd angen help yn ystod y broses datblygu prosiect i weithio tuag at eu cyflwyniad ail-rownd. Bydd yn parhau i gynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer cynllunio prosiect a datblygu prosiect.
  • Bydd ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Eich Treftadaeth (grantiau £3,000 i £50,000) (68% ohonynt o’r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru) hefyd yn gallu ymgeisio ar gyfer cefnogaeth arolygwyr ar gyfer darpariaeth prosiect os bydd angen rhagor o help arnynt.
  • Bydd yn cynhyrchu ystod eang o gyfarwyddyd newydd, gan gynnwys nodiadau byr 'Camau cyntaf mewn …’ ar ystod eang o bynciau wedi’u cynllunio i gynorthwyo ymgeiswyr am y tro cyntaf i’n rhaglen Eich Treftadaeth, yn arbennig ymgeiswyr y sector gwirfoddol a chymunedol sydd heb fod yn gysylltiedig â phrosiect treftadaeth o’r blaen.  
  • Bydd CDL yn buddsoddi mewn treftadaeth yn y tymor hir - yn gofyn i ymgeiswyr 'wyrddu’ eu prosiectau, gan leihau effeithiau amgylcheddol ac yn annog meddwl arloesol ac yn datblygu arfer da ar ddefnyddio adnoddau yn gynaliadwy.  Bydd yn canolbwyntio mwy ar bwysigrwydd cynnal a chadw tymor hir, gyda mwy o hyfforddiant, cefnogaeth a chyfarwyddyd i grantîon, a mwy o fonitro ar ymarfer cynnal a chadw ar ôl i brosiectau orffen.
  • Bydd yn gwella cynaladwyedd y sector treftadaeth wrth ehangu nifer hyrwyddwyr treftadaeth y dyfodol - gan barhau â’r rhaglen bwrpasol ar gyfer ieuenctid sef Gwreiddiau Ifanc (grantiau £3,000 i £25,000), gan roi cymorth penodol a chyfarwyddyd canolbwyntiedig i grwpiau’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, ac yn rhoi offer i grantîon er mwyn gallu gwerthuso eu prosiectau a rhannu'r hyn yr ydynt wedi dysgu.
  • Bydd yn parhau i rannu treftadaeth, gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys grantîon, i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o fudd cyllid y Loteri, i gydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr, drwy gynllun dyfarniadau DU gyfan, ac i gynnwys pobl ifanc ymhellach mewn treftadaeth a gwaith CDL wrth ddatblygu strategaeth ymgyfranogiad ieuenctid.  Bydd CDL yn annog ei gweithwyr i wirfoddoli ar brosiectau treftadaeth ac i gefnogi'r sector gwirfoddol drwy raglen gweithwyr gwirfoddol.  
  • Bydd CDL yn cyflwyno cefnogaeth ar gyfer adennill costau llawn  - gyda chyfarwyddyd ar sut i gyfrif y costau yma - i gynorthwyo cynaladwyedd y sector gwirfoddol a chymunedol. Bydd hyn hefyd yn helpu ymgeiswyr gyflawni sicrwydd cost mwy yn eu cynigion prosiect.

7.   Heriau’r Dyfodol

7.1 Bydd tri ffactor yn effeithio ar gyllidebau grant CDL a fydd ar gael rhwng 2008-2013:

  • Ei hymdriniaeth o or-draddodi cyllid o flaen llaw er mwyn sicrhau bod cyllid y Loteri’n cael ei ddosbarthu a’i wario cyn gynted â phosibl.  Mae Ymddiriedolwyr wedi penderfynu bod y Gronfa wedi cyrraedd pwynt lle na all barhau i gynyddu ei hor-draddodi blynyddol.
  • Y cyfraniad a gytunwyd eisoes o’r Loteri Achosion Da i Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 a’r cyfraniad ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Mawrth 2007 - cyfanswm sy’n golygu dargyfeiriad o £161.2 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
  • Newidiadau yn y ffordd y dosberthir incwm llog ar fantolen y Loteri.  

7.2  I sythu’r brigau a chafnau posibl mewn cyllido y mae’r cyfanswm colled o incwm yn awgrymu, bydd CDL yn rheoli lleihad y dyfarniadau dros fywyd CDL tan 2019, er mwyn cynnal cyllideb dyfarniadau o £180 miliwn y flwyddyn o 2009.

7.3  Mae cyllideb dyfarniadau blynyddol o £180 miliwn y DU gyfan o 2009 yn cymharu â chyllideb o £330 miliwn a ddosbarthwyd yn 2005-2006. Bydd y gystadleuaeth ar gyfer grantiau yn sicr yn fwy caled.  Ond bydd CDL yn parhau i fod yn brif ariannwr treftadaeth y DU. Mae’n disgwyl dosbarthu  £1.9 biliwn rhwng nawr a 2019, ar gyfer prosiectau mawr, eiconaidd a grantiau cymunedol bychan, ill dau.

7.4  Yn y cyfamser, bydd y Gemau Olympaidd yn darparu cyfle anferth i dreftadaeth gael ei gwehyddu i raglen Ddiwylliannol ar y cyd, ac mae CDL yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda sefydliadau diwylliannol eraill sy’n cyfrannu at y dimensiwn pwysig hwn o Lundain yn 2012.

Atodiad 1

Cyfarwyddyd Polisi Cymru - Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cyfarwyddyd A Roddwyd I Ymddiriedolwyr Gronfa Coffa'r Dreftadaeth Genedlaethol Dan Adran 26(1) A (2) Y Ddeddf Loteri Genedlaethol Ayyb 1993

Mae Gweinidogion Cymru, yn ymarfer eu pwerau a gyflwynwyd gan adran 26(2) Deddf y Loteri Genedlaethol ayyb 1993 fel y trosglwyddwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaeth) 1999 ac wedi ymgynghori ag Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol ("y Gronfa”) yn unol ag adran 26(5), drwy hyn yn rhoi’r cyfarwyddyd canlynol i’r Gronfa:

1. Yn y Cyfarwyddyd hwn y mae unrhyw gyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran Deddf y Loteri Genedlaethol ayyb 1993, fel y diwygiwyd.

Cyfarwyddyd ynghylch Cymru

2. Wrth ymarfer unrhyw un o’i swyddogaethau, bydd y Gronfa’n ystyried y materion canlynol er mwyn penderfynu'r personau i bwy, y pwrpasau ar gyfer a’r telerau ac amodau yn ddarostyngedig i bwy y maent yn gwneud grantiau neu fenthyciadau, a’r broses a ddefnyddir i benderfynu pa daliadau i’w gwneud wrth ddosbarthu unrhyw arian dan adran 25(1):

. Yr angen i gael ystyriaeth yn niddordebau Cymru gyfan a diddordebau gwahanol rannau o Gymru, i ystyried demograffig amrywiol a phatrymau amddifadedd yng ngwahanol rannau o Gymru, a dymunoldeb annog cyrff gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd, ble bynnag y bydd, o ganlyniad, yn golygu canlyniadau gwell, ar gyfer pobl a threftadaeth.  

B. Yr angen i hyrwyddo a chefnogi'r iaith Gymraeg ac adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru, gan gynnwys rhoi effaith i’r egwyddor o gydraddoldeb rhwng yr ieithoedd Saesneg a’r Gymraeg, yn unol â’r ddarpariaeth a osodir yng nghyfarwyddyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a’i fonitro yn unol â gweithdrefnau safonol.

C. Yr angen i sicrhau ymdriniaeth wedi’i chanolbwyntio ar ganlyniadau, gan weithio’n agos gyda phartneriaid addas er lles cymunedau a threftadaeth ledled Cymru, lle y mae hyn yn fodd effeithiol o gyflawni strategaeth y Gronfa.    

D. Yr angen i annog cadwraeth, cynhaliaeth, cyflwyniad, hyrwyddiad a dehongliad pob agwedd treftadaeth yng Nghymru;

E. Yr angen i annog cynaladwyedd ariannol asedau treftadaeth Cymru;

F. Yr angen i ddarparu cyfleoedd i bobl, yn enwedig pobl ifanc a’r rhannau difreintiedig o’r gymdeithas, i ennill y sgiliau sydd eu hangen i gynnal a chadw treftadaeth Cymru;

G. Yr angen i annog defnyddio safonau proffesiynol addas ym mhob prosiect;

H.  Yr angen i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oedran a phob cefndir, yn enwedig plant, pobl ifanc a’r rhannau difreintiedig o’n cymdeithas, cael mynediad i, dysgu am, mwynhau a thrwy hynny hyrwyddo treftadaethau amrywiol Cymru, lle bo’n briodol.