CC(3) VS7
CC(3) 05-07 (p1): 7 Tachwedd 2007
'Chwaraeon a Hamdden’ yw’r sector mwyaf ym mas data CGGC o Sefydliadau Gwirfoddol yng Nghymru, yn cyfrif am 24% o’r holl sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru (CGGC, 2007). Dilynir hyn gan 'Gymuned’, sy’n cyfrif am 17% o’r sefydliadau gwirfoddol. Mae mwyafrif y 6,275 o sefydliadau sy’n ymwneud â chwaraeon a hamdden yn sefydliadau 'lleol’ (93%); mae’r 7% arall yn cael eu diffinio fel rhai’n gweithredu ar lefel Genedlaethol, Rhanbarthol neu Gangen. O edrych ar y data trefniannol lleol fesul ardal, yn Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Phowys mae’r nifer mwyaf o sefydliadau chwaraeon a hamdden, o gymharu â’r Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru; ac ar Ynys Môn ac yn Nhorfaen a Sir Fynwy mae’r nifer lleiaf (CGGC, 2007).
Yn ogystal â bod yn ganolbwynt ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae clybiau chwaraeon yn adnodd cymdeithasol gwerthfawr: yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyfalaf cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer dinasyddiaeth egnïol a rhyngweithio cymdeithasol, ar gyfer gwirfoddolwyr a chyfranogwyr (CCPR, 2003).
Wrth adrodd yn ôl am y data yn eu harolwg bob dwy flynedd diwethaf ar gyfranogiad Oedolion mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n datgan bod 12% o oedolion Cymru’n perthyn i glwb neu sefydliad chwaraeon (CChC, 2008a). Mae mwyafrif helaeth yr oedolion sydd yn perthyn i glwb yn perthyn i un clwb yn unig (11%), gyda’r gweddill (1%) yn aelodau o ddau neu fwy o glybiau. Mae’r aelodaeth o glybiau’n amrywio’n sylweddol yn y gwahanol awdurdoddau lleol: o 16% yng Nghaerdydd i ddim ond 7% ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Ceir gwahaniaeth hefyd o ran rhyw: mae 15% o ddynion Cymru’n perthyn i glwb, o gymharu â dim ond 9% o’r merched. Fodd bynnag, mae’r bwlch hwn rhwng y rhywiau’n amrywio’n helaeth yn y gwahanol awdurdodau lleol. Yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ceir bwlch o ddim ond 2 bwynt canran rhwng y rhywiau ac yma mae’r gyfradd uchaf o aelodaeth o glybiau ymhlith y merched yng Nghymru (14%). Yn Nhorfaen, ble ceir lefel uwch na’r cyfartaledd o aelodaeth gyffredinol hefyd, mae’r blwch rhwng y rhywiau’n llawer mwy: mae 20% o’r dynion yn aelodau o glwb chwaraeon o gymharu ag 8% o’r merched.
Mae’r aelodaeth o glybiau’n uwch ymhlith gweithwyr proffesiynol a rheoli (mae 20% o oedolion yng ngrwpiau cymdeithasol economaidd A a B yn aelodau o glybiau) ac ar ei isaf ymhlith y rhai yng ngrwpiau cymdeithasol economaidd D ac E (3.8%).
Mae’r Cyngor Chwaraeon hefyd yn nodi bod aelodaeth o glwb yn gostwng yn gyffredinol wrth i bobl fynd yn hŷn.
O blith yr oedolion 65+ oed sy’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd (ac eithrio biliards, snwcer a cherdded), mae ychydig dan eu hanner yn perthyn i glwb neu sefydliad chwaraeon; mae’r canran cyfatebol ar gyfer oedolion dan 65 oed oddeutu traean ac yn eithaf cyson ymhlith y grwpiau oedran iau. Mae hyn yn awgrymu bod amgylchedd y clwb yn parhau’n ganolbwynt ar gyfer cyfranogiad ymhlith oedolion egnïol.
Hefyd, mae’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) yn darparu i Gyngor Chwaraeon Cymru ddata clwb a data am aelodaeth o CRhC. Ar gyfer tymor 2005-06, roedd 4,120 o glybiau chwaraeon CRhC yng Nghymru; roedd y mwyafrif o’r rhain wedi’u dosbarthu fel 'Clybiau Hŷn’ (79%), 9% yn 'Glybiau Anabledd’, 8% yn 'Glybiau Iau’ a 4% yn 'Glybiau Hŷn gydag Adrannau Iau’.
O gymharu â data arolwg y Cyngor Chwaraeon Cymru, mae’r aelodaeth o glybiau CRhC yn dangos gwahaniaeth o ran y rhywiau. Wrth wahanu’r cyfanswm o aelodaeth o glybiau CRhC, gwelir bod mwyafrif yr aelodau clwb yn ddynion hŷn (51%), ac yna 30% o’r aelodau’n fechgyn iau. Dim ond 19% o ferched a genethod sy’n aelodau o glwb chwaraeon CRhC (11% yn ferched hŷn ac 8% yn enethod iau). Mae proffil rhyw clybiau chwaraeon y CRhC yn wrywaidd yn bennaf.
Mae gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o ddarparu chwaraeon mewn cymunedau ledled Cymru. Yn 2001, roedd 48% o oedolion Cymru’n ymwneud â gwirfoddoli; roedd 6% yn ymwneud â chwaraeon (LlCC, 2001). Mae 51,840 o wirfoddolwyr yn ymwneud yn rheolaidd â chwaraeon. Yn ôl LlCC (2001), treulir cyfartaledd o ddwy awr yr wythnos ar wirfoddoli mewn chwaraeon, gan arwain at 1,244,160 o oriau gwirfoddol y flwyddyn. Er mwyn rhoi gwerth economaidd i hyn, a’i seilio ar y cyflog cyfartalog cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 2001, gellir dweud bod yr oriau gwirfoddol hyn yn cyfateb i £12.9m. Mae’r data’n chwe mlwydd oed, felly, gellir cymryd yn ganiataol bod y ffigyrau hyn braidd yn isel erbyn hyn.
Mae gwaith ymchwil gan Gyngor Chwaraeon Cymru’n dangos mai’r rôl fwyaf poblogaidd ar gyfer gwirfoddolwyr yw hyyfforddi - boed mewn clwb chwaraeon mewn ysgol neu yn y gymuned. Gweinyddu yw’r prif weithgaredd arall ar gyfer gwirfoddolwyr, yn arbennig mewn clybiau chwaraeon cymunedol (CChC, 2008a).
Mae dynion ychydig yn fwy tebygol o wirfoddoli na merched. Hefyd, mae’r gwirfoddolwyr yn tueddu i ddod o’r grwpiau cymdeithasol economaidd uwch a chyda chyraeddiadau addysgol uwch. Mae hyn yn cyd-fynd â’r patrwm ar gyfer cyfranogiad mewn chwaraeon (gweler y Cyngor Chwaraeon, 1996; CChC, 2008a).
Yn 2004, roedd incwm y sector chwaraeon gwirfoddol yn dod i £112m (ac eithrio derbynebau bar) a’i gyfrifon gwariant cysylltiedig yn £98.2m (ac eithrio pryniadau bar) (CChC, 2008b). Yn ei hadroddiad i CChC, mae Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon hefyd yn datgan bod y gwerth a ychwanegwyd i’r economi gan weithgarwch economaidd cysylltiedig â chwaraeon yn y sector gwirfoddol yng Nghymru yn cyfrif am £77m yn 2004. O ystyried bod y data hwn yn berthnasol i 2004, mae’n debygol nad yw’r ffigyrau hyn yn creu darlun cywir o’r sefyllfa fel ag y mae erbyn hyn a bod cynnydd wedi’i wneud.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n buddsoddi yn y sector chwaraeon gwirfoddol mewn nifer o ffyrdd:
Mae’r Gist Gymunedol yn gynllun grant a gyllidir gan y loteri sy’n cefnogi datblygiad chwaraeon yn lleol drwy ddosbarthu grantiau bychain drwy gyfrwng 22 o banelau yn yr awdurdodau lleol. Mae pob panel yn cynnwys 12 aelod o’r gymuned leol; mae hyn yn cynnwys lleiafswm o 3 chynrychiolydd yr awdurdod lleol a’r gweddill o’r gymuned yn ehangach, gyda’r mwyafrif yn cynrychioli’r sector gwirfoddol. Mae’r panelau wedi cael eu canmol gan Swyddfa Archwilio Cymru a DCMS am hwyluso’r gwaith o ddatganoli penderfyniadau.
Mae Mân-Grantiau’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd, ychwanegol neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol.
Defnyddir y cynllun Cyfalaf a gyllidir gan y Loteri i gynnig cefnogaeth strategol i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn bennaf yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, drwy gyllido prosiectau cyfalaf. Yr egwyddorion sylfaenol sydd wedi bod yn sail i ddosbarthu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf ar lefel leol yw sicrhau: y budd gorau posibl, a budd parhaus, i chwaraeon a datblygiad cymunedol; gwerth am arian; a manteision ar gyfer yr ardaloedd a’r prosiectau gyda’r angen mwyaf o ran hamdden, chwaraeon ac arian.
Mae cynllun Sportsmatch Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu cyswllt hanfodol rhwng y sector masnachol a datblygu chwaraeon ar lefel gyffredin. Mae’r cynllun yn annog nawdd gan gwmnïau preifat drwy gyfateb eu buddsoddiad '£ am £’ wrth iddynt gefnogi prosiectau sy’n sicrhau twf y cyfranogiad ar lefel gyffredin.
Buddsoddwyd rhyw 89% o’r dyfarniadau a wnaed gan y Cyngor Chwaraeon drwy gyfrwng cynllun grant Y Gist Gymunedol ers 99/00 mewn clybiau a chymdeithasau chwaraeon gwirfoddol (mae hyn yn cyfateb i £5.8m). Buddsoddwyd £0.7m pellach mewn agweddau eraill ar y sector gwirfoddol. Felly, mae cyfanswm y buddsoddiad yn y sector gwirfoddol, drwy gyfrwng y Gist Gymunedol, yn £6.5m. Mae’r dosbarthiad yn gymharol gyfartal ledled pob ardal yng Nghymru.
Ers 2005, mae £28m wedi cael ei fuddsoddi drwy gyfrwng cynllun Cyfalaf y Cyngor Chwaraeon mewn cymdeithasau a chlybiau chwaraeon lleol. Yn ystod yr un cyfnod, buddsoddwyd £1m mewn cymdeithasau a chlybiau chwaraeon lleol drwy gyfrwng y Mân-Grantiau a buddsoddwyd £230k drwy gyfrwng cynllun Sportsmatch Cymru.
Hefyd mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n rhoi grantiau i CRhC er mwyn iddynt allu sicrhau sefydlogrwydd ariannol; cynnal a chynyddu aelodaeth; cefnogi addysg hyfforddwyr a gwella perfformiadau unigolion a thimau’n cynrychioli Cymru. Ers 2005, mae’r buddsoddiad ariannol wedi cyfateb i £32.3m.
Hefyd, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n parhau i ddatblygu ei gyswllt â’r sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon. Mae’r portreadau a ganlyn yn tynnu sylw at ddau brosiect peilot sy’n defnyddio sgiliau a rhwydweithiau’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol i gefnogi gwaith y Cyngor Chwaraeon.
Yn y gorffennol, mae rhaglen Y Gist Gymunedol ym Mlaenau Gwent wedi profi’n llwyddiant mawr wrth weithio gyda’r sefydliadau chwaraeon gwirfoddol a chymunedol traddodiadol; fodd bynnag, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi wynebu sawl her wrth ennyn ceisiadau, yn enwedig gan y sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon.
O gofio hyn, gofynnodd y Cyngor Chwaraeon i CGSG ei helpu i greu dull i oresgyn y broblem hon. Mae’r fenter a ffurfiwyd ar y cyd yn mynd i ddefnyddio rhwydweithiau cyswllt a staff CGSG er mwyn codi proffil y cynllun ymhlith y sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon ac i roi hwb i nifer y ceisiadau am gyllid.
Er mwyn hwyluso hyn, mae’r Cyngor Chwaraeon yn cyllido gweithiwr datblygu cymunedol ar gyfer CGSG, i weithio ddiwrnod yr wythnos yn cyflwyno’r fenter. Mae’r person hwn wedi treulio rhyw faint o amser eisoes yn gweithio gyda thîm datblygu chwaraeon yr awdurdod lleol a bydd yn ased wrth bontio’r bwlch rhwng y rhwydweithiau traddodiadol a’r rhai llai traddodiadol.
Cefnogir y fenter drwy gyfrwng y rhaglen Mân-Grantiau a bydd yn cael ei chynnal am gyfnod o ddeuddeg mis. Mae adran Ymchwil a Gwerthuso’r Cyngor Chwaraeon yn ymgymryd â gwerthusiad o’r model adfocatiaeth a datblygu hwn.
Mae pedwar cynllun peilot 'Her yr Adeiladau Cymunedol’ yn cael eu cyllido ar hyn o bryd gan y Cyngor Chwaraeon. Mae’r rhain yn cynnwys: Powys, Castell-nedd Port Talbot, Llanelli a Wrecsam. Y rhesymeg ar gyfer canolbwyntio ar Adeiladau Cymunedol (neuaddau pentref, sefydliadau glöwyr, clybiau cymdeithasol etc) er mwyn hybu gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion oedd bod y mannau hyn yn aml iawn yn ganolbwynt eisoes i ardaloedd, gyda llawer o grwpiau’n defnyddio’r cyfleusterau’n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Mae pob cynllun peilot wedi mabwysiadu dull gwahanol a dewiswyd amrywiaeth wrth weithredu er mwyn edrych ar a gwerthuso ffyrdd newydd o weithio.
Ym Mhowys, er enghraifft, mae’r Cyngor Chwaraeon wedi rhoi £30,000 o gyllid uniongyrchol i Uned Datblygu Chwaraeon y Cyngor Sir, sy’n gweithio mewn partneriaeth â CPSG (Cymdeithas Powys o Sefydliadau Gwirfoddol) a Fforwm y Neuaddau Pentref er mwyn targedu 30 o Adeiladau Cymunedol gwledig. Mae disgwyl i bob adeilad dderbyn grant o £1,000 i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol.
Mae fframwaith monitro a gwerthuso wedi cael ei weithredu yn cynnwys casglu data meintiol am gyfraddau cymryd rhan ac amrywiaeth y gweithgareddau a gynigir, a data ansoddol gan y cyfranogwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am redeg y prosiectau unigol.
Hyd yma, mae £27,000 wedi cael ei neilltuo ar gyfer 29 o brosiectau amrywiol, yn cynnwys: Tai Chi, Dawnsio Bol, Cerdded a chlybiau hamdden fel bowlio, badminton a phêl rwyd. Er ei bod yn rhy fuan i allu mesur llwyddiant y rhaglen hon, ceir tystiolaeth bod yr 'Her’ eisoes wedi sefydlu amrywiaeth eang o gyfleoedd lleol mewn ardaloedd gwledig. Gobeithir y bydd y model hwn yn drosglwyddadwy ar gyfer awdurdodau gwledig eraill yng Nghymru.
Mae CChC yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol yn genedlaethol ac yn lleol. Y sector gwirfoddol yw asgwrn cefn chwaraeon am ei fod yn darparu hyfforddiant, swyddogion dyfarnu a chystadlaethau. Ni allai chwaraeon oroesi fel ag y mae heb y sector hwn.
Er mai gwlad fechan yw Cymru, mae hefyd yn gymysgryw. Mae strwythur y sector gwirfoddol yn amrywio’n sylweddol ledled y wlad, nid yn unig o ran y ddarpariaeth o glybiau ond hefyd o ran pwysigrwydd cymharol y sector mewn gwahanol awdurdodau. Er enghraifft, yng Ngheredigion, mae nifer o’r pyllau nofio’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan ymddiriedolaethau gwirfoddol yn hytrach na’r awdurdod lleol.
Yr her fwyaf i CChC wrth ddarparu cefnogaeth ariannol i’r sector yw ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng atebolrwydd a chyn lleied ag y bo modd o fiwrocratiaeth. Cefnogir y sector oherwydd ei fod yn gallu cefnogi strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r ceisiadau am wybodaeth am gynnwys clybiau / grwpiau (rhyw, oedran, ethnigrwydd etc.) yn cael eu hystyried yn feichus gan wirfoddolwyr. Gall yr wybodaeth a gesglir fod yn anghyflawn ac yn annibynadwy weithiau, gan ei gwneud yn anodd i ddatblygu cyngor ynghylch polisi.
Nid oes llawer o amheuaeth chwaith bod y sector gwirfoddol wedi wynebu pwysau cynyddol dros y blynyddoedd: iechyd a diogelwch; amddiffyn plant; atebolrwydd y cyhoedd; bygythiad ymgyfreithiad sydd wedi cael effaith sylweddol ar wirfoddoli ac felly ar allu’r sector i gyflwyno.
Cyfeiriadau:
CCPR (2003) Citizenship in Action: Voluntary Sector - Sport and Recreation, CCPR: Llundain
Y Cyngor Chwaraeon (1996) Valuing Volunteers in UK Sport: a Sports Council survey into the voluntary sector in UK sport, Y Cyngor Chwaraeon: Llundain
CChC (2008a) Cyfranogiad Oedolion mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghymru: 2004/05, CChC: Caerdydd (i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2008)
CChC (2008b) Pwysigrwydd Economaidd Chwaraeon yng Nghymru: adroddiad a baratowyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon, CChC: Caerdydd (i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2008)
LlCC (2001) Gwirfoddoli yng Nghymru yn 2001, LlCC: Caerdydd
CGGC (2007): www.wcva.org.uk - mynediad yn Hydref 2007
RGH
30 Hydref 2007