CC(3) VS9

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

CC(3) 05-07 (p3): 7 Tachwedd 2007

Ymholiad i ariannu sefydliadau sector gwirfoddol yng Nghymru - Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (NFWI)-Cymru

Diben

Mae’r papur hwn yn disgrifio profiadau Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (NFWI) Cymru wrth geisio cael arian sector gwirfoddol i gynorthwyo â’i waith.

Cefndir

FfCSyM yw’r sefydliad gwirfoddol dwyieithog mwyaf i fenywod yng Nghymru. Ein nod yw cynnig i fenywod y cyfle gorau i gael effaith ar eu cymunedau, i ddylanwadu ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang sy’n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol teuluoedd a chymunedau ac i ddysgu sgiliau newydd a thraddodiadol. Yng Nghymru mae 16,000 o aelodau o Sefydliad y Merched, mewn 500 o Sefydliadau mewn 13 o Ffederasiynau (siroedd).  

Mae FfCSyM-Cymru’n sefydliad amrywiol iawn ac adlewyrchir hyn yn ei waith ar ymgyrchoedd, prosiectau ac addysg. Ers ei ffurfio yn 1915, mae FfCSyM wedi ymgyrchu ar amrywiaeth fawr o faterion sy’n bwysig i fenywod a’u cymunedau gan gynnwys trais yn y cartref (1975), cyflog cyfartal (1942), Agenda 21 (1997), llygredd olew (1927), AIDS (1986), gwrthwynebu masnachu mewn pobl (2004) a brwydro yn erbyn diraddiad amgylcheddol (2005).  

Mae’r ymgyrchoedd presennol yn cynnwys:

Her Carbon - mae’r ymgyrch hon yn annog aelodau Sefydliad y Merched a’r cyhoedd i leihau eu gollyngiadau carbon 20%.  Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn mesur eu hôl troed carbon gan ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein ac yn cael awgrymiadau wedi’u teilwra i’w helpu i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Masnachu mewn Menywod - mae FfCSyM-Cymru wedi lansio ymgyrch cardiau post gydag Amnest Rhyngwladol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu’r rheiny sy’n dioddef oherwydd masnachu mewn pobl ar gyfer y fasnach ryw yng Nghymru. Mae FfCSyM-Cymru hefyd yn aelod o Weithgor Atal Trais yn erbyn Menywod.

Pris Llaeth Clwyd y Fferm - Mae aelodau Sefydliad y Merched yn pryderu’n fawr am y pris a delir i ffermwyr llaeth Prydain am eu llaeth. Cynhaliwyd y Trafodaethau Mawr dros Laeth ym mis Ebrill 2007 ac mae’r adroddiad a ddaeth yn eu sgil yn disgrifio’r problemau a’r atebion i sicrhau dyfodol mwy disglair i ddiwydiant llaeth Prydain.

Mae ymgyrchoedd eraill yn cynnwys Cau Ysgolion Bach Cefn Gwlad, Ysbytai Cymunedol a chnydau GM. Mae FfCSyM-Cymru hefyd yn rhan o’r Fforwm Bwyd Cynaliadwy.

Mae’r prosiectau presennol yn cynnwys:

Garddio gydag Ysgolion - Mae aelodau Sefydliad y Merched yn cynorthwyo mwy na 100 o ysgolion i ddatblygu gerddi bywyd gwyllt a gerddi llysiau. Mae’r prosiect yn cyflwyno plant i’r cysyniad o ble mae bwyd yn dod ac yn eu hannog i fwyta’n iach trwy dyfu eu llysiau a’u ffrwythau eu hunain. Mae hefyd yn eu hannog i fod yn fwy egnïol.

Ewch ati i goginio - y nod yw addysgu rhieni sut i goginio prydau bwyd cytbwys ac iach heb wario llawer.

Timau Eco - Yn ddiweddar mae FfCSyM-Cymru wedi hyfforddi 15 o arweinwyr Timau Eco sy’n recriwtio chwe aelod yr un i gymryd rhan mewn Tîm Eco. Bydd y Timau Eco’n cyfarfod unwaith y mis dros bedwar mis ac yn ymchwilio i siopa, bwyd, trafnidiaeth, gwastraff ac ynni yn y cartref ac yn cymryd camau ymarferol i leihau’r gwastraff a gynhyrchir a’r ynni a ddefnyddir.

Merched yn Gwneud Gwahaniaeth - y nod yw addysgu a grymuso menywod  i gymryd rhan fwy gweithredol mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru ac i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau.

Er bod FfCSyM-Cymru’n falch o’r amrywiaeth hon, mae’n achosi problemau i’r sefydliad wrth geisio cael arian craidd i’w waith, gan nad yw’n cyd-fynd yn daclus ag un isadran benodol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ond yn gweithio ar draws amrywiaeth o isadrannau a phortffolios.

Mae profiad FfCSyM-Cymru o gael arian i gynorthwyo â’r gwaith uchod yn amrywio. Bu’n weddol lwyddiannus wrth gael arian dros flynyddoedd lawer i gyflawni prosiectau sy’n rhoi budd nid yn unig i’w aelodau ond hefyd i’r gymuned ehangach. Gall y symiau a geir amrywio’n fawr. Mae rhai’n cynnwys arian craidd ac nid yw eraill ddim. Oni bai am gyfraniad gwirfoddol aelodau Sefydliad y Merched byddai’n amhosibl darparu rhai o’r canlyniadau a ddisgwylir. Mae aelodau Sefydliad y Merched yn rhoi llawer iawn o amser i’w cymunedau. Roedd un prosiect yn unig yn golygu 1,960 o oriau sy’n cyfateb i  56 o wythnosau o waith, ac ar hyn o bryd mae pedwar prosiect ar y gweill.

Ar hyn o bryd mae FfCSyM-Cymru’n derbyn arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef £7,500 gan Her Iechyd Cymru i gynorthwyo â’i brosiect Garddio gydag Ysgolion,  £6,846 gan Amgylchedd Cymru at y prosiect Timau Eco (y ddau hyn heb gynnwys costau craidd ar gyfer gorbenion y sefydliad) a £55,000 at y prosiect unigol Merched yn Gwneud Gwahaniaeth mewn partneriaeth ag Oxfam a Llais Merched, gan Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru a Chymunedau Gweithredol. Mae’r holl arian uchod yn dod i ben ym mis Mawrth 2008.  

Un pryder mawr sydd gan FfCSyM-Cymru ar hyn o bryd yw colli ei arian craidd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Am y tro cyntaf ers 1980, ni chafodd FfCSyM-Cymru unrhyw arian craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo â’i waith yng Nghymru am y flwyddyn ariannol 2007-2008. Tynnwyd arian craidd y sefydliad, sef £10,000 am y flwyddyn ariannol, yn ôl o’r Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol ym mis Medi 2007.  

Mae sicrhau arian craidd i gynorthwyo â gwaith FfCSyM-Cymru yn broblem ac mae’r canlynol yn grynodeb byr o’r profiadau a’r rhwystredigaethau y bu’n rhaid i FfCSyM-Cymru fynd drwyddynt er mwyn cael arian craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y pum mlynedd diwethaf.

Yn 1980 cafodd FfCSyM-Cymru arian craidd o un o’r cronfeydd gwledig i gynorthwyo â’i waith. Ar ryw adeg ar ôl hyn symudwyd y sefydliad i’r Is-adran Plant a Theuluoedd. Yn dilyn adolygiad o ariannu yn yr Is-adran hon, dywedwyd wrth FfCSyM-Cymru yn 2002 na fyddai’n gymwys mwyach i gael  arian o fis Mawrth 2003 ymlaen. Wedyn cynhaliwyd cyfarfod gydag Is-adran y Sector Gwirfoddol a Chynhwysiant i gynorthwyo FfCSyM-Cymru i ddatrys y broblem hon. O ganlyniad cytunwyd ar arian o gronfa Cymunedau Gweithredol fel taliad interim ar gyfer 2003-04 a chynghorwyd FfCSyM-Cymru ymhellach i wneud cais am grant Cymorth i Wasanaethau Cyfryngol Gwirfoddol (SVIS), ar gyfer 2004-05. Cyflwynwyd cais ond fe’i gwrthodwyd oherwydd 'er bod iddo deilyngdod, ni ddaeth yn ddigon uchel ar y rhestr’. Wrth herio’r penderfyniad hwn darganfu FfCSyM-Cymru y gwnaed 33 o geisiadau, ond dim ond saith sefydliad a gafodd arian, a dim ond un o’r rhain oedd yn gwneud cais am y tro cyntaf. O’r £906,000 oedd ar gael y flwyddyn honno, aeth £656,096 i CGGC, gyda’r chwe ymgeisydd arall yn cael grantiau oedd yn amrywio o £28,000 i £64,000.  Yn y diwedd cafwyd £10,000 ar gyfer 2004-05 yn dilyn lobïo Aelodau Cynulliad a Gweinidogion yn daer. Hefyd bryd hynny sicrhawyd FfCSyM-Cymru y byddai Is-adran y Sector Gwirfoddol a Chynhwysiant yn ceisio datrys problem ble i roi FfCSyM-Cymru cyn mis Ebrill 2005 a sicrhau cynllun ariannu tair blynedd i’r sefydliad, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hyn. Yna rhoddwyd FfCSyM-Cymru yn ôl yn Is-adran Cymunedau Gweithredol hyd nes 2005 a dywedwyd wrtho nad oedd yn perthyn yn y sector gwirfoddol ac y byddai’n fwy addas i’r Uned Polisi Cydraddoldeb neu Bobl Hŷn! Wedyn ariannwyd FfCSyM-Cymru o’r Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol ar gyfer 2006-07. Dywedwyd wrtho ym mis Mawrth 2007 bod y gronfa hon o dan adolygiad ar y pryd ac na ellid gwneud penderfyniad hyd nes ar ôl Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai. Fel y dywedwyd o’r blaen, cafwyd penderfyniad ym mis Medi ar ôl i gynnig arall gael ei gyflwyno, penderfyniad a ddaeth lawer yn rhy hwyr i FfCSyM-Cymru ac un sy’n groes i bob un o’r egwyddorion sydd gan Gynulliad Cymru wrth roi arian i’r sector gwirfoddol. Yma rwy’n cyfeirio at God Ymarfer Ariannu’r Sector Gwirfoddol. Bydd colli’r arian craidd yn cael effaith andwyol ar ein gallu i ddatblygu gwaith FfCSyM-Cymru o ran ymgyrchoedd, prosiectau ac addysgu menywod. Bydd colli’r grant craidd yn golygu colli aelod o’r staff, gan leihau gallu’r sefydliad i ymchwilio i gyfleoedd ariannu ac i baratoi ceisiadau am arian i ddatblygu ei waith yn y dyfodol. Caiff hyn effaith anferth ar gymunedau.

Yr eironi yw bod FfCSyM-Cymru wedi gweld cynnydd yn ei gysylltiad â Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n awyddus i ymgynghori â chorff â chynifer o aelodau. Mae gan FfCSyM-Cymru y gallu i ymestyn allan i fenywod ledled Cymru. Fodd bynnag, mae i hyn oblygiad o ran adnoddau i’r sefydliad. Teimlwn nad yw ond yn deg i FfCSyM-Cymru gael cymorth priodol i wneud y gwaith hwn ac i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni rhai o’i pholisïau a’i chynorthwyo wrth wireddu rhai o’r camau gweithredu yn y gwahanol ddogfennau sydd â’r nod o gynnwys y gymdeithas sifil a gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Hefyd mae pryderon eraill yn cynnwys arian i sefydliadau menywod, cyfathrebu effeithiol a chydymffurfio â chyfyngiadau neu amodau a osodir ar arian. Yn 2004, y tro diwethaf y collodd FfCSyM-Cymru ei grant craidd, cododd y sefydliad ei bryderon am arian i sefydliadau menywod yn gyffredinol. Dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ar y pryd bod FfCSyM-Cymru yn iawn i godi’r mater a chytunodd fod menywod yn gwneud yn wael o ran arian. Dywedodd y byddai’n mynd i’r afael â’r mater hwn yn dilyn adolygiad o’r modd yr ariennir y sector gwirfoddol. Yn y cyfarfod llawn ar 19 Mai 2004, wrth ateb cwestiwn gan Helen Mary Jones AC oedd yn ceisio sicrwydd y caiff holl ffrydiau ariannu’r Cynulliad i’r sector gwirfoddol eu monitro am eu heffaith ar fater rhyw a materion eraill yn ymwneud â chydraddoldeb, atebodd y Gweinidog "Yr wyf yn falch o roi’r sicrwydd hwnnw ichi ac yr wyf yn ddiolchgar iawn ichi am godi’r materion hyn. Cyfyd materion ynglŷn â sefydliadau y mae angen inni edrych arnynt a byddaf yn eu hystyried pan ddrafftiaf ganllawiau newydd ar ddosbarthu grantiau”. Hefyd cytunodd CGGC i godi mater rhyw yn ystod yr adolygiad ar ôl cyfaddef hefyd bod arian i sefydliadau menywod yn anodd. Fodd bynnag, cafodd mater rhyw ei esgeuluso eto a thair blynedd yn ddiweddarach mae FfCSyM-Cymru wedi colli ei holl arian craidd ac ymddengys fod y sefyllfa’n gwaethygu i sefydliadau menywod yn gyffredinol. Fodd bynnag, er bod FfCSyM-Cymru yn falch o nodi y bydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn 'archwilio materion 'cyllidebu ar sail rhyw’ o ran y fath gyllido’ fel rhan o’r adolygiad hwn, mae pryderon o hyd nad yw arian i sefydliadau menywod yn hygyrch nac ar gael yn hawdd.

Mae FfCSyM-Cymru hefyd wedi cael problemau wrth geisio sicrhau cyfathrebu ystyrlon gyda’r Is-adrannau yn y Cynulliad. Fel y dywedwyd o’r blaen, fel sefydliad sy’n ymdrin ag amrywiaeth fawr o faterion nid yw FfCSyM-Cymru’n cyd-fynd yn daclus ag unrhyw un Is-adran ac o ganlyniad mae’r sefydliad o hyd yn cael ei esgeuluso a’i drosglwyddo o’r naill i’r llall. Os ydym yn sefydlu perthynas gydag Is-adran, mae profiad yn ein dysgu mai perthynas fyrhoedlog fydd hi gan fod personél yn cael eu symud o gwmpas yn ddirybudd i’r sefydliadau y buont yn delio â hwy ac o ganlyniad mae’r cyfathrebu’n methu ac mae’r ffeiliau a’r gwaith papur yn mynd ar goll, gan arwain at golli gwybodaeth, cydberthynas ac yn y diwedd arian. Mae yna eithriadau; bu’r berthynas gyda’r tîm sy’n delio â Chynllun Grant Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru yn rhagorol. Sefydlwyd llinellau cyfathrebu da o’r dechrau cyntaf, sydd wedi arwain at well ddealltwriaeth o’r hyn y mae angen ei gyflawni gyda’r arian a roddir.  

Hefyd mae pa mor hawdd neu anodd yw cydymffurfio â’r cyfyngiadau a’r amodau a osodir ar yr arian a geir yn amrywio. Ymddengys nad oes system gyson ar gyfer adrodd ar ganlyniadau prosiect. Mae rhai yn haws na’i gilydd ac yn eironig, profiad FfCSyM-Cymru yw bod amodau adrodd y bobl sy’n rheoli cynlluniau grant ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac sy’n bodoli er mwyn cynorthwyo’r sector gwirfoddol yn llawer mwy biwrocrataidd. Mae’r fiwrocratiaeth ar gyfer y swm o arian a roddir yn amheus gan nad yw’r arian a roddir byth yn ddigon i gyflawni’r prosiect a thalu am yr adrodd biwrocrataidd sy’n cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech, weithiau ar draul gwaith datblygu cyffredinol y prosiect. Hefyd mae’r symiau y gofynnir amdanynt yn cael eu torri er mwyn sicrhau y gall mwy o sefydliadau gael cyfran o’r arian, ond yn aml disgwylir yr un canlyniad o gyllideb lai, ac yn aml nid oes dim hyblygrwydd yn y system i drafod. Mae FfCSyM-Cymru yn cydnabod bod yn rhaid cael system monitro a gwerthuso er mwyn sicrhau y caiff y gwaith ei gyflawni a’i gwblhau, ond hoffai weld ymagwedd fwy cyson at hyn ledled y sector, yn cael ei chyllido’n briodol gan y corff ariannu.

O ran amseru, nid yw FfCSyM-Cymru’n ddigon ffodus i fod â hyd ariannu cytunedig ac mae mynd o flwyddyn i flwyddyn wedi bod yn anfoddhaol. Mae’n arwain at ansicrwydd ymysg aelodau’r staff ac yn golygu bod llai o allu gan y sefydliad i gael arian o ffynonellau eraill i ddatblygu prosiectau ac ymgyrchoedd newydd gan fod llai o amser staff ar gael. Hefyd, mae’n annerbyniol rhoi gwybod i sefydliadau chwe mis i mewn i’r flwyddyn ariannol bod eu harian craidd wedi cael ei dynnu’n ôl. Dylai Is-adrannau ufuddhau i God Ymarfer Ariannu’r Sector Gwirfoddol. Mae FfCSyM-Cymru eisiau parhau i fod yn weithgar yng Nghymru a chyfrannu at ddatblygu Cymru well i bawb yn y dyfodol. Fodd bynnag, flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’n cael ei hun mewn sefyllfa amhosibl oherwydd bod arian hanfodol yn cael ei dynnu’n ôl, a hynny heb iddo allu cael cyfleoedd ariannu eraill na chyngor rhesymegol ar sut i oresgyn y broblem.

Materion i’w hystyried

  • Ystyried sut y dylid ariannu sefydliadau Cymru gyfan sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o faterion ac isadrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Cydnabod mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gyfathrebu i sefydliadau Cymru gyfan yw’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac nid trwy sefydliad trydydd parti. Nid yw FfCSyM-Cymru’n cael bod y system bresennol o godi materion trwy Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yn effeithiol.

  • Fel dywedwyd o’r blaen, mae FfCSyM-Cymru yn falch o nodi y bydd cyllidebu ar sail rhyw yn cael ei ystyried. Bydd mynd i’r afael â’r mater  hwn yn sicrhau y bydd yn haws i fenywod a dynion gael addysg a gofal plant yn gyfartal â’i gilydd ac y byddant yn cael eu cynrychioli’n fwy cyfartal ar gyrff llunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn golygu y cymerir camau pendant i fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol ac y bydd y penderfyniadau a wneir yn fwy cynrychioliadol.

  • Ariannu’n ddigonol costau craidd o fewn prosiectau a sicrhau bod yna adnoddau digonol ar gyfer yr elfen monitro a gwerthuso yn yr arian i’r prosiectau. Mae angen ymagwedd fwy cyson at fonitro a gwerthuso ac mae angen cael gwared â’r fiwrocratiaeth.

  • Cydnabod y goblygiadau i sefydliadau o ran adnoddau pan fyddant yn  ymgynghori â’u haelodau ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ariannu’r elfen hon o waith sefydliad yn ddigonol.

  • Sicrhau bod pob isadran yn gwybod am y Cod Ymarfer ar ariannu sefydliadau’r sector gwirfoddol, yn gyfarwydd ag ef ac yn ufuddhau iddo, gan fod tynnu arian yn ôl heb ddigon o rybudd yn achosi problemau enfawr i sefydliadau’r sector gwirfoddol ac yn creu ansicrwydd ymysg eu staff.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help