Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Galwad am Dystiolaeth

Ymchwiliad Pwyllgor i Gam-drin Domestig

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi dewis cynnal ymchwiliad i gam-drin domestig; ac mae’n galw ar y rheiny sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Amcangyfrifir y bydd trais domestig yn effeithio ar 1 o bob 4 merch ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu bywyd.  Mae tua 77% o ddioddefwyr trais yn y cartref yn fenywod. (Ffynhonnell: cyhoeddiad y Swyddfa Gartref Troseddau yng Nghymru a Lloegr 2006-07).  Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru strategaeth trais domestig yn 2005. Mae cam-drin domestig yn cynnwys nid yn unig trais corfforol ond mae hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cam-drin emosiynol ac arwahanrwydd oddi wrth ffrindiau, teulu neu ffynonellau cymorth eraill posibl.  Mae amrywiaeth o sefydliadau yn ariannu ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig; Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Swyddfa Gartref a’r sector gwirfoddol.

Cylch Gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn adolygu:

  • Y modd y caiff strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig ei chyflawni;
  • Y ddarpariaeth o gymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig, gan gynnwys y gefnogaeth a ddarperir i dystion yn y system cyfiawnder troseddol;
  • Yr adnoddau a ddyrennir gan gyrff perthnasol megis, Llywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Gartref, asiantaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i weithredu polisïau cam-drin domestig
  • Y ddarpariaeth o ymyriadau gorfodol a gwirfoddol sydd wedi eu hanelu at y sawl sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig; gan gynnwys darparu adnoddau angenrheidiol i gefnogi ymyriadau o’r fath;
  • Cynlluniau sydd wedi eu hanelu at atal cam-drin domestig; er enghraifft, rhaglenni ysgolion a chynlluniau codi ymwybyddiaeth.   

Bydd y Pwyllgor hefyd yn:  

  • Gwneud argymhellion o ran y camau y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem o gam-drin domestig yng Nghymru.

Rydym yn gofyn am eich barn ar unrhyw faterion sy’n berthnasol i’r testun hwn, gan gynnwys:

  • Argaeledd a hygyrchedd cymorth ar gyfer grwpiau gwahanol; gan gynnwys gwasanaethau cynghori ar gyfer  - dynion, merched, plant, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a phobl anabl;
  • Y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i oedolion a phlant sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol o fewn sefyllfa ddomestig;
  • Ymateb gwahanol sectorau i gam-drin domestig, gan gynnwys, asiantaethau cyfiawnder troseddol, iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Sut y caiff y strategaeth genedlaethol ei chyflawni ar lefel leol, y ffyrdd y mae cyrff ac asiantaethau gwahanol yn gweithio â’i gilydd er mwyn sicrhau’r ymateb gorau;
  • Dyraniad adnoddau i fynd i’r afael â cham-drin domestig ac unrhyw wrthdaro posibl rhwng nod ac amcanion  gwahanol ffynonellau arian;
  • Tystiolaeth ystadegol ar gyfradd a natur cam-drin domestig, yn cynnwys achosion o lofruddio, cyfraddau collfarnu, tueddiadau daearyddol;
  • Effaith arwahanrwydd sy’n cael ei ddwysau gan, er enghraifft,  ffactorau daearyddol, diwylliannol ac unigol; a
  • Prosesau ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau.

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd ddim hwyrach na dydd Gwener 9 Mai 2008.  Os yw’n bosibl, a fyddech cystal â darparu fersiwn electronig trwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol: Community.Culture.Comm@Cymru.gsi.gov.uk

Nodwch a fyddech â diddordeb mewn cyflwyno’ch barn i’r Pwyllgor yn bersonol.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol i adroddiad. Cewch eich enwi fel awdur y dystiolaeth, oni ofynnwch yn wahanol, er na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth arall a ystyrir yn ddata personol.

Dylech fod yn ymwybodol, fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu er na chafodd ei chyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych yn dymuno i’ch enw, fel awdur y dystiolaeth, gael ei ddatgelu; rhaid nodi hyn yn glir, ynghyd â’ch rhesymau dros atal y deunydd dan sylw.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.