Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Ymchwiliad pwyllgor i gam-drin domestig

Cylch gorchwyl

Bydd y pwyllgor yn adolygu:

  • Y modd y caiff strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig ei chyflawni
  • Y cymorth a ddarperir i ddioddefwyr cam-drin domestig, gan gynnwys y gefnogaeth a ddarperir i dystion yn y system cyfiawnder troseddol
  • Yr adnoddau a ddyrennir gan gyrff perthnasol megis, Llywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Gartref, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i weithredu polisïau cam-drin domestig
  • Yr ymyriadau gorfodol a gwirfoddol a ddarperir sydd wedi eu hanelu at y sawl sy’n cyflawni'r cam-drin domestig; gan gynnwys darparu adnoddau angenrheidiol i helpu gydag ymyriadau o’r fath
  • Cynlluniau sydd wedi'u hanelu at atal cam-drin domestig; er enghraifft, rhaglenni ysgolion a chynlluniau codi ymwybyddiaeth.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn:

  • Gwneud argymhellion o ran y camau y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem o gam-drin domestig yng Nghymru.

Galw am Dystiolaeth

Ymatebion i'r ymgynghoriad