Cynulliad Cenedlaethol Cymru

CC(3) DA 6

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwydiant i Gam-drin Domestig

Diolch yn fawr am eich llythyr yn esbonio fod y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi dewis cynnal yr ymchwiliad uchod.

Hoffwn i chi sicrhau fod y Pwyllgor yn ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg wrth gynnal yr ymchwiliad – a sicrhau prif ffrydio’r iaith o fewn y strategaeth trais domestig. Byddai gwneud hynny yn cydymffurfio â chynllun iaith Comisiwn y Cynulliad a chynllun iaith Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r maes yn un hynod sensitif, wrth gwrs, yn ymwneud â phobl sydd wedi dioddef sefyllfaoedd erchyll. Mae’n holl bwysig, felly, i ni sicrhau eu bod yn gallu teimlo’n gyfforddus ac yn saff wrth chwilio am gymorth. I’r rhan fwyf o siaradwyr Cymraeg, byddai’r gallu i drafod eu problemau yn eu hiaith cyntaf yn eu helpu i deimlo’n saff ac adeiladu perthynas dda efo’r rheini sy’n cynnig cymorth iddynt.

Fe ddylai prif ffrydio’r Gymraeg gynnwys ystyried y ddarpariaeth o gymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig, a’r gefnogaeth a ddarperir i dystion yn y system cyfiawnder troseddol.

Fe ddylid, yn ogystal, sicrhau fod y canlynol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:

  • cynlluniau sydd wedi eu hanelu at atal cam-drin domestig, gan gynnwys rhaglenni ysgolion a chynlluniau codi ymwybyddiaeth.
  • y cymorth sydd ar gael ar gyfer grwpiau gwahanol, gan gynnwys gwasanaethau cynghori ar gyfer dynion, merched a plant
  • y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i oedolion a phlant sydd wedi dioddef camdriniaeth rhywiol.

Dylid sicrhau, yn ogystal, fod amodau iaith priodol ynghlwm ag unrhyw arian a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Swyddfa Gartref.

Heblaw am yr uchod, os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth gan y Bwrdd, mae croesi i chi gysylltu â mi.

Huw Onllwyn Jones
Pennaeth Uned Llywodraeth Ganolog