Communities and Culture Committee

Ymchwiliad y pwyllgor i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd.

Cylch gorchwyl

Bydd y pwyllgor yn adolygu:

  • Polisi cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei strategaeth/strategaethau a’i chynlluniau gweithredu cysylltiedig i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru dramor; sut y mae Gweinidogion ac adrannau Cymru’n cydweithio a chydgysylltu ar y pwnc; a sut y caiff llwyddiant ei fesur

  • Sut mae’r strategaethau gwahanol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, gan gynnwys Strategaeth Celfyddydau’r Cyngor Prydeinig a strategaethau eraill drwy’r DU sy’n berthnasol i Gymru, yn cael eu cydlynu a’u hariannu

  • Y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gyfrannu at gelfyddydau Cymru a’u defnyddio ar lwyfan y byd

Bydd y pwyllgor yn cynnig argymhellion fel y bo’n briodol.

Rydym am glywed eich barn am unrhyw faterion sy’n berthnasol i’r pwnc hwn, yn cynnwys:

  • Sut y darperir strategaethau cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran hyrwyddo celfyddydau a diwylliant ar lwyfan y byd a sut y’u cydgysylltir?

  • Beth yw prif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor Prydeinig o ran hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru’n rhyngwladol hy lle y mae ymdrechion ac arian yn cael eu targedu er mwyn creu’r effaith fwyaf?

  • A oes digon o waith ymchwil wedi’i wneud i feysydd unigryw a’r meysydd twf yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru? Sut y caiff y rhain eu cefnogi? A yw’r cydbwysedd presennol yn gywir?

  • Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n sicrhau bod ymdrechion i hyrwyddo’r celfyddydau a diwylliant yn rhyngwladol yn cael eu cydgysylltu rhwng portffolio’r Gweinidog a phortffolio’r Adran (ee ym meysydd addysg a sgiliau, datblygu economaidd, twristiaeth, treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant, cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol, materion Ewropeaidd ac allanol)?

  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datblygu dyletswydd ddiwylliannol statudol o ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Sut y gall hyn gydweddu â’r gwaith o hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru’n rhyngwladol?

  • A yw canlyniadau neilltuo arian a gwaith hyrwyddo yn cael eu mesur a’u gwerthuso er mwyn sicrhau gwerth am arian i bwrs y wlad?

  • Pa mor effeithiol yw trefniadau partneriaeth rhwng cyrff celfyddydol a chyrff diwylliannol, y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cefnogi strategaeth gyffredinol?

  • Pa mor llwyddiannus yw cyrff celfyddydol a chyrff diwylliannol o ran hyrwyddo’u gwaith ar lwyfan y byd a sut y maent yn cael eu cefnogi i wneud hyn?

  • Sut y mae polisïau a strategaethau Llywodraeth y Cynulliad yn cydweddu â pholisïau a strategaethau Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, ee yn yr ymdrechion i sicrhau bod y DU yn ‘ganolbwynt creadigol y byd’, yn enwedig yng nghyd-destun yr Olympiad Diwylliannol 2012?

  • Pa ystyriaeth a roddir i gyfle cyfartal wrth hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd?

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad a nodir isod, i gyrraedd erbyn dydd Llun 12 Ionawr 2009 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: Community.Culture.Comm@Wales.gsi.gov.uk  

Gofynnir i chi nodi a oes diddordeb gennych mewn dod i gyfarfod pwyllgor i gyflwyno’ch sylwadau.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Cewch eich enwi fel awdur y dystiolaeth oni fyddwch yn nodi fel arall. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Sut bynnag, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych er na chafodd ei chyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help