Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Gofal Cartref
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 5 Rhagfyr 2007 i ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 4) 2008, mewn perthynas â chodi tâl am ofal cymdeithiasol dibreswyl, ac i gyflwyno adroddiad arno.
Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.