Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Dysgu

Yn ôl Rheol Sefydlog 12, prif swyddogaeth y pwyllgorau craffu yw craffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau'r llywodraeth a chryff cyhoeddus o fewn eu cylchoedd gwaith.

Mae cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Dysgu'n cwmpasu: Datblygu economaidd ac adfywio; Menter gymdeithasol; Trafnidiaeth ac Dysgu gydol oes

Newyddion Diweddaraf

Gwaith y Pwyllgor yn nhymor yr gwanwyn:

  • Creu swyddi yn yr economi werdd
  • Darpariaeth arbenigol i bobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach
  • Cronfeydd Strwythurol: gweithredu rhaglenni 2007-2013

Bwletin olaf y Pwyllgor i’w weld yma.

Y Cynulliad yn torri tir newydd deirgwaith wrth i Weinidog gefnogi cynigion a allai sicrhau rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio diogel ledled Cymru

Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i fynd ymlaen â'i Orchymyn Arfaethedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 a'i Femorandwm Esboniadol. Mae'r Gorchymyn arfaethedig i'w weld yma.

Y Strategaeth Gweithgynhyrchu – adroddiad wedi ei gyhoeddi – 5 Chwefror 2010

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Y Strategaeth Gweithgynhyrchu. Dod o hyd i gopi o’r adroddiad dudalen adroddiadau’r Pwyllgor ar y We.   Darganiad i’r wasg.

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r

Cronfeydd Stwythurol: gweithredu rhaglenni 2007 - 2013

Cliciwch yma i weld y cylch gorchwyl.

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r Ddarpariaeth arbenigol i bobl ifanc sydd ag awtistiaeth mewn addysg bellach

Cliciwch yma i weld y cylch gorchwyl.

Dysgu Cymraeg – Beth yw’ch barn chi?

Etholodd y Pwyllgor grwp rapporteur i ymchwilio i agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd y grwp yn canolbwyntio ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith; hyfforddiant a sgiliau ddwyieithog yn y gweithle; ryngwyneb busnesau â’r cyhoedd. yr Aeloldau fydd: Gareth Jones AC; Jeff Cuthbert AC; David Melding AC; Jenny Randerson AC. Byddant yn cyfarfod yn anffurfiol ac yn ymgymryd â chyfres o ymweliadau ac ymgyngoriadau ledled Cymru.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am addysgu neu ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Cliciwch yma...

Gwyliwch fideo i weld barn ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd am wersi Cymraeg yn ein hysgolion uwchradd. Cliciwch yma...

Aelodaeth

Pwy yw pwy ar y Pwyllgor. Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor yma

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yn yr adran hon

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor am 09:30 ddydd Iau 11 Chwefror 2010.

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Menter a Dysgu ar i fore Iau. Ar ôl y Pasg, caiff y cyfarfodydd eu symud i brynhawn Iau

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol (gallent newid).

Adroddiadau ac Ymchwiliadau'r Pwyllgor

Ymchwiliadau cyfredol:    Mwy>>

Gellir gweld manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yma

Gellir gweld manylion yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma