Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Galw Am Dystiolaeth

Gweithredu Argymhellion Ar Ariannu Ysgolion – Adroddiad Dilynol

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cytuno i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion blaenorol, Adroddiad ar Ariannu Ysgolion yng Nghymru a gyhoeddwyd ym Mehefin 2006. Mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Gofynion y Pwyllgor

Ymchwiliad i ariannu ysgolion – adroddiad dilynol - Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

Cefndir

Ymchwiliodd y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion i’r trefniadau ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru a bwriad y 27 o argymhellion a wnaeth y Pwyllgor ym Mehefin 2006 oedd egluro’r pwnc i rieini, llywodraethwyr ac ymarferwyr. Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru 23 o’r 27 o argymhellion.

Bu i’r Pwyllgor Menter a Dysgu newydd, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys dysgu gydol oes, graffu ar y Gweindiog Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’i swyddogion ar 21 Tachwedd 2007 i fonitro’r cynnydd a wnaed gan y Llywodraeth wrth weithredu’r argymhellion a dderbyniodd. O ganlyniad i’r sesiwn honno, mae’r Pwyllgor yn awyddus i dderbyn eich barn ar y materion allweddol a godwyd wrth gymryd tystiolaeth. Yr ydym yn awyddus i wybod yn benodol a gafodd argymhellion y Pwyllgor blaenorol effaith ar y ffordd yr ariennir ysgolion.

brig

Gofynion y Pwyllgor

Hoffai’r Pwyllgor dderbyn eich barn ar y materion canlynol yn benodol:

1.  Tryloywder y broses ariannu

2.  Mynediad at wyboaeth gan gynnwys y wybodaeth sydd ar y we

3. Arian ychwanegol

4. Buddsoddi mewn adeiladu ysgolion

5. Fforymau cyllideb ysgolion

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor i’r cyfeiriad isod, i gyrraedd ddydd Gwener 1 Chwefror 2008 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Text, naill ai drwy e-bost at kathryn.jenkins2@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad wedi hynny.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

3 Rhagfyr 2007

brig

Aelodau'r Pwyllgor: Gareth Jones AC (Cadeirydd), Alun Cairns AC, Jeff Cuthbert AC, Christine Chapman AC, Huw Lewis AC, David Melding AC, Sandy Mewies AC, Janet Ryder AC a Kirsty Williams AC.

Ymchwiliad i ariannu ysgolion – adroddiad dilynol

Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

1. Y broses ariannu – a ydych yn deall prosesau ariannu ysgolion?

a. Pa wybodaeth fyddai’n ddefnyddiol i chi ddeall y broses – a pham?

b. Os oes gennych farn ar y fframwaith deddfwriaethol sy’n llywio ariannu ysgolion yng Nghymru, a wnewch chi ei chynnwys yn eich ymateb.

2. Mynediad i wybodaeth gan gynnwys y wybodaeth a geir ar y We – a oes gennych fynediad parod i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen ar sut y mae eich ysgol chi ac ysgolion eraill yn cael eu hariannu?

a. Pa wybodaeth yr hoffech ei chael – ar ba ffurf – a pham?

b. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu adran ar ariannu ysgolion ar ei safle We, gan gnnwys cyfeiriad e-bost penodol ar gyfer ymholiadau, er mwyn darparu gwybodaeth addas ar ariannu ysgolion

i. Pa wybodaeth yr hoffech ei darllen ar y We?

ii. Sut yr hoffech dderbyn gwybodaeth gyfredol am ariannu ysgolion?

3. Arian Ychwanegol – lle darperir arian ychwanegol, efallai drwy grant gan Lywodraeth y Cynulliad er enghraifft arian ar gyfer y fenter brecwast am ddim neu arian RHAGORI/RAISE, a ydych yn derbyn gwybodaeth addas yn brydlon?

a. Sut y gellir gwella’r llif wybodaeth?

4. Buddsoddi mewn adeiladau ysgolion – a gredwch fod y wybodaeth sydd ar gael yn lleol ar fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion yn lleol yn eglur?

a. Sut y gellir gwella gwybodaeth ar ffynhonnell a maint yr arian ar  gyfer rhaglenni cyfalaf (adeiladau yn benodol)?

5. Fforymau cyllido ysgolion – a dybiwch fod y rhain yn gweithredu’n effeithiol?

a. Pa ganlyniadau yr hoffech i ddod o adolygiad Llywdoraeth Cynulliad Cymru ar fforymau cyllido ysgolion?

brig

Canllawiau ar fformadu dogfennau

Dylid dilyn y canllawiau a ganlyn ar fformadu dogfennau a gyflwynir yn electronig.

Dylech

  • Ddefnyddio cyn lleied o acronymau a byrfoddau ag sy'n bosibl.  Os byddwch yn eu defnyddio, sicrhewch eu bod wedi eu hysgrifennu'n llawn y tro cyntaf y maent yn ymddangos mewn dogfen
  • Cyflwyno un ddogfen Word ar ei phen ei hun, a dylid cynnwys pob tabl, taenlen ac atodiad yn y papur hwnnw
  • Cyflwyno papurau'n ddwyieithog
  • Alinio'r testun i ochr chwith y dudalen
  • Defnyddio ffont Arial, maint 12
  • Defnyddio tablau yn hytrach na thabiau i osod testun mewn colofnau
  • Cadw rhifau paragraff yn syml a'u rhoi i mewn â llaw
  • Sicrhau nad yw rhifo awtomatig yn dod yn hunanweithredol
  • Defnyddio cyn lleied o brint trwm ac italig ag sy'n bosibl
  • Defnyddio papur A4

Ni ddylech

  • Ddefnyddio testun wedi'i unioni
  • Defnyddio'r fysell tab
  • Defnyddio penynnau a throedynnau
  • Defnyddio rhifo awtomatig
  • Nodi rhif y dudalen
  • Defnyddio newidiadau wedi'u tracio
  • Cynnwys troednodiadau, marciau adolygu na sylwadau
  • Anfon atodiadau ar wahân
  • Cyflwyno dogfennau A3

brig