Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Y Grwp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd
Mae pedwar o Aelodau’r Cynulliad sydd ar y Pwyllgor Menter a Dysgu wedi bod yn edrych ar addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion uwchradd, a hynny fel rhan o ymchwiliad ehangach i ddwyieithrwydd. Hyd yma, maent wedi cynnal cyfarfodydd anffurfiol gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg; wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Treorci i siarad gydag athrawon, disgyblion, rhieni ac aelodau o’r gymuned leol; ac wedi cyfarfod â swyddogion ESIS (y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion) yn Nhrefforest i drafod gwaith yr Athrawon Bro (sy’n cynorthwyo athrawon i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd).
Fideo
Beth yw'r peth gorau am eich gwersi Cymraeg?
Beth fyddai'n gwella eich gwersi Cymraeg, yn eich barn chi?
