Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Atodiad Addysg - Western Mail – Barn Arbenigwr

Gareth Jones AC

Mae craffu effeithiol yn ganolog i ddemocratiaeth. Mae’r broses ddatganoli sy’n prysur aeddfedu a’r gweddnewidiad a fu yn y modd y caiff Cymru ei llywodraethu dros y blynyddoedd diweddar yn dystiolaeth o lwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth ymateb i’r her ddemocratig gyffrous o gynnal ymchwiliadau beirniadol i weithgareddau’r Llywodraeth a’i dwyn i gyfrif am ei gweithgareddau ar ran pobl Cymru.

O ganlyniad i’r cyfansoddiad newydd a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r pwerau deddfwriaethol a’r gweithdrefnau cyllid ehangach o fewn y Ddeddf honno, mae gan Aelodau’r Cynulliad fwy o gyfleoedd i graffu. Mae’r rhain yn ein galluogi i sicrhau bod polisïau yn gadarn ac yn cynnig gwerth am arian, ac i fonitro perfformiad y Llywodraeth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae strwythur newydd Pwyllgorau’r Cynulliad yn ganolog i’w ymrwymiad i sicrhau craffu effeithiol. Er enghraifft, mae Pwyllgorau Pwnc y Cynulliad cyntaf a’r ail, a oedd yn cysgodi portffolios gweinidogol, wedi cael eu disodli gan bedwar Pwyllgor craffu trawsbynciol. Mae’r rhain yn debyg iawn i Bwyllgorau Dethol San Steffan. O dan Reolau Sefydlog y Cynulliad, mae ganddynt y pwer i archwilio gwariant, gweinyddiad a pholisïau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus cysylltiedig. Rwy’n cadeirio’r Pwyllgor Menter a Dysgu, sy’n cwmpasu datblygu economaidd ac adfywio, menter gymdeithasol, trafnidiaeth a dysgu gydol oes.

Yn unol â’r model a gyflwynwyd yn adolygiad dylanwadol Syr Jeremy Beecham o ddarpariaeth gwasanaethau lleol, mae dinasyddion Cymru yn ganolog i waith craffu trawsbynciol ac amhleidiol y Pwyllgor. Rydym yn fwy rhagweithiol a dyfeisgar yn ein trafodaethau â’r gymdeithas sifil a’n gobaith yw y bydd y gymdeithas sifil yn ymateb yn yr un modd. Rydym am glywed gan unigolion a mudiadau a all gyfleu llais a phrofiad y bobl. Mae’r aelodau hefyd yn canolbwyntio mwy ar gynhyrchu a chyflawni, ac mae’r ffaith bod y Pwyllgor wedi cynhyrchu pedwar adroddiad yn ystod ei chwe mis cyntaf yn profi hyn.

Mae’r Pwyllgor yn cynnal dau ymchwiliad ar hyn o bryd. Mae’r cyntaf yn tystio i ymrwymiad yr Aelodau i barhau i fonitro’r broses o weithredu argymhellion a dderbyniwyd eisoes gan y Llywodraeth ac yn galw ar Weinidogion i egluro penderfyniadau a llunio adroddiadau fel y bo angen. O ran maes hanfodol ariannu ysgolion, sy’n cynnwys materion megis lleoedd mewn ysgolion a buddsoddi mewn adeiladau, craffodd y Pwyllgor ar 21 Tachwedd 2007 ar waith y Gweinidog dros Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o ran y cynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion y Pwyllgor blaenorol ar Ariannu Ysgolion, sef yr Adroddiad ar Drefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru. Ond roedd y Pwyllgor am gael barn rhanddeiliaid allweddol ar lawr gwlad hefyd, felly cyhoeddodd ymgynghoriad ysgrifenedig, a ddaeth i ben ar 1 Chwefror. Mae’r ymatebion wedi cael eu dadansoddi ac adroddiad wedi cael ei ddrafftio. Mae’r Pwyllgor wedi galw’r Gweinidog i ymddangos eto ar 12 Mawrth pan gaiff Aelodau’r Pwyllgor gyfle i’w herio ar ei thystiolaeth, fel cyfaill beirniadol, cyn cytuno ar argymhellion terfynol. Y gobaith yw y bydd y rhain yn gweddnewid y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ariannu ysgolion ledled Cymru.

Ar adeg o gyfle a her anhygoel i’r sector addysg uwch, a phan mae angen i sefydliadau ymgysylltu â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i chwilio am atebion Cymreig i broblemau Cymreig y Gymru ôl-ddatganoledig, mae’r Pwyllgor hefyd yn cynnal ymchwiliad craffu trawsbynciol mawr i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru.

Dyma rai o’r manteision a amlygwyd gan yr ymchwiliad hyd yma: natur y berthynas strategol rhwng sefydliadau addysg uwch (SAU) a busnesau; y defnydd o ysgogiadau ariannol i annog SAU i ymgysylltu â busnesau; heriau trosglwyddo gwybodaeth yn y SAU llai; cyfraniad addysg uwch i adfywio cymunedau a ffyniant economaidd; heriau’r agenda sgiliau fel y nodwyd yn adolygiadau Webb a Leitch a’r angen i wella sgiliau’r gweithlu presennol; cymorth busnes i raddedigion; a natur cynrychiolaeth a dylanwad busnes yn y sector addysg uwch.

Rydym eisoes wedi craffu ar dystiolaeth nifer o sefydliadau addysg uwch ac arweinwyr busnes. Bwriadwn alw am dystiolaeth gan y cynghorau sgiliau sector, busnesau bach a chanolig a busnesau byd-eang, ynghyd ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac eraill. Byddwn hefyd yn cwrdd mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn mesur dyheadau cymunedau a dysgu am eu hanghenion cymdeithasol-economaidd a gwaith ymchwil yn yr ardaloedd hynny.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu, rwy’n ymwybodol iawn bod gennyf rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddatblygu craffu effeithiol yn y Cynulliad a’i roi ar waith. Yn y Pwyllgor, fy nod yw arwain proses graffu sy’n agored, yn deg, yn adeiladol, yn gynhwysol, yn gadarnhaol, ac sy’n hybu gwelliant. Bydd yr Aelodau’n ceisio sicrhau bod argymhellion y Pwyllgor yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a bod y Llywodraeth yn defnyddio’i hadnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ymgymryd â’i swyddogaethau ar ran pobl Cymru.