Ymchwiliad i faterion sy'n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Craffu ar Lywodraeth y Cynulliad a’r gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi gweithwyr mudol a’u teuluoedd, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol sydd â chyfran uchel o bobl fudol yn rhan o’u poblogaeth; a
Gwneud argymhellion ar y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau cyfle cyfartal i weithwyr mudol, eu teuluoedd a’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
I wneud hynny, bydd y Pwyllgor yn :
Edrych ar brofiadau gweithwyr mudol a’u teuluoedd yng Nghymru gan edrych yn benodol ar: amodau byw a gweithio; mynediad at wasanaethau cyhoeddus; rhwydweithio cymdeithasol
Adnabod effaith mudo economaidd ar rai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ac ar gymunedau lleol
Ymchwilio i effaith y fframwaith rheoli presennol sy’n llywodraethu amodau byw a gweithio gweithwyr mudol yng Nghymru.
Tynnu sylw at enghreifftiau o arferion da gyda golwg ar gysylltiadau gyda chymunedau; polisïau cyflogaeth a darparu gwasanaethau.