Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Ymchwiliad y Pwyllgor i'r gwasanaethau addasu a chynnal a chadw cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru
Cylch Gorchwyl
Ymchwilio i effeithiolrwydd trefniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi pobl hŷn yng ngoleuni ymchwiliad blaenorol y cyn Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i dai ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2004 ac adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o addasiadau yn 2005. Yn cynnwys:
- I ba raddau y maent ar gael ac effeithiolrwydd gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi ac addasiadau ar gyfer pobl hŷn trwy Gymru a rhwng daliadaethau tai.
- Amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a gosod yr addasiadau.
- Cynnal a chadw gosodiadau a chyfarpar.
- Effeithiolrwydd teclynnau rheoli perfformiad a ddefnyddir i asesu perfformiad asiantaethau i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi.
- Dyraniad adnoddau i wasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi gan Lywodraeth y Cynulliad a’r asiantaethau sydd wedi cael y gwaith o’u darparu.
- Effeithiolrwydd a chyfleustra i bobl hŷn y broses o gael addasiadau a gwasanaethau cynnal a chadw a thrwsio.
- I ba raddau maent ar gael a pha mor hygyrch i bobl hŷn yw gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau cynnal a chadw’u cartrefi, a gwasanaethau trwsio ac addasiadau.
Derbyn tystiolaeth ar beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio, ac ar beth sydd angen ei wneud i alluogi i ddarpariaeth cynnal a chadw a gwasanaethau addasiadau i’w cartrefi fod ar gael ar gyfer pobl hŷn.
Adroddiad y Pwyllgor : Yn Dal i Aros: Gwasanaethau Addasu a Chynnal a Chadw Cartrefi i Bobl Hyn yng Nghymru
Ymateby Gweinidog
Galw am dystiolaeth
Trawsgrifiadau a phapurau cyfarfoydd
Ymatebion i'r galw am dystiolaeth
Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol