Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Ymchwiliad y Pwyllgor i'r gwahaniaethu yn erbyn pobl hyn ym myd cyflogaeth

Cylch Gorchwyl

Cytunodd y Pwyllgor ar 24 Mawrth 2009, i gynnal ymchwiliad craffu byr â’i ffocws ar wahaniaethu yn erbyn pobl hyn mewn cysylltiad â’r byd cyflogaeth.

Bydd y Pwyllgor yn:

  • adnabod rhai meysydd penodol mewn perthynas â gwahaniaethu yn erbyn pobl hyn ym myd cyflogaeth; a
  • craffu ar bob un o Weinidogion Cymru sydd â phwerau a chyfrifoldebau sy’n effeithio ar bobl hyn, ac ar ganlyniadau’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym myd cyflogaeth ers iddi gyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn 2003, yn enwedig mewn perthynas â’r prif feysydd a nodir gan y Pwyllgor.

Dynodir y prif feysydd pryder drwy:

  • Adolygiad o lenyddiaeth ymchwil a datblygu polisi cyfredol yn y maes hwn
  • Grwp cyfeirio bychan, anffurfiol, dros dro o randdeiliaid allweddol.
  • Mae’n bosibl y defnyddir dulliau eraill o nodi materion allweddol pan fo’n briodol, er enghraifft, penodi arbenigwr i gynghori’r Pwyllgor

Argymhelliad

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer yr ymchwiliad a’r rhestr o randdeiliaid a fydd yn rhan o’r grwp cyfeirio dros dro (Atodiad A).

Atodiad A

Grwp Cyfeirio Dros Dro i Randdeiliaid  

TUC Cymru
Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
Prime Cymru
Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru

Ymatebion i'r galw am dystiolaeth

Trawsgrifiadau a phapurau cyfarfodydd