Galw am Dystiolaeth
YMCHWILIAD PWYLLGOR: BANC BUDDSODDI EWROP
Mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i rôl Banc Buddsoddi Ewrop, gyda’r bwriad o gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ariannu prosiectau yng Nghymru; ac y mae’n galw ar y rheiny sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i roi tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Banc benthyg hir dymor yr Undeb Ewropeaidd yw Banc Buddsoddi Ewrop. Yr Aelod-Wladwriaethau yw Cyfranddalwyr y banc; a Gweinidogion Cyllid y gwladwriaethau hynny yw aelodau Bwrdd y Llywodraethwyr. Mae gan y Banc werth €250 biliwn o gyfalaf tanysgrifiedig ac mae’n sefydliad nad yw’n gwneud elw. Gwaith y Banc yw cyfrannu at integreiddio datblygiad cytbwys a chydlyniad economaidd a chymdeithasol Aelod-Wladwriaethau’r UE.
Mae’r Banc yn codi arian sylweddol ar y marchnadoedd cyfalaf. Mae’n benthyca’r arian hwn ar delerau ffafriol i brosiectau sy’n hybu amcanion polisi’r UE; megis - cydlyniant, cydgyfeirio , busnesau bach a chanolig, prosiectau amgylcheddol, gweithredu’r fenter “Innovation 2010 Initiative”, Rhwydweithiau Traws-Ewropeaidd, hyrwyddo ffynonellau ynni sy’n gynaliadwy, yn gystadleuol ac yn ddiogel, a chymorth i iechyd ac addysg.
Cylch Gorchwyl
Bydd y Pwyllgor yn:
- Ystyried y cyfleoedd a gynigir gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar gyfer ariannu prosiectau seilwaith yng Nghymru;
- Archwilio patrymau o brosiectau y tu allan i’r Deyrnas Unedig; a
- Gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn hwyluso buddsoddi gan Fanc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru.
Gofynnir am dystiolaeth er mwyn ceisio’ch sylwadau ar y materion canlynol:
- Pa fath o gyfleoedd a chymorth buddsoddi y mae Banc Buddsoddi Ewrop yn eu cynnig (y Banc) ar gyfer prosiectau yng Nghymru?
- Beth yw manteision ac anfanteision cydweithio â Banc Buddsoddi Ewrop?
- I ba raddau y mae sefydliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru’n manteisio ar gyllid gan y Banc?
- I ba raddau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydweithio â’r Banc er mwyn archwilio cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru?
- Sut y caiff y cyfleoedd hyn eu hyrwyddo a’u hwyluso yng Nghymru?
- Pa wersi y gallwn eu dysgu gan ranbarthau eraill y DU ac Ewrop?
- Mae croeso i chi wneud unrhyw sylwadau eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.
Gofynnir i’r rheiny sydd â diddordeb gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd ddim hwyrach na dydd Llun 31 Rhagfyr 2007. Os yw’n bosibl, gofynnir i chi ddarparu fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu Rich Text Format, naill ai drwy e-bost at Europe.comm@Cymru.gsi.gov.uk neu ar ddisg.
Gofynnir i chi hefyd nodi a fyddech â diddordeb cyflwyno’ch sylwadau gerbron y Pwyllgor.
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, heblaw data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.