Darpara’r ddogfen hon fwy o fanylion am offeryn ariannol JEREMIE a JESSICA fel yr addawodd y Prif Weinidog yn ei adroddiad i’r pwyllgor fis diwethaf. Gwahoddir trafodaeth am y potensial o ddefnyddio offer ariannol JEREMIE a JESSICA yng nghyd-destun rhaglenni newydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Darpara’r ddogfen hon amlinelliad o gyfleuster newydd o dan reolau Cronfeydd Strwythurol 2007-2013, sydd yn hwyluso’r defnydd o offerynnau peiriannu ariannol Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd (ERDF). JEREMIE a JESSICA yw’r cynlluniau sy’n berthnasol i Gymru, ac mae’r ddogfen hon yn amlygu'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth asesu hyfywdra eu defnydd. Gofynnir i aelodau gofio bod y gwaith yn parhau ynglyn â’r pynciau hyn.
Mae JEREMIE a JESSICA yn offer peiriannu cyllidebol, a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn Rheolau Cronfeydd Strwythurol 2007-2013. Mae’r comisiwn yn rhagweld y bydd defnydd o’r offer yma yn gallu creu unioniad agosach rhwng Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (yn anad dim Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ERDF) ag adnoddau Banc Buddsoddi Ewrop yn ogystal ag adnoddau mewnol, er mwyn gwneud y gorau o’u heffeithiau. Gosododd Rhaglenni Gweithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ymroddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r rhaglenni Cydgyfeirio, a rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth i ymchwilio budd yr offerynnau hyn i Gymru.
Saif JEREMIE ar gyfer Joint European Resources for Micro to Medium Enterprises (Cyd adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig).
Dyluniwyd JEREMIE i gynorthwyo rhanbarthau i fynd i’r afael â’r bwlch cyllido a brofwyd gan BBaChau (SMEs) wrth sicrhau cyllid yn y farchnad. Mae model JEREMIE yn cynnwys cronfa ddal, lle y gall adnoddau Banc Buddsoddi Ewrop, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), preifat a chyhoeddus gael eu rhoddi i ddarparu BBaChau gyda dewis o gynnyrch ariannol drwy gyfryngwyr ariannol apwyntiedig. Mae’r gymysgfa o gynnyrch a maint y gronfa yn dibynnu ar dystiolaeth o fethiant y farchnad. Fel yn achos offer cyfalaf mentro adeg rownd flaenorol Cronfeydd Strwythurol, bydd y gronfa yn ‘cylchdroi’ i ddarparu cymynrodd cyllido ar gyfer BBaChau.
Comisiynodd Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio y DU, ar ran holl awdurdodau rheoli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) y DU, astudiaeth rhychwantu gan y Gronfa Fuddsoddi Ewropeaidd i sefydlu maint y bwlch mewn gwahanol rannu o’r DU. Defnyddia’r adroddiad wybodaeth o ffynonellau gwybodaeth genedlaethol a chanlyniadau astudiaethau diweddar, gan gynnwys astudiaethau arbennig ar Lefel Cymru. O ganlyniad i’r dadansoddiad bwlch ar fynediad BBaCH i gyllido cyflenwad a galw yng Nghymru, mae’r Gronfa Fuddsoddi Ewropeaidd (EIF) wedi dod i’r casgliad bod yna fwlch cyllido o £155 miliwn yng Nghymru, y mae modd mynd i’r afael ag o drwy fenter JEREMIE. Y lleiafswm cyllid sydd ei angen i greu cronfa ddal JEREMIE hyfyw yw oddeutu £65 miliwn (€100 miliwn). Mae’r dewis o offerynnau peiriannu cyllidol yn cynnwys benthyciadau, ecwiti, cyd-fuddsoddi a chyfleusterau trosglwyddo technoleg. Mae cymysgedd portffolio o’r fath wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â sbectrwm cyflawn o fethiant y farchnad yng Nghymru. Dylai hefyd sicrhau'r màs critigol a chynnig digon o amrywiaeth i’r gronfa fod yn hunan gynaliadwy yn y tymor hir.
Rheolir y gronfa ddal drwy Cyllid Cymru, is-gwmni Llywodraeth y Cynulliad, sydd â hanes profedig o fuddsoddi mewn cronfeydd masnachol cyhoeddus/preifat yn llwyddiannus. Mae Cyllid Cymru yn trafod gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ac yn datblygu cynllun busnes ar hyn o bryd. Mae’r cynllun hwn yn symud ymlaen ar y sail y bydd oddeutu hanner y cyllid yn cael ei roi i’r gronfa drwy Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB) (fel benthyciad masnachol i Cyllid Cymru) gyda’r hanner sy’n weddill yn dod o ffynhonnell Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a ffynonellau cyhoeddus eraill.
Tasg WEFO, fel yr Awdurdod Rheoli i raglenni’r Gronfa Strwythurol yng Nghymru, fyddai penderfynu elfennau penodol unrhyw Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a ddarperir ar gyfer cronfa JEREMIE yng Nghymru. Mae’r ystyriaethau perthnasol yn cynnwys: ymgyrraedd at ddibenion dichonadwy’r rhaglenni (Cydgyfeirio a/neu Cystadleuaeth) a thargedau; maint y methiant ymddangosiadol ar y farchnad; y cydbwysedd i’w daro rhwng benthyg/ecwiti wedi ei seilio ar offerynnau o’u gwrthgyferbynnu â grantiau fel modd cefnogi datblygiad y sylfaen BBaCh (SME) yng Nghymru; a’r costau cyfle, gan ystyried y gofynion posibl eraill ar y cronfeydd.
Mae JEREMIE yn ymddangos fel ffordd effeithiol o gyfuno Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) â chyfalaf benthyg a ffynonellau eraill o arian. Bydd sefydlu cronfa’n gynnar ym mywyd y Rhaglenni yn golygu fod cronfeydd ar gael i’w defnyddio o’r cychwyn fel y gellid gwneud unrhyw drosglwyddiad Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) mewn un gyfran neu drwy nifer o daliadau fesul camau, felly darperir y cyfle mwyaf posibl ar gyfer ail-fuddsoddi fel y bydd benthyciadau’n aeddfedu a daliadau ecwiti a gwerthu buddsoddiadau’n cynhyrchu llog.
Mae’r swyddogion yn Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill yn gweld peth mantais o fynd ar ôl JEREMIE ond nid ydynt eto mewn sefyllfa i benderfynu p’run ai i ymroi i’r cyfrwng ai peidio. I Gymru, o ystyried y gwerth arwyddocaol i’r Cronfeydd Strwythurol sydd at ein galw (yn arbennig yng Ngorllewin Cymru ac yn y Cymoedd) a’r ffaith fod gennym yn Cyllid Cymru gyfrwng parod i ddal y gronfa a’n bod mewn lle llawer gwell i gymryd mantais gynnar o’r cyfrwng hwn. Mae trefniadau yn eu lle’n barod i gael gwasanaethau rheoli cronfa’n broffesiynol o’r farchnad agored.
Cafodd adroddiad Cronfa Fuddsoddi Ewrop (EIF) ei ystyried gan swyddogion yn yr Adran yr Economi a Thrafnidiaeth sy’n gyfrifol am reoli’r sector gyhoeddus o ran cefnogaeth a chyllido ac oddi fewn i’w portffolio mae Cyllid Cymru’n perthyn. Ystyrir yn gyson ag amcanion polisi lletach o symud tuag at fuddsoddiad yn hytrach na threfn wedi’i sefydlu ar grant. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig sylfaen dda i ddatblygu cynnig dros i JEREMIE i weithio yng Nghymru ac0 mae’r swyddogion yn yr Adran yr Economi a Thrafnidiaeth wedi comisiynu Cyllid Cymru i baratoi cais swyddogol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i WEFO. Fodd bynnag, mae angen ystyried maint, lledaeniad daearyddol, gwneuthuriad a chydbwysedd yr ymyriadau mewn mwy o fanylder. Rhagwelir y daw ariannu cyfatebol yn y ffurf o fenthyciad gan Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB).
Ystyr JESSICA yw ‘Joint European Support for Sustainable Investment in City Areas’. (Cyd adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig)
Mae JESSICA wedi’i seilio ar y model o gronfa datblygu trefol, esiamplau sy’n bodoli ledled y DU. Mecanwaith yw i hyrwyddo buddsoddiadau cynaliadwy a thwf mewn ardaloedd trefol. Mae’n sefydlu cronfa buddsoddi datblygiad sy’n gwneud buddsoddiadau ad-daladwy mewn portffolio o brosiectau adfywio fyddai’n cyflenwi adfywion holistig mewn maes gofodol. Mae Rheoliadau Cronfa Strwythurol yn rhagweld y gallai Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gael ei sianelu i’r cronfeydd hyn ochr yn ochr â chronfeydd y sector breifat a chyhoeddus. Fel rheol mae JESSICA yn cael ei ystyried mewn cyd-destun trefol oherwydd graddfa cyffredinol o’r asedau ymglymedig. Nid oes raid i’r mecanwaith olygu unrhyw arian ychwanegol o Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB), er bod y gallu i godi cyllid dyled o Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB), neu sefydliadau cyllido cenedlaethol, yn agwedd allweddol o unrhyw gynllun JESSICA.
Disgwylir i gronfeydd JESSICA fod yn strwythurol fel partneriaethau cyhoeddus/preifat, gyda’r sector cyhoeddus yn cael dim mwy na 50% o’r ecwiti yn yr endid cyfreithiol. Yn unol â safonau ac ymarfer cyfrifeg ni fydd gan y sector gyhoeddus naill ai reolaeth mwyafrif na pherchnogaeth, ac o ganlyniad ni chaiff ei ystyried fel y benthyciwr o unrhyw fenthyciadau a dderbyniwyd gan y bartneriaeth. Mae’r cronfeydd buddsoddi hyn yn debyg i fecanweithiau a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru a rhannau eraill o’r DU yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac maent yn ymddangos fel model ymarferol da ar gyfer datblygu trefol.
Mae’r partneriaid yn rhoi ecwiti yn y cynllun yn gyfnewid am gyfran gyfatebol o’r gronfa. Rhoddir y buddsoddiadau cyhoeddus gan amlaf ar ffurf daliadau tir, ac mae’r cyfraniad preifat fel arfer yn dod mewn arian. Defnyddir Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a chyfraniadau ariannol y sector breifat ynghyd â Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) neu ddyled y sector breifat, i fuddsoddi mewn prosiectau datblygu ar y tir sydd nawr ym mherchnogaeth y gronfa. Gall prosiectau oddi mewn i’r gronfa gynnwys unrhyw weithgaredd a fyddai’n gymwys ar gyfer cefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) (e.e. lleoedd ac adeiladau, adferiad safle, seilwaith trefol, etc). Gall buddsoddiadau’r gronfa hefyd gynnwys gwariant nad yw’n gymwys ar gyfer cefnogaeth y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), fel tai, mân-werthu a hamdden, sydd yn gynhyrchwyr gwerth potensial cryf, cyn belled nad yw elfen y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) o’r cyllido, ac unrhyw arian cyfatebol perthynol yn cael ei ddefnyddio i bwrpas o’r fath.
Bydd y buddsoddiadau, ar draws y gronfa gyfan, angen cynhyrchu adenillion masnachol er mwyn iddo fod yn ddeniadol i gyfranogwyr y sector breifat a hefyd ddarparu cyfle ar gyfer ailgylchu ac ail-fuddsoddi oddi mewn i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Er y bydd yn bosibl, felly, i gynnwys rhai prosiectau nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol bydd yn rhaid bod yna ddigon o botensial economaidd i draws gyllido prosiectau o’r fath ac i gynhyrchu gwerth i ddarparu adenillion ar y buddsoddiad i’r partneriaid. Budd allweddol o ymdriniaeth JESSICA yw y byddai ailgylchu symiau arian yn y dyfodol i’r gronfa neu brosiectau adfywio eraill yn creu etifeddiaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) arwyddocaol.
Yng Nghymru rhagwelir y gellid sefydlu’r Cronfeydd hyn drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac un neu fwy o awdurdodau lleol fyddai wedyn yn tendro am bartner yn y sector breifat ar sail buddsoddiad cyhoeddus (asedau tir a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)) ac yn derbyn arian cyfatebol ar sail punt am bunt gan arian preifat. Gall y gost gychwynnol o sefydlu'r fath gyfrwng cyflenwi corfforedig fod yn weddol uchel ac felly er mwyn bod yn atyniadol i’r buddsoddwr preifat a’r darparwyr dyled bydd angen cyllid cronfa JESSICA fydd angen cyrraedd lefel màs critigol. Mae’n anodd bob yn fanwl gywir am drothwy maint ond mae’r maint dichonadwy lleiaf yn debyg o fod tua £10 miliwn. Esiamplau o fodelau Cymreig sy’n bodoli yw Partneriaeth Ddiwydiannol Gymreig (WIP) a Draig 24LLP.
Rydym yn ystyried cynllun JESSICA ynghynt na chynllun JEREMIE. Y cam cyntaf yw sefydlu ble y gallai JESSICA ychwanegu gwerth at flaenoriaethau sefydledig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adfywio trefol.
Sefydlwyd Grwp Llywio o randdeiliaid cyhoeddus a phreifat a bydd yn cyfrannu agweddau ar y cyfleoedd i ddefnyddio peirianwaith JESSICA.
Y camau nesaf wrth asesu hyfywdra JESSICA yw i:
a) gychwyn astudiaeth cwmpasau ar y fenter JESSICA mewn partneriaeth â Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) fydd yn comisiynu a thalu am yr astudiaeth; a
b) sefydlu pa gyfleoedd, os o gwbl, fyddai’n elwa orau o ddefnyddio mecanwaith JESSICA
Ymddengys fod yna achos clir dros roi JEREMIE ar waith yng Nghymru a, gyda’u profiad o reoli cronfeydd tebyg, comisiynwyd Cyllid Cymru i ddatblygu cais ar gyfer cronfa ERDF (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) fydd yn cael ei hasesu yn erbyn meini prawf dewis brosiect WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru). Gwneir ymarferiad caffaeliad i benodi rheolwyr cronfeydd o’r farchnad agored.
Mae ystyriaeth o JESSICA yn dal i fod mewn cyfnod cynnar a gwybyddir mwy pan fydd yr astudiaeth gwmpasu wedi’i chwblhau yn gynnar yn 2008. Cefnogir yr astudiaeth hon gan y Grwp Llywio Rhanddeiliaid a bydd yn darparu syniad clir i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a WEFO o hyfywdra mentrau JESSICA yng Nghymru.
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol ar hyn o bryd. Bydd cyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn dod o ddyraniadau Cymru a bydd ceisiadau’n cael eu gwneud am hyn drwy’r broses ymgeisio WEFO safonol.
Cyllidir JEREMIE yn bennaf drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a’r Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) (yn cyfri fel dyled y Sector Breifat). Bydd Cyllid Cymru yn gwneud ceisiadau i WEFO a Banc Buddsoddi Ewrop (EIB). Yn ddibynnol ar y cais a lunnir gan Cyllid Cymru, gallai fod yna fwlch bychan yn y cyllid (oherwydd uchafswm cyfraddau ymyrraeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ERDF). Gellid mynd i’r afael â hyn drwy gyllid o’r sector breifat neu gwrdd â gofyn drwy gyllideb Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwybyddir yr anghenion hyn mewn mwy o fanylder pan fydd y ceisiadau wedi’u datblygu’n llawn.
Comisiynwyd astudiaeth gwmpasu ar JESSICA a bydd hyn yn darganfod yr anghenion cyllido manwl gywir. Bydd JESSICA yn cynnwys buddsoddi cyhoeddus (fel arfer daliadau tir), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), cyfraniadau ariannol gan y sector breifat a dyled Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) (neu’r sector breifat). Mae daliadau tir posibl yn cael eu canfod ochr yn ochr â’r astudiaeth gwmpasu.
I nodi cynnwys y papur hwn a’r camau nesaf sydd eu hangen ar gyfer pob offeryn.
Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, AM
Prif Weinidog