Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Cyllid

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am graffu'n briodol ar gyllideb a gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn a’r gwahanol Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyrff y Gwasanaeth Iechyd.

Yn gyffredinol mae gan y Pwyllgor dair phrif swyddogaeth:

  • Ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb y Cynulliad, a chyflwyno adroddiad arnynt;
  • Ystyried y wybodaeth ariannol a gyflwynir gyda Mesurau Cynulliad, a lle bo’n briodol, cyflwyno adroddiad arni;
  • Ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant y Llywodraeth neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw.

Mae Rheol Sefydlog 14 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn am weithdrefnau'r Pwyllgor ac mae Rheol Sefydlog 27 yn nodi’r amserlen ar gyfer trefnu cyfarfodydd gyda golwg ar y broses gyllid.

Ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Mae galwad Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r defnydd o Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat (yn cynnwys cynlluniau Menter Cyllid Preifat) bellach wedi cau. Mae’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth ar hyn o bryd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn yr adran ymchwiliadau y wefan hon.

Aelodaeth

Gellir gweld Aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gallwch weld agendau, papurau a thrawsgrifiadau cyfarfodydd yma.
Mwy>>

Adroddiadau

Gellir gweld adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor yma.
Mwy>>

Dyddiadau cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Iau 22 Mai
  • Dydd Iau 12 Mehefin
  • Dydd Iau 26 Mehefin
  • Dydd Iau 10 Gorffenaf

Gweler yr Agend'au I gael gwybod amseroedd a lleoliad y cyfarfodydd.

Ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor

Mae rhagor o wybodaeth ar ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor: ar gael yma.
Mwy>>