1. Mae Rheol Sefydlog 14.2 yn nodi:
14.2 Caiff y Pwyllgor [Cyllid] hefyd ystyried y canlynol ac, os yw’n gweld yn dda, gyflwyno adroddiadau arnynt:
(i) gwybodaeth ariannol yn y memoranda esboniadol sy’n cyd-fynd â Mesurau Cynulliad arfaethedig;
2. Ystyriodd y Pwyllgor Fesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gyfarfod ar 1 Ebrill 2009.
Yr hyn y byddai’r Mesur arfaethedig yn ei wneud
3. Prif ddiben y Mesur arfaethedig yw rhoi sail statudol i swydd y Comisiynydd Safonau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn sicrhau bod y Comisiynydd, ar ôl ei benodi, yn cael ei weld yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad ac y bydd, felly, yn gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad yn hollol wrthrychol. Yn ogystal â hyn, bydd yn rhoi’r gallu i’r Comisiynydd roi cyngor i’r Cynulliad ynghylch unrhyw fater yn ymwneud â hybu safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus. Yn gyffredinol, bydd yn cyfrannu at gadw safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus wrth gynnal busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
4. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r costau a oedd yn gysylltiedig â swydd y Comisiynydd Safonau yn ystod 2007-08, sef:
£ |
|
|---|---|
| Costau staff | 10,250 |
| Costau llety | 3,062 |
| Comisiynydd (gan gynnwys Yswiriant Gwladol) | 22,929 |
| Cyfanswm | 36,241 |
5. Y brif eitem gwariant yw tâl y Comisiynydd - sef £320 y diwrnod ynghyd â "thâl cadw” o £4,500. Caiff costau teithio a chynhaliaeth eu talu’n unol â chyfraddau staff y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n rhaid i’r Comisiynydd weithio’r oriau hynny sy’n angenrheidiol i’w alluogi i gyflawni ei ddyletswyddau. Ar sail diwrnod gwaith o 8 awr, mae’r Comisiynydd, ar gyfartaledd, wedi gweithio ychydig dros 4 diwrnod llawn y mis yn ystod y deunaw mis diwethaf.
6. Ar hyn o bryd Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n darparu llety ac mae’r costau’n cael eu hamcangyfrif yn ôl methodoleg dderbyniol.
7. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi nad oes modd gwneud amcangyfrif rhesymol o gostau pe bai Mesur yn cael ei gyflwyno. Does dim rheswm dros ddisgwyl gweld newid arwyddocaol, fodd bynnag. Nodir bod yr amcangyfrif o’r costau sydd ynghlwm wrth swydd y Comisiynydd Safonau presennol yn rhoi syniad cyffredinol o gostau tebygol swydd statudol a bod y rhan helaeth o’r costau’n deillio o lefel y gweithgarwch y mae ei angen i ymchwilio i gwynion sy’n dod i law.
8. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod rhai agweddau ar y Mesur a allai olygu costau ychwanegol gan eu bod yn wahanol i’r sefyllfa bresennol ee rhoi tâl rhesymol i dystion. Byddai’r Mesur hefyd yn cynnwys y gallu (newydd) i roi cyngor i’r Cynulliad ynghylch hybu safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus. Gallai hyn arwain at lefelau uwch o weithgarwch a chostau ychwanegol ond nid yw hynny’n debygol o fod yn arwyddocaol.
9. At ddibenion cymharu, £54,665 oedd cyfanswm costau cyflog Comisiynydd Safonau Senedd yr Alban yn 2007-08 (mae’n gweithio gartref a does dim costau staff na llety ychwanegol.)
10. Daw’r Memorandwm Esboniadol i’r casgliad nad oes fawr o le i gredu y byddai creu Comisiynydd Safonau statudol [yng Nghymru] ynddo’i hun yn arwain at unrhyw gynnydd sylweddol o ran costau. Yr hyn sy’n effeithio fwyaf ar y gost yw lefel y gweithgarwch, sy’n amrywio un flwyddyn i’r llall p’un a yw’r rôl yn statudol ai peidio.
11. Tua £36,000 oedd cyfanswm y gost a oedd ynghlwm wrth swydd y Comisiynydd Safonau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007-08. Prif ddiben y Mesur arfaethedig yw sicrhau annibyniaeth a gwrthrychedd y Comisiynydd Safonau a rhoi pwerau ychwanegol iddo fo neu iddi hi i ganiatáu iddo neu iddi ymchwilio i gwynion yn fwy trylwyr. Er, yn ddamcaniaethol, gallai’r pŵer i ymchwilio i gwynion yn fwy trylwyr arwain at ragor o waith - gall hefyd, os yw’n golygu y caiff gwybodaeth ei datgelu’n fwy parod, arwain at ostyngiad yn y llwyth gwaith. Byddai wedi bod yn ddiddorol gwybod a fu unrhyw newid amlwg pan ddaeth swydd Comisiynydd Safonau Senedd yr Alban yn swydd statudol yn 2002.
12. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn nodi a yw’r newid yn debygol o gael unrhyw effaith ar nifer y cwynion a wnaed ond does dim tystiolaeth bod pobl yn amharod i wneud cwynion ar y sail eu bod yn anfodlon ar y modd yr ymchwilir iddynt. Ymddengys ei bod yn rhesymol dod i’r casgliad nad yw cyfanswm nifer y cwynion yn debygol o gynyddu.
13. Er yr ansicrwydd, mae’r symiau sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig yn gymharol fach. Gan ragdybio na fydd cyfraddau tâl y Comisiynydd a chyfraddau treuliau etc yn newid rhyw lawer, mae’n anodd gweld y bydd ariannu’r Mesur arfaethedig yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar raglenni eraill. Hefyd, os yw costau’n cynyddu oherwydd bod y galw’n cynyddu, mae’n debygol y dylid croesawu hyn.
14. Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ystyried y costau a gyflwynwyd yn y Memorandwm Esboniadol i Fesur Arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n nodi’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth yr amcangyfrifon ond, hyd yn oed o ystyried hyn, daw i’r casgliad bod effaith y Mesur, o safbwynt cyllid, wedi’i asesu’n rhesymol. Er y gallai’r Mesur arwain at gynnydd mewn gwariant, ni ddylai hwn fod yn gynnydd mawr ac ni ddylai effeithio llawer ar raglenni eraill cyhyd ag y bo cyfraddau tâl a threuliau’n aros yn weddol ddigyfnewid. O safbwynt ariannol, nid oes gan y Pwyllgor unrhyw wrthwynebiad i’r mesur arfaethedig.