Y Pwyllgor Cyllid
Canllawiau ar wybodaeth i gyd-fynd â Mesur Cynulliad arfaethedig
1. Mae Rheol Sefydlog 23.18, yn yr adran "Dogfennau i gyd-fynd â Mesur Arfaethedig” , yn nodi ”
23.18 Ar yr un pryd ag y bydd Aelod yn cyflwyno Mesur arfaethedig, rhaid
hefyd gosod Memorandwm Esboniadol y mae’n rhaid iddo: …
(vi) nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol: :
(a) unrhyw gostau gweinyddol, costau cydymffurfio a chostau eraill y byddai darpariaethau’r Mesur arfaethedig yn arwain atynt;
(b) dros ba gyfnodau amser y disgwylid i’r costau hynny godi; a
(c) lle y byddai’r costau’n syrthio;
2. Mae angen i’r Pwyllgor Cyllid fedru asesu a yw goblygiadau ariannol posibl y Mesur arfaethedig, a’r tybiaethau y cafodd ei seilio arnynt, yn rhesymol ac yn realistig. I wneud hyn, mae angen i’r Pwyllgor fedru deall ar ba sail y mae’r Llywodraeth, neu’r Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur arfaethedig, wedi asesu goblygiadau ariannol posibl y Mesur arfaethedig.
3. Mae’r Pwyllgor yn derbyn nad fydd yn bosibl rhoi ffigyrau manwl mewn rhai achosion, ond, ym mhob achos, dylai fod yn bosibl cyflwyno’r wybodaeth lawnaf bosibl i sicrhau tryloywder ac eglurder yn y broses o gostio goblygiadau ariannol posibl y Mesur arfaethedig.
4. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys datganiadau clir sy’n rhoi amcangyfrif o effaith ariannol posibl y Mesur, am o leiaf 3 blynedd; a gosod allan yn fanwl;
ffynonellau a dyddiadau’r data a ddefnyddiwyd;
y cyfrifiadau neu’r modelau ariannol a ddefnyddiwyd;
yr amcangyfrifon a/neu’r tybiaethau a wnaed; a
pa mor gywir a dibynadwy yw’r ffigyrau, yr amcangyfrifon a’r tybiaethau a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo ac wrth bennu’r costau terfynol.
5. Os nad yw’n bosibl rhoi amcangyfrif manwl, dylid cynnig ystod o gostau (isafswm ac uchafswm).
6. I hwyluso’r broses ddeddfwriaethol gall swyddogion gysylltu â Chlerc y Pwyllgor unrhyw adeg i drafod y wybodaeth a all fod ar gael i’r Pwyllgor.
Angela Burns
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Ionawr 2009
