Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Health, Wellbeing and Local Government Committee
HWLG(3)-01-09
Janet Ryder AC
Cadeirydd
Y Pwllgor Is-ddeddfwriaeth
26 Ionawr 2009
Annwyl Janet
Ymchwiliad i’r gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth a phwerau dirprwyedig
Rwyf yn ateb llythyr Dai Lloyd, dyddiedig 6 Ionawr, at Gadeiryddion y Pwyllgorau yn gofyn am eu barn am y rôl y dylid ei roi i bwyllgorau eraill yn y gwaith o graffu ar is-ddeddfwriaeth a Mesurau’r DU.
Bu’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn trafod llythyr Dai yn y cyfarfod ar 22 Ionawr ac rydym yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu.
Yn gyffredinol, nid oedd y Pwyllgor yn awyddus i geisio ail-greu’r sefyllfa a fodolai yn y Cynulliad cyntaf a’r ail Gynulliad pan fyddai’r pwyllgorau’n ceisio rhoi sylw manwl i is-ddeddfwriaeth. Byddai hynny’n golygu nad oedd gennym ddigon o amser i ymdrin â gwaith craffu mwy cynhyrchiol ac nid ydym yn awyddus i ymgymryd eto â’r lefel honno o waith craffu manwl a rheolaidd mewn perthynas â deddfwriaeth a oedd yn aml yn ddigon cyffredin yn y pen draw.
Wedi dweud hynny, rydym yn teimlo y dylai pwyllgorau craffu fod â rôl yn y gwaith o ystyried rhinweddau darnau penodol o is-ddeddfwriaeth a fyddai o ddiddordeb amlwg iddynt o ran polisi. Byddai rheoliadau sy’n deillio o’r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, er enghraifft, o ddiddoredeb yn y dyfodol i’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.
Hefyd, dylai pwyllgorau craffu fod â rôl yn gwaith o drafod deddfwriaeth a wnaed yn San Steffan ac sy’n effeithio ar bwerau’r Cynulliad neu’n cyflwyno newidiadau yng Nghymru mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Byddai’r Mesur Democratiaeth Leol, Datblygu Economiadd ac Adeiladu, a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr yn enghraifft o Fesur tebyg o safbwynt y Pwyllgor hwn.
Mae’r Pwyllgor yn sylweddoli bod rhai problemau ymarferol yn gysylltiedig â hyn, yn enwedig o ran cael digon o fanylion am ddeddfwriaeth sydd ar y gweill a’u cael mewn da bryd i fedru eu trafod yn ystyrlon. Roeddem yn gallu manteisio ar gyngor Dai Lloyd yn y cyswllt hwn, a bydd gan eich Pwyllgor rôl amhrisiadwy os gall greu cysylltiadau a systemau sganio’r gorwel a rhybuddio brys a fyddai’n rhoi digon o amser i bwyllgorau (a’ch Pwyllgor chithau) graffu’n ystyrlon ac yn rhagweithiol ar is-ddeddfwriaeth.
Gobeithio y bydd hyn o gymorth i chi. Rwy’n anfon copi o’r llythyr at Gadeiryddion y pwyllgorau craffu eraill er gwybodaeth.
Yn gywir
Jonathan Morgan
Cadeirydd