Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Health, Wellbeing and Local Government Committee

HWLG(3)-01-09

Dr Brian Gibbons AC
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
22 Ionawr 2009

Annwyl Brian

Rhoi Trefniadau Cyflog Cyfartal ar Waith ym myd Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 15 Ionawr ac am ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch rhoi trefniadau cyflog cyfartal ar waith ym myd llywodraeth leol yng Nghymru. Fel y gwyddoch, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac UNSAIN Cymru.

Rwy’n ysgrifennu atoch i grynhoi rhai o’r prif bwyntiau a gyflwynwyd yn y dystiolaeth ac i ofyn i chi ymateb lle bo hynny’n briodol. Rydym hefyd wedi cytuno ar bedwar argymhelliad cychwynnol penodol yr hoffem i chi eu hystyried.

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn faes cymhleth sy’n ymwneud â phroses fanwl o werthuso a thrafod swyddi lle mae angen cydbwyso’r ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau trefniadau cyflog cyfartal a theg sy’n rhoi gwerth am arian i drethdalwyr. Mae’r cefndir cyfreithiol cymhleth a chyfnewidiol yn parhau i ychwanegu at y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth y broses.  

Er hyn, bron 40 o flynyddoedd ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth gyntaf ym maes cyflog cyfartal, mae’n destun cryn bryder i ni fod rhan sylweddol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn dal heb roi systemau cyflog cyfartal ar waith a bod staff yn dal i aros am yr iawndal sy’n ddyledus iddynt oherwydd gwahaniaethu annheg yn y gorffennol. Rwy’n siŵr eich bod chithau’n rhannu’r pryderon hyn.

Pwerau Cyfreithiol Gweinidogion Cymru

Rydych wedi addo rhoi gwybod i ni a oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau cyfreithiol y gallent eu defnyddio i orfodi awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â’r mater ynghynt. Er ein bod yn deall bod rhesymau a allai beri i chi fod yn amharod i ddefnyddio’r pwerau o’r fath, byddai’n dal yn ddefnyddiol i ni gael datganiad clir o’ch pwerau a’ch dyletswyddau yn y maes hwn.     

Yn eu tystiolaeth, cyfeiriodd UNSAIN Cymru ar adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Byddai’n ddefnyddiol cael gwybod i ba raddau y gallai’r darpariaethau hyn fod yn gymwys i’r mater hwn yn eich barn chi.

Bu i chi hefyd gyfeirio yn eich tystiolaeth at y ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn am bwerau ychwanegol, drwy’r Mesur Cydraddoldeb y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno. Byddai’n ddefnyddiol gwybod pa fath o bwerau y credwch a allai ddeillio o’r Mesur a fyddai’n eich rhoi mewn gwell sefyllfa i helpu i wella’r sefyllfa yng nghyswllt cyflog cyfartal ym myd llywodraeth leol yng Nghymru.  

Cymorth ariannol i Awdurdodau Lleol

Adnoddau

Yn eich tystiolaeth, bu i chi gyfeirio at y cynnydd o 1.5% y flwyddyn yn y bil cyflogau ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn athrawon. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’i gynnwys yn llinell sylfaen y Grant Cymorth Refeniw ar gyfer blynyddoedd ariannol 2005-06 a 2007-08.  Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthym mai 1.24% oedd y cynnydd mewn gwirionedd yn 2006-07. A fyddech cystal â chadarnhau y bu’r cynnydd yn 2007-08 mor uchel nes creu cynnydd o 4.5% at ei gilydd.  

Olrhain gwariant

Fe’n synnwyd braidd i ddeall nad oes gan y Llywodraeth, yn ôl pob golwg, ddim, neu fawr ddim, gwybodaeth am faint o’r arian ychwanegol a gafodd ei gynnwys yn y Grant Cymorth Refeniw sydd wedi’i wario mewn gwirionedd ar geisio sicrhau cyflog cyfartal neu sydd wedi’i gadw wrth gefn at y diben hwn. Credwn y dylem, o leiaf, fod yn gallu olrhain faint o arian y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi’i gael a faint ohono y maent wedi’i wario ar gyflog cyfartal. Dywedodd CLlLC, yn eu tystiolaeth, y bydd gwybodaeth am hyn ar gael i archwilwyr awdurdodau lleol. O ystyried hyn:   

Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru bennu ar fyrder:

swm yr arian ychwanegol y mae pob awdurdod lleol wedi’i gael o ganlyniad i’r cynnydd o 4.5% yn y bil cyflogau;

faint o arian y mae pob awdurdod wedi’i wario ar roi systemau cyflog cyfartal ar waith;

faint o arian y mae pob awdurdod wedi’i gadw wrth gefn er mwyn rhoi systemau cyflog cyfartal ar waith yn y dyfodol.

Sylweddolwn y gallai rhai agweddau ar y wybodaeth hon wanhau sefyllfa awdurdodau unigol mewn trafodaethau, pe baent yn cael eu cyhoeddi. Byddem yn fodlon i’r wybodaeth gael ei rhoi mewn modd sy’n eu diogelu yn y cyswllt hwn.  

Neilltuo cyllid

Yn gyffredinol, nid ydym o blaid neilltuo’r cyllid a roddir i awdurdodau lleol at ddibenion penodol gan mai’r cynghorau lleol, yn aml, sydd yn y sefyllfa orau i adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau lleol penodol.  

Yn yr achos hwn, fodd bynnag nid ydym wedi’n argyhoeddi ar hyn o bryd y dylai’r ffactorau hyn barhau i gael blaenoriaeth dros yr angen i weithredu dyletswyddau cyfreithiol clir iawn yng nghyswllt agwedd mor allweddol ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Roedd yn amlwg o’ch sylwadau nad oeddech chithau wedi’ch argyhoeddi mai neilltuo cyllid yw’r ffordd ymlaen.  Fodd bynnag, os oes tystiolaeth bod awdurdodau lleol yn llusgo’u traed, credwn y dylid ystyried tynnu cyllid yn ôl oddi ar yr awdurdodau hynny.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried gwrthod cyllido Awdurdodau Lleol ar ôl rhyw ddyddiad penodol os nad ydynt wedi cwblhau eu trefniadau cyflog cyfartal neu os na allant ddangos cynnydd mesuradwy tuag at wneud hynny.

Rhwymedigaethau dyledus  

Wrth gymryd tystiolaeth, clywsom fod rhai awdurdodau yn credu nad oes ganddynt unrhyw rwymedigaethau i dalu ôl-daliadau a bod eu system gyflogau eisoes yn seiliedig ar egwyddorion cyflog cyfartal.  Rydym braidd yn amheus a oes unrhyw awdurdod lleol nad oes ganddo rywfaint o rwymedigaeth i dalu ôl-daliadau neu nad oes angen iddo wella rywfaint ar ei strwythur cyflogau. Os oes awdurdodau yn y sefyllfa hon, fodd bynnag, mae’n amlwg yn wastraff arian cyhoeddus i barhau i roi arian iddynt yn ddiangen.

Rydym yn argymell na ddylai Llywodraeth y Cynulliad barhau i roi arian ychwanegol i’r awdurdodau hynny sydd wedi dweud nad oes ganddynt unrhwy rwymedigaeth i dalu ôl-daliadau ac nad oes angen iddynt newid eu systemau cyflogau.  

Camau i’w cymryd yn y dyfodol

Roedd pawb a roddodd dystiolaeth, gan eich cynnwys chi, yn teimlo bod cryn dipyn o ewyllys da ar y dechrau ymhlith yr holl bartïon perthnasol (Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol ac undebau llafur) i ddatrys y broblem hon yn gyflym. Fodd bynnag, roedd UNSAIN yn enwedig yn teimlo fod y brwdfrydedd cychwynnol wedi’i golli, bod diffyg ffocws ar hyn o bryd a bod angen i Lywodraeth y Cynulliad fod yn fwy rhagweithiol. Cytunwn fod angen i ni hoelio’n sylw unwaith eto ar y broblem hon a phwysleisio bod arian cyhoeddus yn dibynnu ar dystiolaeth o gynnydd, neu’r posibilrwydd gwirioneddol o wneud cynnydd. Er nad ydym wedi’n argyhoeddi, o reidrwydd, mai dyma fydd yr ateb i’r holl broblemau:

Rydym yn argymell fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn trefnu cyfarfod brys ar gyfer pawb sydd ynghlwm wrth y mater hwn er mwyn hoelio sylw ar y broblem unwaith eto a chyflymu’r broses o roi trefniadau cyflog cyfartal ar waith ym myd llywodraeth leol yng Nghymru.

Casgliad

Nid ydym wedi’n hargyhoeddi’n llwyr fod angen trafod y mater eto yn y Cyfarfod Llawn. Gan hynny, rydym wedi penderfynu peidio â chyflwyno adroddiad ffurfiol am y mater i’r Cynulliad ar hyn o bryd. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y byddwn yn penderfynu gwneud hynny ar ôl cael eich ymateb i’r llythyr hwn ac i’n hargymhellion. Nifer fechan o argymhellion sydd gennym ac, ar yr wyneb, nid ydynt yn gofyn am ymatebion cymhleth, o leiaf yng nghyswllt yr egwyddorion dan sylw. Byddem felly’n ddiolchgar pe baech yn gallu ymateb yn fuan a chyn diwedd y toriad hanner tymor os oes modd.

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Steve Thomas yn CLlLC a Paul Elliott yn UNSAIN. Cyhoeddir copi ar ein tudalennau ar y we hefyd ynghyd â’ch ymateb maes o law.

Yn gywir

Jonathan Morgan

Cadeirydd